Neil Foden: Prifathro yn y llys ar gyhuddiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Neil Foden trwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn

Mae prifathro sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ymddangos yn y llys.

Mae Neil Foden, 66, o Hen Golwyn, Sir Conwy, yn wynebu tri chyhuddiad gan gynnwys gweithgarwch rhywiol gyda merch rhwng 13 a 15 oed a chyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.

Cafodd gwrandawiad paratoi cyn yr achos, a barodd 15 munud, ei gynnal yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Llun ger bron y Barnwr Rhys Rowlands.

Ymddangosodd Mr Foden drwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn, gan gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni a'i fod yn gallu dilyn y gwrandawiad.

Cafodd cyfyngiadau gohebu eu cyflwyno.

Mae disgwyl i Mr Foden ymddangos nesaf yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 5 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig