John Charles: 20 mlynedd ers marwolaeth y 'cawr caredig'
- Cyhoeddwyd
Mae'n cael ei enwi'n gyson mewn rhestrau o arwyr Cymreig - ac yn aml ar y brig mewn arolygon barn sy'n gofyn pwy ydi'r pêl-droediwr gorau erioed i gynrychioli Cymru.
Ugain mlynedd ers colli'r 'cawr caredig', pa ffordd well i ddechrau Wythnos Cymreictod Cymru Fyw na chofio yn ôl am fywyd a gyrfa ryfeddol John Charles.
Roedd twr o deyrngedau y tu allan i Ninian Park a'r Vetch, pentyrrau o flodau wedi eu gadael yn Elland Road a dagrau yn llifo yn eisteddle'r Stadio Dall'Ara yn Bologna.
Fel rheol, does dim llawer fyddai'n dod a chefnogwyr Caerdydd, Abertawe, Leeds a Juventus ynghyd - ond 20 mlynedd yn ôl roedd y clybiau hynny, a chefnogwyr pêl-droed yn gyffredinol wedi eu huno yn eu galar, a'u parch tuag at y cawr caredig, the gentle giant, il buon gigante.
Bu farw John Charles yn 72 oed ar 21 Chwefror 2004, ac mae'n dal i gael ei ystyried fel un o'r goreuon i wisgo'r crys coch.
Cawr Cwmdu
Ganwyd William John Charles yn ardal Cwmdu Abertawe ar 27 Rhagfyr 1931.
Roedd o, ei ddau frawd, dwy chwaer, ei fam Lilian a'i dad Ned yn rhannu tŷ teras gyda theulu arall.
Gweithiwr dur oedd ei dad, ei hun yn chwarae i ail dîm Abertawe am gyfnod, cyn iddo roi gorau iddi oherwydd anaf.
Bu Charles yn chwarae pêl-droed o oed ifanc iawn, yn aml yn y caeau chwarae yng Nghwmbwrla gyda'i frawd Mel - aeth hefyd yn ei flaen i chwarae dros Gymru.
Erbyn iddo droi'n 13 oed, roedd Charles wedi ymuno â thîm ieuenctid Abertawe, cyn i'r clwb roi gwaith iddo fel aelod o'r criw oedd yn gyfrifol am ofalu am y meysydd.
Roedd yn helpu i edrych ar ôl y caeau, yn glanhau esgidiau'r prif garfan, a hynny oll tra'n chwarae i'r ail dîm. Ond, doedd Swansea Town - oedd yn chwarae yn y drydedd haen ar y pryd - ddim yn barod i roi cyfle iddo yn y tîm cyntaf.
Roedd Charles hefyd yn chwarae i dîm ieuenctid Gendros - a thra'n chwarae iddyn nhw y cafodd o'i weld gan Jack Pickard, sgowt oedd yn gweithio i Leeds United.
Cafodd gynnig i fynd ar gyfnod prawf gyda'r clwb - ond dywedodd Charles fod ei fam o wedi gwrthod gadael iddo fynd i Sir Efrog ar y dechrau, gan egluro nad oedd gan ei mab hi basbort!
Wedi taith hir ar y trên i Leeds - y tro cyntaf iddo adael Cymru - fe dreuliodd o fis yn hyfforddi gyda'r clwb cyn ymuno â'r ail dim, wedyn fe aeth yn ei flaen i arwyddo ei gytundeb proffesiynol cynta' ym mis Rhagfyr 1948, ac yntau yn 17 oed.
'John Charles United'
O'r dechrau, roedd ei faint, ei gryfder a'i allu naturiol i chwarae mewn mwy nag un safle yn gwbl amlwg - ac o fewn blwyddyn o arwyddo i Leeds, roedd o wedi torri mewn i'r tîm cyntaf.
Ag yntau'n prysur gwneud enw i'w hun fel amddiffynnwr canol cadarn, bu'n rhaid i Charles ddechrau ar ddwy flynedd o wasanaeth cenedlaethol yn Carlisle ym 1950.
Roedd cwblhau'r cyfnod yma yn orfodol - ond fe wnaeth y fyddin roi caniatâd iddo barhau i chwarae i Leeds, ar yr amod ei fod o'n eu cynrychioli nhw hefyd.
