Guto Harri: 'Angen i ASau Cymru ddangos mwy o uchelgais'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru a'i gwleidyddion fod yn "llawer mwy uchelgeisiol," yn ôl y cyn-ohebydd gwleidyddol a chyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson, Guto Harri.
Mewn cyfweliad â rhaglen Beti a'i Phobol dywed nad oes dyfodol i Gymru annibynnol os nad yw'n gallu sefyll ar ei thraed ei hun.
"Mae Cymru'n wlad ac yn haeddu cael sefyll ar ei thraed ei hun, ond os yw hynny i ddigwydd mae'n rhaid i Gymru a'i gwleidyddion fod yn llawer mwy uchelgeisiol," meddai.
"Rhaid cael llewyrch economaidd a chreu golud. Rhaid i rywun greu y golud, creu y swyddi, creu y cyfleon sydd yn galluogi chi i godi trethi.
"Ar y funud dyw Cymru ddim yn codi digon o drethi i dalu y budd-daliadau sy'n cael eu gwario yng Nghymru - felly petai Cymru yn wlad annibynnol ar hyn o bryd, byddai'n suddo'n gloi iawn.
"Mae gormod o ddibyniaeth yng Nghymru ar gymryd arian allan o'r trysorlys yn hytrach na rhoi arian i fewn - felly os oes unrhyw un o ddifri' am weld Cymru yn sefyll ar ei thraed ei hun, mae'n rhaid dechrau gyda chreu golud economaidd cyn datganoli mwy o bwerau yn wleidyddol."
'Angen newyddiaduraeth gyhyrog'
Gan gyfeirio at y Senedd bresennol dywed Mr Harri ei fod yn teimlo bod yna ddiffyg uchelgais a "bod yna ddim gwasg gyhyrog yng Nghymru sy'n rhoi amser caled... mae angen newyddiaduraeth mwy cyhyrog".
"Mae angen newyddiaduraeth gyhyrog er mwyn cadw gwleidyddiaeth yn bur ac os yw gwleidyddion Cymru yn cael mymryn o'r pwysau o'n i'n deimlo yn rhif 10 llynedd falle byddai'r penderfyniadau [gwleidyddol] yn well a'r uchelgais yn fwy.
"Dyw e ddim syndod bod y diffyg uchelgais yn affwysol ac oherwydd hynny mae diffyg cariad pobl Cymru at y corff yn drawiadol iawn ac mae angen rhywun â thân yn ei fol i gydio yn yr awenau."
Wrth gael ei holi am ei edmygedd o'r cyn-Brif Weinidog Boris Johnson, dywedodd "nad oes lot o bobl fel Boris - pobl sydd â thân yn eu boliau ac am newid pethau sylfaenol".
"Mae'n codi'n y bore ac yn grac bo' ni ddim wedi buddsoddi mwy mewn gorsafoedd niwclear fel bo' ni ddim ar drugaredd y Dwyrain Canol neu nwy o Rwsia.
"Mae Rishi Sunak wedi canslo'r rhaglen niwclear, mae wedi canslo rheilffordd newydd o'dd Boris eisiau i helpu gogledd Lloegr, mae wedi canslo ymrwymiadau i wella'r amgylchedd - dyna'r gost o gael gwared ar Boris.
"Roeddwn i wedi fy siomi yn fawr ei fod yn cefnogi Brexit a rwy' wedi bod yn feirniadol ohono am hynny ond bellach mae'n rhaid i ni 'neud Brexit i weithio.
"Rwy'n gwybod faint o les 'naeth e fel maer Llundain pan o'n i'n gweithio gydag e am bedair blynedd, a dyna'r math o beth o'dd e moyn 'neud ar gyfer Prydain gyfan.
"'Naeth 14 miliwn o bobl bleidleisio drosto fe yn Etholiad Cyffredinol 2019 - pobl na fyddai'n breuddwydio dros Tory arall."
Mae'n cyfeirio hefyd at ddawn ysgrifennu Boris Johnson.
"Lle mae 'na gyfle mae Boris yn ailysgrifennu areithiau - ac felly maen nhw'n fwy cofiadwy," meddai Mr Harri.
"Mae gydag e ddawn gyda geiriau... ac mae'r ffaith fod Boris yn cael ei dalu fwy am golofn bapur newydd nawr nag unrhyw un arall yn dweud rhywbeth am ei ddawn sgwennu e."
Cynnig i sefyll ar ran pob plaid
Ychwanegodd Guto Harri ei fod wedi cael cynnig gweithio i gyn-Brif Weinidog arall yn Downing Street, sef David Cameron, ond nad oedd ei arweinyddiaeth ef yn ei "ddenu ddigon".
