Y myfyrwyr sy’n newid y byd gemau i bobl anabl

  • Cyhoeddwyd
Jack Harker
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jack Harker mae'r sgwrs ynglŷn â gemau hygyrch yn fwy amlwg nag erioed

Ym Mhrifysgol Wrecsam mae yna grŵp o fyfyrwyr sy'n benderfynol o newid y byd technoleg.

Nid yn unig chwarae gemau fideo mae'r myfyrwyr hyn, maen nhw hefyd yn eu datblygu, a'r nod ydy creu gemau sy'n hygyrch.

"Mae pobl yn meddwl am hygyrchedd lot yn fwy nawr," meddai Jack Harker, arweinydd y rhaglen gemau ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mae nifer o fyfyrwyr ar gyrsiau y brifysgol gydag anableddau meddyliol a chorfforol.

Yn ôl Jack, mae'r sgwrs ynglŷn a gemau hygyrch yn fwy amlwg nag erioed.

I Natalie Knowles, sy'n 25 ac yn byw gyda pharlys yr ymennydd, mae'r cwrs Datblygu Gemau Cyfrifiadurol yn gyfle i arloesi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie Knowles yn dilyn y cwrs Datblygu Gemau Cyfrifiadurol

Mae Natalie yn defnyddio cyfarpar cyfrifiadurol er mwyn chwarae gemau mewn ffyrdd newydd.

"Rwy'n chwarae gyda'r rheolydd o dan fy ngên er mwyn chwarae gydag un llaw."

Yn ôl ymchwil gan elusen Scope, mae 66% o bobl anabl sy'n chwarae gemau yn dweud eu bod nhw wedi wynebu heriau neu rwystrau wrth chwarae.

Yr ateb, meddai Jack Harker, ydy sicrhau bod pobl ag anableddau yn rhan o'r broses gynllunio.

"Mae amrywiaeth wastad yn fonws enfawr wrth ddylunio gemau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Hammond yn ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol, ac mae'n rhedeg cwmni Iron Strike Games

I Natalie mae gweld amrywiaeth o bobl yn y gemau hefyd yn bwysig.

"Hoffwn weld mwy o gymeriadau anabl mewn gemau," meddai.

Mae Nigel Hammond, sydd â merch gydag awtistiaeth, yn ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol, ac mae hefyd yn rhedeg cwmni Iron Strike Games.

"Pan nes i applyio, ges i diagnosis o dyslecsia felly oedd 'na lot o help ar gael i wneud gwaith 'sgwennu, programmes i helpu, funding da ar gael hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Roberts yn byw gyda pharlys yr ymennydd

Mae Daniel Roberts, sy'n 26 ac o Wrecsam, yn astudio cwrs meistr ac o'r farn bod y byd gemau yn mynd yn y cyfeiriad cywir yn araf bach.

"Rwy'n berson anabl, felly rwy'n gwybod sut beth yw bod yn anabl. Mae gwybodaeth stiwdios gêm yn gyfyngedig," meddai Daniel, sydd hefyd gyda pharlys yr ymennydd.

"Mae'n dod yn fwy hygyrch gydag amser."