Menter gymunedol yn lansio ymgyrch i brynu Marina Felinheli

  • Cyhoeddwyd
Marina'r Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Marina Y Felinheli ei adeiladu yn yr 1980au

Mae menter gymunedol yn Y Felinheli yng Ngwynedd wedi lansio ymgyrch i brynu marina'r pentref.

Bwriad Menter Felinheli ydy gwerthu cyfranddaliadau yn yr harbwr a'r marina, gyda'r nod o godi £300,000 erbyn diwedd mis Tachwedd.

Cafodd y marina ei adeiladu yn yr 1980au ond yn gynharach eleni aeth y cwmni oedd yn berchen arno - y Marine and Property Group - i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r fenter eisoes wedi cyflwyno cynnig ariannol am y safle.

Er nad ydyn nhw'n fodlon datgelu gwerth y cynnig hwnnw, maen nhw'n obeithiol y gall cyfuniad o grantiau a chefnogaeth ariannol yn lleol roi'r safle yn nwylo'r gymuned am y tro cyntaf.

'Stori ddifyr'

Er yn cydnabod bod £300,000 yn darged uchelgeisiol - gyda phob shâr yn costio £100 - mae'r bobl sydd y tu ôl i'r fenter hefyd yn credu fod modd ei wireddu.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Gwyn Roberts, un o gyfarwyddwyr Menter Felinheli, eu bod wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr a mentrau cymunedol eraill am y ffordd orau ymlaen.

Byddai prynu'r marina, ychwanegodd, yn helpu'r pentref cyfan drwy ddefnyddio elw o'r marina i gefnogi prosiectau a mentrau lleol eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon fod y cei a marina "wedi colli cysylltiad hefo'r gymuned" dros y blynyddoedd

"Dwi'n meddwl fod 'na dipyn o ddiddordeb yn lleol yn y fenter a'r bwriad i brynu'r marina, mae 'na dipyn o ddiddordeb hefyd yn ehangach na'r pentra," meddai Mr Roberts.

"Mae 'na stori dda yna, hen borthladd llechi oedd y marina ers talwm, un o brif borthladdoedd y diwydiant llechi felly yn ddiweddar iawn mae'r marina wedi landio.

"Dwi'n meddwl fod 'na stori ddifyr yna a dipyn o ddiddordeb yn y stori, felly 'da ni'n eitha' ffyddiog wnawn ni gyrraedd y nod."

'Colli cysylltiad hefo'r gymuned'

Ychwanegodd Mr Roberts fod y dyddiad cau i werthu cyfranddaliadau ddiwedd Tachwedd ond eu bod yn obeithiol o gyrraedd y nod o fewn y mis, ac mai'r bwriad yw ei redeg yn llwyddiannus fel marina a busnes.

"Beth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd ydy fod y cei a marina wedi colli cysylltiad hefo'r gymuned a'i hanes a'i dreftadaeth.

"Mae'r datgysylltiad yna'n eitha' amlwg pan ddowch chi yma, mae o fatha fod 'na ddwy gymuned yn mynd ymlaen ochr yn ochr.

"'Da ni eisiau ei brynu a'i redeg yn llwyddiannus fel busnes ond hefyd creu prosiectau sy'n ail greu'r cysylltiad yna rhwng y cei a'r pentra' gan mai'r cei a'r diwydiant llechi ydy'r rheswm pam fod y pentra' yma yn y lle cyntaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gynnwrf ynghylch y prosiect yn lleol, yn ôl Tudur Owen

Dywedodd y comedïwr a'r cyflwynydd Tudur Owen, un o'r rhai sy'n arwain y cynnig: "Ydy, mae [£300,000] yn lot o bres - ond dwi'm yn ama' am eiliad na allwn ni gyrraedd y targed.

"Mae nifer o fentrau eraill wedi llwyddo a does yna ddim rheswm pam nad all pobl yr ardal yma lwyddo hefyd.

"Fe fydd angen mwy na hynny wrth gwrs, ac ryden ni wedi cyflwyno un cais am grant sylweddol yn barod hefo un arall yn y broses o'i gwblhau."

Ychwanegodd Alun Meirion, un arall o arweinwyr y Fenter: "Mae gwerthu cyfranddaliadau yn rhan hanfodol o'r prosiect - ni fydd pryniant yn digwydd os nad ydy'r rhan hollbwysig yma'n llwyddo.

"Felly ryden ni'n apelio'n daer ar bobl i brynu. S'dim ots os ydych chi'n byw yn Y Felinheli neu du hwnt, mae gwerthu'r shârs yma yn hollbwysig."

Pynciau cysylltiedig