Galw i ddefnyddio enwau lleoedd gwreiddiol Cymraeg yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd ffordd 'Heol Brynaman' a 'Brynamman Road'
Disgrifiad o’r llun,

Dadl Mihangel ap Rhisiart - sydd wedi dechrau'r ddeiseb - yw nad oes angen dau enw ar le

"Beth bynnag yw yr enw, does dim angen dau enw ar un lle."

Mae myfyriwr ymchwil o Frynaman, wnaeth ddechrau deiseb fis Rhagfyr diwethaf, yn galw am ddefnyddio enwau Cymraeg gwreiddiol yn unig ar leoedd mewn cyd-destun swyddogol.

Un enghraifft fyddai cael un enw ar arwydd ffordd, dywedodd Mihangel ap Rhisiart.

Ers i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi ei fod yn dilyn ôl traed Eryri ac yn defnyddio enw Cymraeg yn unig, mae llawer mwy o ddiddordeb wedi bod yn y ddeiseb.

Fe ddechreuodd ar wefan change.org ond ar ôl i dros 1,000 o bobl dorri eu henwau mae y ddeiseb bellach wedi symud i safle deisebau Senedd Cymru.

Dywed Mr ap Rhisiart bod hwn yn bwnc all fod yn gymhleth ond mae yn dadlau fod ei syniad yn ei hanfod yn un syml.

"Mae hwn yn bwnc mawr o ran hanes enwau, efallai y bydden ni gallu mynd 'nôl a 'nôl i weld sut ma' enwau wedi newid dros y blynydde'.

"Ond, dwi ddim yn trio agor y pwnc i drafodaeth mwy cymhleth.

"Y cyfan yr ydw i yn ddweud yw - beth bynnag yw yr enw does dim angen dau enw ar un lle."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mihangel ap Rhisiart yn fyfyriwr ymchwil o Frynaman

Eisoes mae rhai yn holi, petai newid, a fydd pobl yn barod i newid eu harferion a defnyddio yr enwau Cymraeg.

Mae Mr ap Rhisiart yn pwysleisio y gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn ôl eu harfer, ond ei fod am weld yr enw Cymraeg ym mhob cyd-destun swyddogol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.

"Ry'n ni yn siarad am lefydd lle mae pobol yn byw. Mae hanes iddyn nhw a bydd pobl yn defnyddio yr enwau y maen nhw wedi defnyddio trwy eu bywyde'.

"Dw i ddim yn trio cael pobl i newid eu harferion. Jyst rhwbeth swyddogol dw i'n siarad amdano, er enghraifft jyst cael un enw ar arwydd yr heol."

Os yw y ddeiseb yn cael 10,000 llofnod fe gaiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd: "Dw i ddim yn siŵr a fydda' i yn cyrraedd y marc 10,000.

"Ond doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o ymateb. Mae hwn yn gyfle i bobl ddweud eu barn ar rh'wbeth a chael llais.

"Nawr ma bron i fil o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb wrth i ni siarad, felly mae mil o bobl wedi cytuno â fi ar y pwnc yma," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig