Priodferch yn poeni am golli £1,000 wrth i siopau Allison Jayne gau

  • Cyhoeddwyd
Hannah PowellFfynhonnell y llun, Hannah Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Powell yn poeni ei bod wedi colli mwy na £1,000

Mae menyw wnaeth dalu £1,000 tuag at ei ffrog briodas yn dweud nad oes ganddi syniad os gaiff hi'r ffrog ar ôl i'r siop ble brynodd hi'r ffrog gau yn sydyn.

Fe brynodd Hannah Powell, sy'n 29 oed, ei ffrog o siop Allison Jayne yn Abertawe.

Dywedodd y darpar briodferch, sy'n priodi yn Ffrainc fis Mai 2024, ei bod wedi'i "siomi gan mai dyma'r unig ffrog o'n i'n ei charu".

Cyhoeddodd Allison Jayne ddydd Sadwrn bod y siopau yn Abertawe a Chaerdydd yn cau ar unwaith - a hynny ar ôl hanner canrif o fasnachu.

Dywedodd y cwmni bod y penderfyniad wedi bod yn un anodd ar ôl pob ymdrech i drio sicrhau bod y busnes yn parhau.

'Misoedd yn chwilio am ffrog'

Dywedodd Ms Powell ei bod wedi treulio misoedd yn chwilio am ffrog cyn ffeindio'r un berffaith yn Allison Jayne.

Dywedodd y byddai'n cael y ffrog erbyn mis Ionawr 2024, ond pan glywodd ar y cyfryngau cymdeithasol bod y siop wedi cau, aeth i weld ei hun.

"Roedd darn o bapur ar ddrws y siop yn dweud eu bod ar gau o'r 4ydd o Dachwedd," meddai.

"Nid oes unrhyw eitemau ar ôl yn y siop. Dwi jyst yn teimlo mewn sioc ac yn drist."

Dywedodd ei bod wedi derbyn galwad ddydd Llun gan Allison Jayne, ond eu bod wedi defnyddio rhif nad oedd modd iddi ei gadw ac o ganlyniad nid oes ganddi ffordd o gysylltu gyda nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y siop yn Abertawe yn hollol wag fore Mawrth

Dywedodd ei bod wedi cael gwybod bod ei ffrog ar y ffordd i'r cyflenwyr, ond nad oes neb wedi cysylltu gyda'r cwmni gorchudd wyneb (veil).

Dywedodd: "Roedd yn rhaid i ni dalu yn llawn am y veil, dwi ddim yn siŵr pam oedd hynny'n bod ac yna gorfod talu 50% o'r ffrog.

"Roedd hwnna'n cynnwys y newidiadau i'r ffrog, felly ar y ffôn fe wnes i holi os fydden nhw'n dal i wneud y newidiadau priodol i'r ffrog gan eu bod wedi cynnwys hwnna yn y pris.

"Dyna un o'r rhesymau arall y gwnes i ddewis fynd i'r siop yna - doedd dim costau ychwanegol a nawr dwi angen ffeindio fy seamstress fy hun."

Nid oes gan Ms Powell unrhyw yswiriant priodas ac mae'n "poeni'n fawr na fyddai'n cael fy ffrog".

Mae'r cwmni wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig