Bryn Williams a Sharleen Spiteri: Llandyrnog, Texas a'r cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Mae'r cogydd Bryn Williams a'i wraig Sharleen Spiteri wedi bod yn treulio'r cyfnod clo yn eu cartref yn Llandyrnog, Dinbych, yn coginio'r llysiau sydd fel arfer yn cael eu gwerthu yn nhai bwytai Bryn ac, yn achos Sharleen, yn cyfansoddi ar gyfer albwm newydd ei grŵp, Texas.
"Oedd y wraig i fyny y diwrnod ddaru Boris Johnson gyhoeddi bod pawb yn bob man yn gorfod cau," meddai'r cogydd oedd yn westai pen-blwydd ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru.
Mae Bryn Williams yn berchen bwyty Odette's a Somerset House yn Llundain a Phorth Eirias ym Mae Colwyn.
"O'n i yn Odette's ar y dydd Gwener yn cau beth bynnag ac yn meddwl faswn i'n trafaelio i fyny i'r gogledd a wedyn gweithio yn Porth Eirias neu helpu efo'r tîm yno. Am ryw reswm o'n i'n meddwl fyse Porth Eirias yn cau ar ôl Llundain."
Ond wrth gwrs caeodd pobman pan ddaeth y lockdown ac mae'r cwpl, sy'n briod ers 2018, wedi bod yn Nyffryn Clwyd ers hynny.
Braf cael seibiant?
"I ddechrau o'n i'n poeni i fod yn onest. Sut oedden ni'n mynd i gadw'r staff, creu cyflog, ond wedyn ddaru'r llywodraeth gyhoeddi bod y furlough scheme yn dod i mewn. Ddaru hwnne helpu lot," meddai.
"Be' sy'n bwysig ydy bod pawb ddim yn stressio allan [am] be' maen nhw'n methu ei helpu. Does neb yn gwybod pryd mae'r tŷ bwyta'n mynd i agor, sut mae'n mynd i agor, so does 'ne ddim point stressio amdano fo, dyna'r ffordd dwi'n edrych arno fo.
"Y darn mwya' i ni ydy pan fyddwn ni'n ailagor, fydd hwnna'n galed i ni."
Help i'r busnes
Mae Bryn yn gobeithio na fydd ailagor dan yr amodau newydd yn golygu bod prisiau yn codi i'r cwsmer ond talu rhent fydd y broblem fwyaf i fusnesau, meddai, ac mae'n gobeithio y bydd y llywodraeth yn helpu gyda hynny.
O ran y grantiau mae wedi eu cael hyd yma i'r busnes, mae'n dweud fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gynt na San Steffan o ran eu prosesu.
"[Mae wedi bod] bach ffastach yng Nghymru efo'r grants yn dod trwadd. Mae'r ddau yr un peth â bod yn onest ond Llundain ar ei hôl hi hwyrach gan fod 'na gymaint mwy o fusnesau a tai bwyta yn Llundain. Roedd Cymru yn dod â phethe trwadd wythnos neu bythefnos ymlaen llaw [i Lundain]."
Sgrifennu caneuon
Roedd Sharleen Spiteri yn paratoi i ryddhau albym newydd a dechrau ar daith gyda Texas fis Hydref 2020 ond mae hynny i gyd wedi ei ohirio tan 2021, meddai Bryn.
A thra'i bod yn Llandyrnog mae wedi cael cyfle i gyfansoddi mwy o ganeuon.
"Oedd Sharleen yn sgwennu ryw bythefnos yn ôl, yn canu ac yn recordio ac yn gyrru fo i Glasgow a Copenhagen dwi meddwl.
"So dwi'n meddwl fydd 'na ddwy gân newydd, neu ddwy gân ecstra, ar yr albym sydd wedi cael ei sgwennu fa'ma yn Dyffryn Clwyd - wedi eu sgwennu a'u canu dros yr iphone."
Tyfu llysiau
Heb y tai bwyta i wneud defnydd o'r holl lysiau sy'n cael eu tyfu ar y tir yn Llandyrnog, mae'r cwpl wedi bod yn gwledda ar gynnyrch tir Dyffryn Clwyd, gan gynnwys cannoedd o asparagus.
"'De ni'n tyfu llysiau yma yn Llandyrnog i'r tri tŷ bwyta. Gan bod popeth yn tyfu 'wan a ddim tŷ bwyta i werthu'r llysiau, dwi'n coginio lot o lysiau, lot o asparagus!
"Gynnon ni batch, ddim yn fawr iawn, ryw 10 troedfedd gyda ryw 4 troedfedd, a 'de ni wedi cael dros 300 o asparagus allan ohono fo so maen nhw'n gwneud yn dda eleni."
Mae Bryn wedi dathlu ei ben-blwydd ynghanol y cyfnod clo - roedd gwneud hynny tra roedd ei fwytai wedi cau yn brofiad gwahanol iawn i'r arfer.
Mae 2020 hefyd yn nodi pumed pen-blwydd ei fwyty yng Nghymru, Porth Eirias.
Fe gymerodd ryw ddwy neu dair blynedd, meddai, iddyn nhw gael pethau'n iawn o ran "gwybod be' oedd y cwsmeriaid yn disgwyl a be' oedden ni'n gallu rhoi iddyn nhw", ond aeth ymlaen i ennill gwobr Bib Gourmand Michelin a gwobr bwyty'r flwyddyn yr AA.
Mae'n credu y bydd bwytai yn agor yn gynt yn Llundain nag yng Nghymru.
"Dwi'n meddwl bod Cymru ar y funud ryw dair wythnos ar ôl Lloegr efo'r lockdown, so dwi'n meddwl fydd Odette's yn agor tua Gorffennaf," meddai.
"Dwi ddim yn disgwyl i'r tŷ bwyta fod yn llawn yn syth bin, dwi ddim yn meddwl wneith pobl fynd o lockdown am bron i 12 wythnos a dod yn syth i mewn i'r tŷ bwyta.
"Ond beth sy'n mynd i'n helpu ni efo Porth Eirias ydi bod gynnon i ryw 30 o seti tu allan, siŵr fydd rhaid inni gymryd 10 neu dwsin allan i gadw pawb dwy fetr o'i gilydd so dwi'n gobeithio bydd digon o le i bobl tu allan."
Hefyd o ddiddordeb: