Môn: Gwrthod cais i droi hen fferm foch yn fythynnod gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cais i adeiladu 25 o fythynnod gwyliau ar safle hen fferm foch wedi ei wrthod yn unfrydol gan gynghorwyr Môn brynhawn Mercher.
Yn ôl datblygwyr byddai'r cais ym Modwina Bellaf, Gwalchmai wedi hybu'r economi leol drwy chwalu'r adeiladau presennol a datblygu'r safle at ddefnydd gwyliau.
Ond roedd y cynlluniau arfaethedig, a gafodd eu cyflwyno gyntaf yn 2021, wedi denu gwrthwynebiad yn lleol gan gynnwys deiseb â 200 o enwau.
Ymysg y pryderon oedd effaith negyddol ar y Gymraeg a bod y ffordd gyfagos yn rhy gul i ymdopi gyda'r traffig ychwanegol.
'Anferth o ddatblygiad'
Dywedodd swyddogion cynllunio fod y safle "mewn cyflwr gwael iawn" a bod yr adeiladau yn "dadfeilio fel nad oes modd eu defnyddio".
Yn ôl y datblygwyr byddai caniatáu'r cais yn gwella edrychiad y safle ac yn hybu'r economi leol, gan greu pedair swydd llawn amser.
Ond barn swyddogion adran gynllunio Cyngor Môn oedd y dylid eu gwrthod.
Er bod swyddogion yn teimlo fod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol, roedd yr adran briffyrdd wedi datgan pryder na all y cynllun ddarparu pum man pasio ar y ffordd gul - sy'n cael ei ystyried yn angenrheidiol i wneud ffordd o'r fath yn addas.
Roedd 62 llythyr o wrthwynebiad a deiseb â 200 o enwau hefyd wedi'u derbyn yn erbyn y datblygiad, gydag ond saith llythyr o blaid.
Roedd y cynlluniau hefyd yn cael eu gwrthwynebu gan Gyngor Cymdeithas Bodffordd, a oedd wedi codi pryderon am sawl agwedd o'r datblygiad gan gynnwys y trefniadau draenio, addasrwydd y ffordd yn arwain ati, cynaladwyedd y lleoliad a'r effaith ar y Gymraeg
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry wrth Cymru Fyw: "Mae'n anferth o ddatblygiad o ystyried pa mor wledig ydy'r ardal o'i chwmpas.
"Dwi'n deall bod problemau wedi bod yn prynu tir i greu digon o fannau pasio, ac mi fasa gymaint â hynny o siales yn creu dipyn o draffig yn yr haf."
Yn eu cais dywedodd yr ymgeisydd, Cliff Williams drwy law cwmni cynllunio Cadnant: "Mae'r datblygiad arfaethedig yn ceisio lleoli 25 o unedau siales gwyliau ar safle fferm foch sydd wedi dirywio'n sylweddol yn ei olwg ers i'r defnydd amaethyddol ddod i ben.
"Mae'r datblygiad yn ceisio dod â ffynhonnell incwm i ardal wledig a fydd yn arwain at ardal fwy amrywiol ac economaidd fywiog.
"Byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu ag ymwelwyr am gyfleusterau a gwasanaethau lleol er mwyn annog sgil-effeithiau gwariant o fewn yr economi leol, sydd yn ei dro yn cefnogi cymuned lle gall y Gymraeg ffynnu."
Ychwanegon nhw: "Lle bo modd, byddai contractwyr lleol a chwmnïau o'r gymuned leol yn cael eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu.
"Mae hyn yn rhoi cyfle i gefnogi busnesau lleol, llawer ohonynt yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cyflogi siaradwyr Cymraeg lleol."
Ond brynhawn Mercher fe wrthodwyd y cais yn unfrydol wrth i aelodau o'r pwyllgor cynllunio ddilyn yr argymhelliad.
Dadl y datblygwyr, a oedd yn cael eu cynrychioli gan Sioned Edwards o gwmni Cadnant, oedd y byddai'r datblygiad yn cynnwys creu mannau pasio newydd ac yn gwella'r ffordd.
Ychwanegodd mai'r ffaith bod un man pasio allan o'r pump ddim yn cyrraedd gofynion yr adran briffyrdd oedd unig sail yr argymhelliad i wrthod.
Ond dywedodd Maldwyn Owen, oedd y siarad ar ran trigolion lleol, fod Cyngor Cymuned Trewalchmai hefyd wedi datgan gwrthwynebiad.
"Mae'n ardal rhy fach i gymryd gymaint â hyn o unedau, fasa'n creu pentref newydd mewn ardal cefn gwlad Cymreig," meddai, gan ychwanegu mai ond 26 o bobl oedd yn byw yn yr ardal gyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie ei fod yn "amhosib peidio gwrthod" y cais, tra ychwanegodd y Cynghorydd Non Dafydd nad oedd rheswm pam fod y cais wedi cyrraedd y pwyllgor cynllunio o gwbl ac "nad oedd rheswm digonol i gefnogi".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023