'Dihangfa' gemau fideo yn 'drobwynt' i ddyn ifanc
- Cyhoeddwyd
Er gwaetha'i deulu cefnogol roedd yna gyfnodau anodd ym mhlentyndod Dylan, 20 o ogledd Cymru.
Cafodd ei fwlio yn yr ysgol am fod ganddo anabledd, a'i fod yn hoyw.
"Oedd o'n gwneud i mi demlo'n upset ac yn ddiflas, really, achos oeddwn i'n teimlo fod bod fi'n outcast", meddai.
Ond mae'n dweud fod chwarae gemau fideo wedi bod yn "drobwynt" yn ei fywyd.
"Dwi yn 20 ac yn gay a disabled. Dwi efo ataxia, dyspraxia, autism, dwi efo ADHD a dwi 'efo cyflwr prin o'r enw ARSACS", meddai Dylan.
Roedd ei gyflwr a'i rywioldeb yn gwneud iddo deimlo yn "alltud" wrth iddo gael ei fwlio yn yr ysgol.
Ond mae'n dweud fod chwarae gemau fideo wedi newid ei fywyd: "Mae game-io i mi yn ddihangfa o realiti. Dwi'n meddwl ei fod yn ddihangfa achos mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus ac yn saff."
'Cyfleoedd gwych'
Dywedodd fod chwarae gemau wedi gwneud iddo sylweddoli ei bod yn iawn iddo fod yn fo ei hun.
Mae hefyd wedi cwrdd â phobl gyda'r un diddordebau ag o, ac yn disgrifio'r awyrgylch ym myd y gemau fel un croesawgar i bawb
"Maen nhw'n hoffi'r pethau dwi'n eu hoffi, ond maen nhw ddim yn gallu gweld fi a bod yn gas i fi."
Mae'n rhestru Mario World, Just Dance, Call of Duty, Minecraft a Roblox fel rhai o'r gemau mae'n eu mwynhau.
Ac mae'n dweud fod yr hyder mae wedi ei ddatblygu drwy chwarae wedi ei alluogi i fod yn actor ac yn gyflwynydd.
Mae'n mynychu sesiynau gan fudiad Wicked Wales ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ifanc, yn cael ei redeg gan Grŵp Gweithredu Cymunedol Prestatyn a Gallt Melyd.
"Dwi wedi cynhyrchu fy sioe fy hun. Dwi wedi cael sioe dalent, dwi wedi cael ffilm wedi ei gwneud am fy mywyd i, a dwi wedi cyflwyno mewn gwyliau.
"Mae game-io wedi fy helpu i gael cyfleoedd gwych."
Ei obaith bellach yw helpu pobl eraill: "Dwi isio bod yn role model i ddweud wrth bobl y tu allan fod pethau'n mynd i fod yn well."
Gemau yn helpu iechyd meddwl
Mae elusennau iechyd meddwl yn cefnogi gemau fideo fel rhywbeth "buddiol iawn" i les pobl.
"Mae gemau yn gallu helpu pobl i adeiladu cymunedau falle dy'n nhw ddim wedi eu cael o'r blaen," meddai Bethan Jones-Arthur o Mind Cymru.
"Wedyn mae hynny yn agor drysau i wneud ffrindiau newydd, i fod yn fwy cyfforddus a hefyd i agor lan am eu teimladau, a dyna'r peth mwyaf ar gyfer ein lles ac ar gyfer ein iechyd meddwl.
Gyda 44 miliwn o bobl drwy'r DU a 3 biliwn drwy'r byd yn chwarae gemau, dyma erbyn hyn y diwydiant hamdden mwyaf yn y byd.
Ond mae arbenigwyr yn rhybuddio y dylai chwaraewyr gael cydbwysedd rhwng gemau fideo a threulio amser oddi wrth y sgrin.
"Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg, digon o fwyd da - mae gweithgareddau corfforol, os fedrwch chi wneud nhw, yn bwysig hefyd," meddai Ms Jones-Arthur.
I Seth, 13, yr aelod cyntaf o Senedd Cymru i ddefnyddio cadair olwyn, mae'n ei alluogi i "brofi pethau fel pobl eraill".
"Mae gemau fideo yn bwysig i fi achos gyda rhai pethau fedra' i ddim ymuno," meddai.
"Os ydych chi mewn cadair olwyn, fedrwch chi ddim bob amser rhedeg o gwmpas gyda phawb, felly pan dwi'n chwarae Minecraft fedra'i redeg o gwmpas ac mae'n hwyl."
Mae gan yr hosbis blant ble mae'n derbyn gofal ar gyfer Dystroffi'r Cyhyrau Duchenne ystafell ar gyfer gemau cyfrifiadurol.
Mae'n gallu dianc i fyd rhithiol, ac mae arbenigwr chwarae ar gyfer rhai sy'n derbyn gofal lliniarol yn gweithio yno.
"Dwi'n meddwl bod chwarae gemau yn rhoi cyfle cyfartal, yn enwedig i'r rhai sy'n methu chwarae mewn ffyrdd mwy nodweddiadol," meddai Heather Roberts o hosbis Tŷ Hafan.
"Pan maen nhw'n game-io, does dim gofynion corfforol felly maen nhw'n llawer mwy cynhwysol."
Dywedodd Martha, 15, ei bod hi'n arfer bod yn swil. Roedd hi hefyd yn cael ei bwlio yn yr ysgol, nes i'r ganolfan gymunedol y byddai'n ei mynychu ger ei chartref yng nghymoedd y de sylweddoli ei bod hi'n mwynhau Minecraft.
Dechreuodd ei hyder gynyddu a'i hiechyd meddwl wella wedi i Valley Kids, prosiect sy'n derbyn cefnogaeth Plant Mewn Angen, ofyn iddi helpu mudiad Cadw, sy'n diogelu safleoedd hanesyddol yng Nghymru i greu model rhithwir o'r Cymoedd.
Ers hynny mae hi wedi siarad yn gyhoeddus â gwleidyddion a rhoi arddangosfa i weinidogion yn y Senedd.
"Mae game-io wedi helpu fy hyder 100%," meddai. "Roedd yn hwb i mi am fod gen i bobl i siarad gyda nhw, ac roedd e'n lot o hwyl."
I rieni sy'n poeni fod eu plentyn yn treulio gormod o amser yn chwarae gemau, mae Parent Zone, sy'n rhoi cyngor digidol i deuluoedd, yn dweud fod yna risgiau sydd angen eu deall.
"Fe fydd deall y gemau mae eich plentyn yn chwarae yn eich helpu i synhwyro beth sy'n briodol ac yn ddiogel," meddai eu llefarydd Giles Milton.
"Mae'n bosib gwneud ymchwil ar-lein ond y peth gorau ydy gofyn iddyn nhw [y plant] ddangos i chi - neu chwarae gyda nhw."
Mae gan BBC Action Line gysylltiadau gyda mudiadau all gynnig cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan y materion yn y stori hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020