Urdd: Agor gwersyll newydd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae pedwerydd Gwersyll yr Urdd wedi agor yn swyddogol ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro.
Nod y gwersyll newydd yw blaenoriaethu'r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a'r Gymraeg.
Yn ôl y mudiad, Gwersyll Amgylchedd a Lles, Pentre Ifan yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gyda'r profiad yn addo i fod yn "ddihangfa rhag y byd digidol" i wersyllwyr.
Agorwyd Pentre Ifan ym 1992 a hynny fel canolfan addysgol.
Prif bwyslais y ganolfan ger Felindre Farchog, Crymych oedd cynnig addysg amgylcheddol i blant a phobl ifanc.
Erbyn hyn, trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru, mae Canolfan Pentre Ifan wedi trawsnewid i fod yn wersyll.
'Lles, amgylchedd a dyfodol cynaliadwy'
"Pwrpas Pentre Ifan yw i rymuso pobl ifanc i weithio gyda'i gilydd," meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
"I flaenoriaethu lles, i ddysgu gofalu am yr amgylchedd a chyfrannu tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy…
"Mi fydd Gwersyll Pentre Ifan yn ein galluogi i barhau i gael effaith gadarnhaol ar iechyd emosiynol a iechyd meddwl cenedlaethau'r dyfodol."
Gyda'r Urdd yn cynnal cynadleddau ieuenctid yn flynyddol ar draws eu gwersylloedd, daeth y syniad ar gyfer y datblygiad gan eu pobl ifanc ar gyfer eu pobl ifanc, yn ôl y mudiad.
"Beth oedd yn eu poeni nhw fwya' yn y cyfnod oedd yr amgylchedd, lles a iechyd meddwl pobl ifanc" meddai'r Prif Weithredwr.
"Wrth bo' ni'n edrych ar gyfnod o fuddsoddi sylweddol yn y gwersylloedd, ro'dd hwn yn gyfle rhy dda i golli, sef sefydlu rhywbeth reit arloesol.
"Does 'na ddim un canolfan breswyl tebyg o'i fath yng Nghymru, felly mae'n braf bod yr Urdd yn gallu mentro ac yn gallu cynnig y ddarpariaeth yn ôl gofyn ein pobl ifanc ni."
Mae Pentref Ifan ar ei newydd wedd yn cynnwys neuadd sydd wedi'i hadnewyddu a llety o safon ym mhedwar o'r adeiladau oedd ar y safle.
Bydd lle i 40 person gysgu fesul noson yn y gwersyll dros y gaeaf, a lle i dros 75 yng nghyfnodau'r haf, gyda yurts yn cael eu defnyddio fel rhan o'r profiad gwersylla.
Ynghyd â llety en-suite a glampio, mae ardaloedd arlwyo ac ymolchi sy'n defnyddio pŵer solar, ardd perlysiau, cegin awyr agored a llecynnau lles hefyd ar gael yn y gwersyll.
Fe fydd gweithdai ffasiwn cynaliadwy, ioga a serydda ymysg rhai o'r gweithgareddau eraill fydd yn cael eu cynnig ynghyd â chyfle arbennig i adrodd chwedlau wrth y tân fin nos.
'Dihangfa o'r byd digidol'
"'Dan ni gyd yn ymwybodol gymaint mae'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar les a iechyd meddwl pobl ifanc," meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
"Pan ddewn nhw i Bentre Ifan, fe fyddan nhw'n mynd ar deithiau cerdded ar hyd yr arfordir, y mynyddoedd a'r coedwigoedd, i ddysgu ychydig yn fwy am natur a bywyd gwyllt.
"Bydd sesiynau gwylltgrefft, meddylgarwch, syllu ar y sêr, tyfu a chynaeafu bwyd. Yn sicr, fe fydd e'n dipyn bach o digital detox i bobl ifanc Cymru."
Mae datblygu Gwersyll Pentre Ifan yn rhan o waith buddsoddi ehangach gwerth £10m dros y tair mlynedd diwethaf er mwyn uwchraddio cyfleusterau gwersylloedd yr Urdd.
Mae elfennau o Wersyll yr Urdd Llangrannog a Glan-llyn wedi cael eu moderneiddio a'u datblygu hefyd.
Lle i 8,000 o bobl ifanc y flwyddyn
Gwnaeth rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Preseli gymryd rhan yn y seremoni agoriadol ar gyfer y ganolfan newydd.
Dywedodd Emily o Flwyddyn 13: "Dwi n hoff iawn o'r ffaith ei fod e yng nghanol natur ac yn dawel a heddychlon iawn.
"Mae'n bwysig iawn i bobl ifanc, mae llawer o bobl ar ffonau symudol a ddim yn canolbwyntio ar natur.
"Mae'n apelgar iawn. Mae natur yn bwysig imi felly os ma' pobl yn gallu gweld y natur mae'n dda."
Dywedodd Lefi sydd ym Mlwyddyn 12: "Dwi'n meddwl mae'n syniad da iawn ar gyfer Cymru fodern.
"Mae'n gyfle da i ddianc."
Ychwanegodd: "Fi'n siŵr bydd well 'da rhai aros tu fewn ond i ran fwyaf bydd e'n gyfle i fyw bywyd allan o'r sgrin.
"Dwi 'di bod i bob un gwersyll ond ma' Pentre Ifan yn haeddu'i le fel un o'r rhai gorau."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS: "Mae'r Urdd wedi gwneud gwaith gwych yn gwrando ac yn creu canolfan sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd, lles pobl ifanc a'r Gymraeg.
"Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â gwrando ar ddisgyblion a dysgu mewn ffordd sy'n ennyn eu diddordeb. Mae'r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â lles, yn ganolog i'r Cwricwlwm ac yn rhan o addysg pob dysgwr.
"Rwy'n falch iawn y bydd Pentre Ifan yn helpu dysgwyr i barchu a chysylltu â natur, cefnogi eu hiechyd meddyliol a chorfforol a datblygu perthnasoedd iach â thechnoleg."
Fe fydd datblygiad Gwersyll Pentre Ifan yn cynnig lle i 8,000 o bobl ifanc y flwyddyn, a fydd yn sicrhau bod y mudiad yn denu tua 60,000 o bobl ifanc yng Nghymru i'w gwersylloedd yn flynyddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd28 Mai 2019
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019