Gyda Charles yn gapten, fe ennillodd y 67th Training Regiment, RAC yr 'Army Cup' yn 1952.
Er yn serennu yn y cefn, roedd ei allu ar ben arall y cae wastad yn bwnc trafod - ac yn ystod tymor 1952-53 cafodd y Cymro ei symud i chwarae yn gyson fel ymosodwr.
Fe sgoriodd o 11 gôl mewn chwe gêm - a pharhau i lifo gwnaeth y goliau wedi hynny.
Bellach yn gapten ar y gwynion, fe daniodd Charles ei glwb i'r brif haen yn 1955-56 gan sgorio 29 o goliau mewn 42 o gemau.
Ac os oedd yna unrhyw amheuaeth a fyddai'r Cymro yn gallu dal ei bwysau ar y lefel uchaf, fe sgoriodd o 38 gôl wrth i Leeds orffen yn yr wythfed safle yn eu tymor cyntaf yn yr Adran Gyntaf.
Dywedodd Jack Charlton, un o'i gyd-chwaraewyr yn Leeds, bod ei bresenoldeb ar y cae, boed fel ymosodwr neu amddiffynnwr yn "anhygoel".
"Y tro cyntaf weles i John, doeddwn i methu credu ei faint o... Fo ydi'r peniwr gorau o'r bêl i mi ei weld erioed," meddai.
Erbyn diwedd ei gyfnod gyda'r clwb, roedd ei ddylanwad wedi tyfu i'r fath raddau, fel bod pobl yn aml yn cyfeirio at Leeds fel "John Charles United" - rhywbeth yr oedd Charles ei hun, a'i natur ddiymhongar, yn ei wrthod yn llwyr.
'Il Trio Magico'
Mater o amser oedd hi tan fod dawn Charles yn denu diddordeb gan rai o glybiau mwya'r byd.
Ac ar ôl un tymor yn unig ym Mhrif Adran Lloegr, cafodd ei brynu gan Juventus am ffi o £65,000 - bron i ddwbl y record Brydeinig ar y pryd.
Roedd Charles yn dipyn o arloeswr, o ystyried nad oedd hi'n beth cyffredin ar y pryd i chwaraewyr o'r Deyrnas Unedig symud i dimau ar y cyfandir.
Ar ei ymddangosiad cyntaf i La Vecchia Signora, fe sgoriodd Charles y gôl fuddugol mewn buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn Hellas Verona.
Yr Eidalwr, Giampiero Boniperti a'r Archentwr, Omar Sívori sgoriodd y ddwy gôl arall - dau enw fydd wastad yn cael eu cysylltu gyda Charles.
Gyda'i gilydd, roedd y tri ymosodwr yn cael eu cyfeirio atyn nhw fel 'il trio magico'(Y triawd hud) neu 'il santo tridente' (Y triawd sanctaidd).
Roedd y cyfuniad o bŵer Charles, techneg Sivori a deallusrwydd Boniperti yn cael ei weld fel rhywbeth hudolus.
Yn ystod pum mlynedd gyda'r clwb o Torino, fe enillodd o'r gynghrair dair gwaith (1958, 1960 a 1961) a'r Coppa Italia ddwywaith (1959 a 1960).
Ar nodyn personol, fe sgoriodd o bron i gant o goliau mewn ychydig dros gant a hanner o gemau i Juventus a chael ei goroni yn chwaraewr y flwyddyn yn ei dymor cyntaf yn yr Eidal.
Ond dim ar y cae yn unig yr oedd Charles yn swyno'r cyhoedd, bu hefyd yn recordio caneuon ac yn perfformio ar hyd y wlad - gan ymddangos ochr yn ochr a Nat King Cole ar un rhaglen deledu boblogaidd.
"Yr Eidal oedd fy nghartref," meddai yn ei hunangofiant. "Dyma lle chwaraeais i fy mhêl-droed gorau, yn hytrach na Leeds neu gyda Chymru... roedd yn arbennig. Roedd popeth yn ymwneud ag ennill".
Ym 1997, fel rhan o'r digwyddiadau i nodi canmlwyddiant y clwb, cafodd Charles ei enwi fel y chwaraewr tramor gorau i wisgo'r crys du a gwyn erioed - a hynny o flaen mawrion fel Zinedine Zidane, Michel Platini ac Omar Sívori.
