Y Bencampwriaeth: Blackburn Rovers 0-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Liam CullenFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Cullen ei gap cyntaf i Gymru yn y fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Gibraltar

Roedd gôl Liam Cullen yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i Abertawe oddi cartref yn erbyn Blackburn Rovers.

Fe ddechreuodd yr ymwelwyr yn dda gyda Jamal Lowe yn rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd ddwywaith, ond roedd yr ymosodwr yn camsefyll ar y ddau achlysur.

Ond wedi hanner awr, wedi chwarae da gan Charlie Patino, fe ergydiodd Cullen yn bwerus gyda'i droed chwith o ochr dde'r cwrt cosbi i gornel y rhwyd.

Cafodd Jamie Paterson gyfle i ddyblu mantais Abertawe yn gynnar yn yr ail hanner wedi chwarae llac gan amddiffynwyr Blackburn, ond fe lwyddodd Leopold Wahlstedt i arbed yn dda.

Daeth y tîm cartref yn agos i unioni'r sgôr drwy Sammie Szmodics, ond doedd yr ymosodwr ddim yn gallu curo golwr Abertawe, Carl Rushworth.

Dyma'r drydedd gêm oddi cartref yn olynol i Abertawe ei hennill, ac mae'n golygu bod yr Elyrch yn codi i'r 13eg safle yn y Bencampwriaeth.