Dywedodd hefyd ei fod wedi cael cynnig sefyll fel ymgeisydd dros bob plaid a'i fod wedi cael cwynion gan bob plaid pan yn ohebydd gwleidyddol.
"Ro'n i'n agos iawn i fynd i weithio i Ron Davies, pan oedd e'n Ysgrifennydd Cymru," meddai, a hynny am ei fod yn wleidydd uchelgeisiol a phositif - ac yn un oedd yn pontio'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg.
"Rwy' wastad wedi edmygu pethau mewn gwahanol bleidiau."
Ychwanegodd ei fod yn gresynu gweld "y polareiddio dychrynllyd sydd bellach yn digwydd" ym mywyd cyhoeddus - yn enwedig yn y byd gwleidyddol.
"Ni wedi cyrraedd sefyllfa lle dyw pobl ddim yn ymresymu yn aml. Dyw pobl ddim â lot o ddiddordeb mewn perswâd - maen nhw'n dewis eu hochr," meddai.
"Dwi wedi llwyddo i bechu pobl ar y ddau begwn ar hyd fy mywyd a dal i 'neud.
"Mae modd bod yn gwbl ddigywilydd ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n ddi-wardd yn ysgrifennu o dan ffugenwau - mae'n rhaid anwybyddu y pethau 'ma neu fyddech chi jyst ddim yn 'neud dim byd."
Blair yn waeth na Partygate
Wrth gael ei holi am bartïon Downing Street yn ystod Covid mae Mr Harri yn dweud y dylid fod wedi cyfaddef yr hyn ddigwyddodd yn syth a rhoi rhesymau am hynny.
"Mae'r wasg wedi gwrthod gadael y peth i fynd o gwbl... a dyw e ddim yn glir, o anghenraid, bod canllawiau wedi'u torri gyda nifer o'r digwyddiadau - yn sicr y rhai oedd y prif weinidog yn rhan ohonyn nhw.
"Ond mae'n edrych yn ofnadwy. Petai Boris, cyn y Nadolig, wedi jyst dweud 'dyna pam na'th e ddigwydd a rwy'n gwybod bod e'n ofnadwy... ond o'dd y bobl 'ma yn gweithio'n galed ac yn byw ar ben ei gilydd... mewn 'stafelloedd bach â thoeau isel' a phe bai e jyst wedi dweud 'dyna yw e a rwy'n rili sori' fe fyddai pobl wedi maddau iddo fe yn gloi iawn.
"Unwaith o'ch chi'n dweud nad oedd dim partïon mae fel tarw a blanced goch.
"Yn y diwedd fe wnaeth y blaid ddod i'r casgliad mai'r unig ffordd i gael gwared ar yr hunllef oedd cael gwared ar Boris.
"Sai'n credu ddaw Boris nôl... Mewn blynyddau i ddod dwi'n meddwl bydd pobl yn meddwl pam bod y boi wedi cael ei erlid.
"Does 'na ddim byd yn Partygate sy'n cyffwrdd â Tony Blair yn mynd i ryfel yn erbyn Irac."
Colli Dad a Nia
Ar fater personol dywed nad yw'n siŵr a fyddai ei dad, y diweddar Harri Pritchard-Jones, yn "thrilled" ei fod wedi mynd i weithio i Downing Street y llynedd, ond ei fod wedi cyfarfod â Boris unwaith am ddiod ym Mae Caerdydd ac wedi ei weld fel dyn "deallus, chwareus gyda diddordeb mewn syniadaeth" a oedd yn ei atgoffa o'i ffrindiau yn Nulyn.
Dywed bod colli ei dad yn anodd ond ei fod wedi cael sawl cyfnod da yn ei gwmni - gan gynnwys y cyfnod diwethaf yn yr hosbis.
Roedd colli ei chwaer Nia i alcoholiaeth yn ystod Covid yn ergyd arall.
"Chi ddim yn disgwyl colli brawd neu chwaer. Yn anffodus ro'n i wedi gweld hyn yn digwydd am bron i ddegawd. O'n i'n gwybod mai dyna fyddai'r diwedd," meddai Guto Harri.
"O'n i'n drist yn amlwg ond o'n i hefyd yn grac gyda hi - bod hi ffaelu cael gafael ar y peth 'ma pan o'dd e mor amlwg y difrod o'dd e'n 'neud.
"O'dd Nia yn berson arbennig iawn, ga'th hi lawer iawn o gariad ac o'dd ganddi lot o gariad i'w roi ond gollodd hi'r ffordd yn ddifrifol iawn."
Mae cyfweliad Guto Harri i'w glywed yn llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ddydd Sul am 18:00 ac yna ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2022