Wedi marwolaeth Charles yn 2004, cafodd ei ddisgrifio gan Sivori fel "dyn anhygoel, pencampwr anhygoel a ffrind anhygoel".
1958, Be os...
Chwaraeodd Charles gyfanswm o 38 o weithiau i Gymru, gan sgorio 15 gôl.
Heb os, record hynod barchus, ond o bosib byddai rhywun wedi disgwyl gweld mwy ohono ar y llwyfan rhyngwladol, o ystyried hyd ei yrfa.
Cyfuniad o anafiadau, anlwc ac amharodrwydd Juventus i weld eu seren yn anafu wrth gynrychioli Cymru oedd yn bennaf gyfrifol am hynny.
Yn ystod ei holl flynyddoedd yn Turin, dim ond 14 o weithiau wnaeth o wisgo'r crys coch.
Yn 18 oed, fe enillodd Charles ei gap cyntaf dros ei wlad ym mis Mawrth 1950, mewn gêm gartref yn erbyn gogledd Iwerddon ar y Cae Ras.
Ar y pryd fo oedd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli Cymru erioed, record na chafodd ei dorri tan i asgellwr ifanc o'r enw Ryan Giggs wisgo'r crys coch ym 1991.
Ond yn groes i'r disgwyl, siomedig oedd perfformiad Charles ar ei ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol, gyda fo ei hun yn dweud iddo gredu bod ei yrfa rhyngwladol ar ben wedi 90 munud.
Dywedodd bod y papurau newydd yn feirniadol iawn ohono, ac o ganlyniad, ei fod o wedi colli ei le yn y tîm am fwy neu lai dwy flynedd i amddiffynnwr Arsenal, Ray Daniel.
Wrth gwrs, daeth cyfle arall i Charles, a chafodd y cyfle hwnnw ddim mo'i wastraffu.
Ym 1953 cafodd o'i symud i'r ymosod ochr yn ochr â Trevor Ford mewn gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon ym Melffast - a'r tro hwn, fe sgoriodd o ddwy gôl, a chwarae rhan allweddol yn y drydedd mewn buddugoliaeth o 3-2.
Wedi hynny roedd yn bresenoldeb cyson mewn carfanau rhyngwladol - pan yr oedd Juventus yn caniatáu hynny!
Daeth uchafbwynt, ac o bosib isafbwynt, ei yrfa rhyngwladol yn ystod Cwpan y Byd 1958 yn Sweden.
Wedi tair gêm gyfartal yn erbyn Hwngari, Mecsico a Sweden yn y grŵp, bu'n rhaid i Gymru wynebu'r Hwngariaid eto mewn gêm ail-gyfle i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Er iddo ddioddef cic ar ôl cic ar ôl cic, fe arweiniodd y tîm i fuddugoliaeth hanesyddol o 2-1 - Ivor Allchurch a Terry Medwin gyda'r goliau - oedd yn golygu y byddai Cymru yn mynd yn eu blaenau i wynebu Brasil.
Ond yn ystod y frwydr gorfforol yn erbyn Hwngari fe wnaeth Charles ddioddef anaf oedd yn golygu y byddai'n methu'r golled agos o gôl i ddim. A chyda hynny, roedd antur Cymru yng Nghwpan y Byd ar ben am 64 o flynyddoedd.
Dydi hynny heb stopio sawl un rhag gofyn y cwestiwn - pe bai Charles wedi gallu chwarae yn y gêm honno, a fyddai hynny wedi effeithio ar y canlyniad? Neu a fyddai Pelé a'r Brasiliaid wedi mynd eu blaenau i ennill y tlws beth bynnag? Pwy a wyr...
Dechrau'r diwedd
Wedi ei gyfnod arbennig gyda Juventus, dychwelyd i Leeds wnaeth Charles ym 1962.
Ond doedd ei ail gyfnod yn Sir Efrog ddim yn hawdd wrth iddo wynebu trafferthion ariannol yn ymwneud â'i fusnesau y tu hwnt i'r byd pêl-droed, ac wedi 12 gêm yn unig, fe symudodd yn ôl i'r Eidal - y tro hwn yn arwyddo i Roma.
