Dathlu diwrnod priodas gyda 60,000 o 'westeion'
- Cyhoeddwyd
Mae cwpwl o Wynedd wedi dathlu diwrnod eu priodas mewn ffordd unigryw - trwy wylio'u hoff fand, gyda 60,000 o ddilynwyr eraill mewn cyngerdd yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Mae Lliwen a Neil Rylance o Dregarth ger Bangor yn ddilynwyr brwd o'r grŵp Coldplay, ac wedi cael "amser gwych" yn gweld y band yn Wembley, fis Awst y llynedd.
Pan glywson nhw eu bod yn perfformio dwy gig yng Nghaerdydd yr wythnos hon, roedd rhaid cael tocynnau.
"Oeddan ni wedi bod yn trafod priodi," meddai Lliwen wrth siarad a rhaglen y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher, "ac roedd y gŵr, erbyn hyn 'lly, yn deud 'pam na wnawn ni chydig o drip ohoni, ac awn ni lawr i'r Cotswolds a Bath a gwneud wythnos ohoni cyn mynd i Gaerdydd i watsiad Coldplay?
"A dyma'r ddau ohonom yn sbïo ar ein gilydd a deud 'pam wnawn ni ddim priodi tra 'dan ni lawr yna?' a dyna wnaethon ni."
Priododd y ddau mewn swyddfa gofrestru yng Nghaerfaddon ddydd Mawrth cyn symud ymlaen i Gaerdydd ar gyfer y gig y noson honno.
A doedd dim angen i'r ddau feddwl am beth i'w wisgo i'r gig - eu dillad priodas wrth gwrs.
"Pam poeni am be' i wisgo? Awn ni syth yna yn ein dillad, yn y ffrog, yn y sequins, a ddaru hynny weithio allan yn wych oherwydd oeddan ni methu cael llawer o amser i newid eniwe.
"Wrth gyrraedd Caerdydd roedd rhaid mynd yn syth i'r stadium. Mi ges i werth fy mhres o'r ffrog!"
Roedd nifer yn dod atynt i'w llongyfarch yn y stadiwm, ac roedd hynny'n goron ar ddiwrnod i'w gofio i'r ddau.
Cafodd yr iaith Gymraeg gryn sylw yn y ddau gyngerdd hefyd, gyda nifer ar y cyfryngau cymdeithasol - yn cynnwys y DJ Huw Stephens - yn gwerthfawrogi'r parch a ddangoswyd ati.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond fydd 'na ddim mis mêl i Mr a Mrs Rylance, meddai Lliwen.
"Nôl i gwaith, ac efallai jest pinsio'n hunain o dro i dro i rimeindio be oeddan ni wedi'i wneud."
Ac i ddyfynnu teitl un o ganeuon y band, "megis dechrau" y mae'r Adventure of a Lifetime, yn ôl Lliwen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023