Cefnogwyr Cymru wedi eu harestio yn Armenia ar ddiwrnod y gêm
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 30 o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi eu harestio yn Armenia ar ddiwrnod gêm ragbrofol Ewro 2024, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae tua 1,200 o gefnogwyr yn ninas Yerevan ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod 32 o gefnogwyr wedi eu harestio, ac mae'r Swyddfa Dramor yn ymwybodol.
Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn Yerevan yn dweud bod yr holl gefnogwyr wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad ac maen nhw'n trio darganfod beth ddigwyddodd.
Roedd Lefi Gruffudd ymhlith y cefnogwyr a gafodd eu harestio.
Dywedodd ei fod ef a dau ffrind arall yn "cerdded 'nôl tuag at y gwesty neithiwr yn eitha' hwyr a 'naeth 'na heddlu ddod syth lan atom ni a chymryd ni fewn i'r ceir, arestio ni a chadw ni yn y ddalfa nes 15:30 prynhawn 'ma."
Ychwanegodd fod yr heddlu wedi eu trin yn "sarhaus, dim dŵr, dim cell, dim byd trwy'r nos, dim esboniad pam ein bod wedi cael ein harestio".
"Mae'n sioc, do' ni ddim yn disgwyl hyn."
Y gred yw bod nifer o gefnogwyr wedi eu harestio ddydd Gwener, gyda rhai yn cael eu rhyddhau erbyn 15:00 amser lleol (11:00 yng Nghymru) ddydd Sadwrn.
Dywedodd cefnogwr arall a gafodd ei arestio ei fod dal yn "trio ffeindio'r geiriau cywir" i ddisgrifio'r hyn ddigwyddodd.
Dywedodd Gerallt Dafydd ei fod ef a'i ffrindiau yn aros am dacsi nos Wener ac "yn sydyn, heddlu yn dod o unman a chymryd ni mas o'r cefn a rhoi fi ar y llawr".
"Rhoio nhw fi yn y sedd gefn ac oedd e'n bwrw fi yn y car amser ro' ni'n trio siarad.
"O'n i jyst ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd, jyst yn rhwystredig, jyst lost for words ar hyn o bryd."
Dywedodd uwch-arolygydd Heddlu De Cymru, Steve Rees, sydd allan yn Armenia: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn gynnar fore Sadwrn yn Yerevan a arweiniodd at 32 o gefnogwyr Cymru yn cael eu harestio.
"Rydym yn gweithio gyda llysgenhadaeth y cefnogwyr a'r gyfraith leol er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd.
"Mae gan gefnogwyr Cymru enw da pan mae'n dod at deithio tramor felly mae'r sefyllfa yma yn annisgwyl."
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r sefyllfa ac rydym yn cyfathrebu'n gyson gyda'r swyddogion heddlu a FSA Cymru i fonitro'r sefyllfa".
"FSA Cymru yw llysgenhadaeth i'r cefnogwyr sydd â chyswllt â'r awdurdodau lleol, yn ogystal â Heddlu De Cymru sydd yma i orfodi'r gyfraith leol."
Mae'r digwyddiad yma'n dilyn rhybudd gan fenyw nos Wener yn dilyn taith dacsi anghyfforddus, lle'r oedd yn honni bod y gyrrwr tacsi wedi mynd i gefn y cerbyd ac wedi gofyn iddi am "ffafrau rhywiol" yn hytrach nag arian.
Bydd llwyddiant y tîm cenedlaethol yn erbyn Armenia yn golygu y gall Cymru gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2024.
Os yw Cymru yn ennill y gêm ddydd Sadwrn yn ogystal â'r gêm yn erbyn Twrci ddydd Mawrth, bydd y tîm yn sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2023