Fel yn Juventus, fe sgoriodd Charles yn ei gêm gyntaf i'r clwb yn y brif ddinas, ond ni fyddai'n mynd yn ei flaen i efelychu ei lwyddiant yn Turin.
Roedd yn 32 oed erbyn hyn ac roedd yn cyfaddef ei hun ei fod yn gysgod o'r chwaraewr y bu yn gynharach yn ei yrfa - wrth i anafiadau a materion personol adael eu hoel.
Ar ôl blwyddyn yn Rhufain fe benderfynodd ei bod hi'n bryd iddo symud yn ôl i Gymru, ac i Gaerdydd.
Yn ystod tair blynedd gyda'r Adar Gleision - ei glwb proffesiynol olaf - fe sgoriodd o 18 o goliau mewn 69 gêm, a hynny ag yntau yn chwarae yn bennaf fel amddiffynnwr ochr yn ochr â'i frawd Mel.
Cafodd gyfle ddychwelyd i Turin i herio Juventus mewn gêm gyfeillgar gyda Chaerdydd, a chafodd ei gario oddi ar y cae gan gefnogwyr wedi'r chwiban olaf - arwydd o hoffter y Juventini tuag at y Cymro.
Fe adawodd yr Adar Gleision ym 1966, ac er mai dyma oedd y diwedd o ran ei yrfa yn y gynghrair - fe chwaraeodd ymlaen am bum mlynedd arall gyda chlwb pêl-droed Hwlffordd, lle'r oedd o'n chwaraewr-reolwr, cyn gorffen gyda chyfnodau fel rheolwr ym Merthyr Tydfil ac yna gyda thîm dan-23 oed Cymru.
Un ffaith ryfeddol am Charles, sydd wedi cael ei ailadrodd droeon, yw na chafodd o erioed gerdyn melyn na cherdyn coch drwy gydol o yrfa.
Roedd y record honno yn rhywbeth yr oedd o'n falch iawn ohono hefyd: "Do mi wnes i fygwth ambell un, efallai bod rhai gwrthwynebwyr wedi cael mwy o ysgytwad nag oedden nhw'n disgwyl ar adegau, ond nes i erioed frifo neb yn fwriadol."
Wedi i'w yrfa broffesiynol ddod i ben fe ganolbwyntiodd Charles ar ei wahanol fusnesau - ond methu wnaeth y busnesau hynny i raddau helaeth, i'r pwynt lle arweiniodd ei drafferthion ariannol at broblemau cyfreithiol.
"Doeddwn i 'rioed yn ddyn busnes - dwi wastad wedi bod yn bêl-droediwr," meddai.
Cafodd Charles ddiagnosis o ganser y bledren ym 1997 a bu'n brwydro'n erbyn yr afiechyd hwnnw a chyflwr Alzheimers am flynyddoedd hyd at ei farwolaeth yn 72 oed ar 21 Chwefror 2004.
Cyn iddo farw cafodd flas o'r hyn yr oedd cefnogwyr yn ei feddwl amdano ar droad y ganrif wrth iddo gael ei ddewis fel y chwaraewr gorau i gynrychioli Cymru erioed yn ogystal â chael ei dderbyn i oriel anfarwolion chwaraeon Cymru ym mis Mawrth 2001.
Roedd yn ei ddagrau yng nghanol y cae cyn buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn erbyn yr Eidal yn 2002 wrth i gefnogwyr y ddwy wlad, dros 70,000 o bobl, gydnabod ei gyfraniad enfawr i'r gêm.
A pharhau wnaeth y teyrngedau wedi ei farwolaeth gyda Leeds United yn enwi eisteddle ar ei ôl, mae 'na gerflun yn y ddinas honno hefyd a phenddelw yn Stadiwm Swansea.Com.
Ac er i'w yrfa ddod i ben dros hanner canrif yn ôl erbyn hyn, mae'r atgofion a'r hanesion yn pasio o un genhedlaeth o gefnogwyr i'r llall - gyda Charles yn dal i gael ei ystyried fel un o'r goreuon yn hanes y bêl gron.
"Mae fy nghalon i wedi ei rannu yn dri - Cymru, Leeds a'r Eidal."