Cyhuddo aelod Bwncath o gyfathrebu rhywiol â phlentyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo athro ac aelod o'r band Bwncath o gyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn.
Fe wnaeth Alun Jones Williams, 26, o ardal y Ffôr ger Pwllheli ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, 21 Tachwedd.
Plediodd yn ddieuog i un cyhuddiad ac fe gafodd ei ryddhau ar fechniaeth nes mis Ionawr.
Ddydd Llun daeth cadarnhad fod yr heddlu'n ymateb i honiadau am athro ysgol yng Ngwynedd, ac mae bellach wedi ei atal o'i waith.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymwybodol o negeseuon yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Gan ei fod yn ymchwiliad byw mae'r llu wedi annog y cyhoedd i beidio â dyfalu ar-lein na rhannu unrhyw negeseuon pellach rhag peryglu'r ymchwiliad.
Mewn datganiad, dywedodd y band: "Daethom yn ymwybodol o sefyllfa ddifrifol sy'n ymwneud ag aelod o'r band dros y penwythnos.
"Gweithredwyd y camau priodol yn syth a phenderfynwyd na fydd yr aelod dan sylw yn cymryd rhan mewn unrhyw un o berfformiadau'r band yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym wedi cael ein hysbysu fod aelod o staff ysgol yng Ngwynedd wedi ei arestio a'i gyhuddo gan Heddlu Gogledd Cymru.
"Yn unol â gweithdrefnau cyflogaeth yr ysgol, mae'r unigolyn wedi ei atal o'i waith hyd nes bydd yr holl ymchwiliadau wedi eu cwblhau. Gallwn gadarnhau fod yr holl weithdrefnau diogelu plant perthnasol yn cael eu dilyn.
"Ni fydd y cyngor yn gwneud sylw pellach tra bo'r prosesau yma yn weithredol a rydym yn ategu galwad yr heddlu i beidio rhannu negeseuon na gwneud unrhyw sylwadau pellach ar-lein."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023