Y straen o 'rygnu ymlaen' yn nyddiau tywyll y gaeaf
- Cyhoeddwyd
Gyda'r clociau'n troi'n ôl dros y penwythnos yma a'r dyddiau'n parhau i fyrhau, mae'r misoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai heriol i'r holl bobl sy'n teimlo symptomau tymhorol o iselder.
Mae SAD (Seasonal Affective Disorder) yn cael ei disgrifio fel iselder y gaeaf, ac yn amharu ar fywydau tua dwy filiwn o bobl yn y DU.
Mae'r symptomau'n debyg iawn i rai iselder, gan gynnwys diffyg ysbryd, egni ac awydd i wneud pethau sydd fel arfer yn bleserus.
Un sydd "yn anffodus, yn gyfarwydd iawn" â'r symptomau hynny yw Hynek Janousek - cyfieithydd yn ninas Prâg yng Ngweriniaeth Tsiec, sy'n siaradwr Cymraeg rhugl.
"Dwi'n tueddu i fod yn gysglyd drwy'r amser," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.
"Mae'n anodd i mi godi yn y bore a wedyn mae hynny'n cael effaith ar faint o waith dwi'n llwyddo i'w wneud - ac wedyn dwi ddim mor weithgar o ran bywyd cartrefol 'chwaith.
"[Does] dim llawer o awydd mynd i lefydd, fel mynd ar wibdeithie fel dwi'n caru 'neud yn yr haf, er enghraifft.
"Mae'n gallu bod yn eitha' gwael, ac ar ben hynny mae'n gwneud i chi deimlo dan straen achos 'ych chi'n ymwybodol o'r ffaith eich bod chi'n ffili gwneud cymaint ag 'ych chi'n arfer 'neud, dyweder, yn y gwanwyn neu yn yr haf."
Dywedodd Hynek ei fod heb fynd i fanylder ynghylch ei gyflwr gyda'i gyflogwyr, ond ei fod wedi datgan ei fod "yn fwy blinedig yn y gaea' a dyna fe".
Ei waith yw cyfieithu straeon newyddion am ddatblygiadau yn ei famwlad i'r Saesneg.
"Does dim llawer o le, yn anffodus, yn y gwaith dwi'n 'neud i fod yn llai gweithgar felly dwi'n gorfod trio gwneud fy ngore i ymdopi... dwi'n gorfod rhygnu ymlaen," dywedodd.
Dydy Hynek ddim yn cymryd meddyginiaeth at y cyflwr, gan nad yw'n gyfforddus gydag effeithiau gwrthfiotegau arno, o roi cynnig arnyn nhw yn y gorffennol.
"Fy mhrofiad i yw ar ôl ychydig o fisoedd o gymryd y feddyginiaeth dwi fel 'swn i'n mynd i rhyw gyflwr di-hid a methu teimlo'r byd o 'nghwmpas, fel petai."
Un peth y mae'n rhagweld allai fod yn hwb iddo dros y gaeaf eleni yw'r ychwanegiad diweddaraf i'w aelwyd.
"Mae gyda ni gi bach newydd nawr ers yr haf felly mae'r ci ei hunan ym gymorth mawr i mi.
"Dwi'n mynd am droeon gyda hi yn ystod y dydd a ma' hwnne'n help mawr.
"Mae hefyd yn chwareus ac yn llawen iawn ac felly mae hwnne yn codi fy nghalon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019