Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 2-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn parhau ar waelod grŵp A3 Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl pedair gêmFfynhonnell y llun, Ashley Crowden/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru yn parhau ar waelod grŵp A3 Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl pedair gêm

Fe lwyddodd Cymru i gadw'r sgôr yn barchus ond colli oedd hanes tîm Gemma Grainger unwaith eto yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth.

Er i gôl hwyr gan Jessica Fishlock roi gobaith i'r ymwelwyr yn y chwarter olaf, Denmarc oedd yn fuddugol o 2-1 yn Viborg.

Roedd y Sgandinafiaid wedi rhoi cweir o 5-1 i'r Cymry yng Nghaerdydd yn y gêm gyfatebol fis diwethaf, ac roedd hi'n argoeli yn noson anodd arall.

Yn dilyn crasfa yn erbyn Yr Almaen nos Wener, roedd Grainger wedi cyfaddef mai dyma oedd y cyfnod mwyaf heriol yn ei rôl fel rheolwr y tîm cenedlaethol.

Roedd Amalie Vangsgaard a Sofie Bredgaard wedi rhoi dwy gôl o fantais i'r tîm cartref ar yr egwyl.

Ond roedd gôl Fishlock yn ddigon i adennill rhywfaint o falchder a rhyddhau rhywfaint o'r pwysau ar y rheolwr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn parhau ar waelod grŵp A3, tu ôl i'r Almaen, Denmarc a Gwlad yr Iâ.