Siopau elusen yn poeni am effaith apiau fel Vinted a Depop
- Cyhoeddwyd
Mae rhai elusennau yn poeni am yr effaith y mae apiau fel Vinted a Depop yn ei gael ar nifer yr eitemau sy'n cael eu rhoi i siopau elusen.
Dywed elusen Marie Curie eu bod wedi "gweld llai o gyfraniadau a hefyd llai o ansawdd" mewn rhai cymunedau.
Ond mae rhai - pobl ifanc yn enwedig - o'r farn bod defnyddio apiau dillad ail law yn fwy "cyfleus" a bod modd cael elw o werthu'r dillad.
Wrth ymateb, dywedodd cwmni Vinted eu bod yn "deall pryder yr elusennau" ond mai eu nod yw "arwain symudiad byd eang i brynu yn fwy cyfrifol".
Derbyn tâl yn apelio
Mae Heledd Owen, 22, yn un sy'n hoff o brynu dillad ail law ac yn defnyddio'r apiau i wneud hynny gan eu bod yn hawdd eu defnyddio.
Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod ein defnydd o apiau fel Vinted yn enghraifft arall o'n harferiad o gael popeth yn gyfleus i ni.
"Mae'n haws i ddefnyddio'r ffôn na mynd i'ch siop elusen leol.
"Nid yn unig ei fod yn gyfleus ar y ffôn, ond yn gyfleus o ran gallu chwilio am ddillad sydd yn gweddu i chi."
Mae'r elfen gynaliadwy o siopa'n ail law hefyd yn apelio at nifer o bobl ifanc.
Dywedodd Efa Prydderch: "Fi bendant yn un o'r bobl yna sy'n berchen ar lot gormod o ddillad, a phan 'nes i ddarllen am Vinted oedd e'n swnio fel ffordd mor gyfleus o gael gwared ar hen ddillad a gallu gwneud bach o arian hefyd.
"Mae hefyd yn ffordd fwy cynaliadwy o siopa, dwi erioed wedi prynu llawer o 'fast fashion' ar-lein - ma' lot gwell gen i brynu'n fwy cynaliadwy.
"Mae'r broses o lwytho dillad i'r ap hefyd yn hawdd a chyfleus."
Yn wahanol i roi i elusen, mae modd gwneud elw wrth werthu dillad ar Vinted.
"Yr elfen o allu derbyn tâl sydd bendant yn apelio fwyaf," meddai Efa, sy'n 21 oed.
"Er bod nifer o siopau elusen yn agos at ble dwi'n byw, dwi wastad yn troi at Vinted yn gyntaf os oes rhywbeth dwi eisiau ei werthu, ac yna os nad yw'r eitemau wedi'u prynu ymhen ychydig o wythnosau, dwi'n dueddol o fynd â nhw i'r siop elusen bryd hynny."
'Llai o roddion gan bobl iau'
Dywedodd llefarydd ar ran elusen Barnardo's fod siopau elusen yn hollol hanfodol i werthoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
"Llynedd, wnaeth siopau elusen sicrhau mwy na £75bn o werth cymdeithasol i gwsmeriaid, staff a chyfranwyr."
Ond dywedodd llefarydd ar ran elusen Marie Curie eu bod wedi "gweld llai o gyfraniadau a hefyd llai o ansawdd" mewn rhai cymunedau.
Ychwanegodd bod siopau elusen yn "hanfodol" iddyn nhw er mwyn helpu'r elusen i "godi'r arian sydd eisiau i alluogi i ni fod yna i bobl tan y diwedd, yn eu cartref neu hosbis".
"Mae llai o roddion gan bobl iau i'n siopau - rydyn ni'n deall eu bod nhw'n defnyddio'r apiau i gyfnewid dillad."
Yr un yw'r neges gan griw British Heart Foundation. Dywedodd llefarydd: "Mae gan unigolion fwy o ddewis nac erioed o'r blaen.
"Mae ein tîm o'r farn fod pobl yn gwerthu eu heitemau 'gorau' ac mae hyn yn gallu cael effaith ar gyflwr yr eitemau rydym yn ei dderbyn."
Yn ôl ymchwil newydd gan elusen Mind mae dros hanner y bobl yng Nghymru yn siopa mewn siopau elusen.
Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu, mae Mind wedi cychwyn ymgyrch newydd er mwyn ceisio annog mwy o bobl i brynu nwyddau Nadolig o'r siop elusen.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen bod "cynnydd mewn costau byw yn golygu bod mwy o bobl yn siopa mewn elusennau ond eto ni fydd y rhan fwyaf ohonynt yn ystyried rhoi anrhegion ail law y Nadolig hwn".
Dywedodd Cyfarwyddwr Manwerthu Mind, Andrew Vale ei fod yn ymwybodol bod "y Nadolig a'r pwysau i brynu anrhegion yn gallu achosi straen ariannol enfawr ar bobl, ac mae'r cynnydd mewn costau byw yn gwaethygu pethau eto".
"Pan fyddwch chi'n prynu anrhegion o siop elusen Mind - rydych chi'n helpu i ariannu ein gwasanaethau cymorth."
'Annog pobl i beidio taflu dillad'
Dywedodd llefarydd ar ran Vinted wrth Cymru Fyw: "Rydym yn deall pryder yr elusennau ond nid dim ond platfformau sy'n gwerthu dillad ail law sy'n cyfrannu at hyn, ond y syniad o economi gylchol.
"Ein nod yw gwneud ffasiwn ail law yn ddewis cyntaf i bobl drwy arwain symudiad byd eang i brynu yn fwy cyfrifol.
"Dyma pam ein bod yn cynnig opsiwn haws i brynu ac i werthu wrth ein gilydd ac i wneud penderfyniadau mwy rhesymol.
"Rydym yn annog pobl i beidio â thaflu eu dillad diangen ond i'w gwaredu yn gyfrifol, boed hynny mewn siopau elusen neu ar blatfformau fel Vinted, neu hyd yn oed cyfnewid gyda ffrindiau.
"Yn ogystal â hyn, i nifer o'n defnyddwyr, mae ennill arian ychwanegol wrth werthu eu dillad yn werthfawr."
Mae cwmni Depop hefyd wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019