Bachgen 13 oed heb fwriadu lladd ei hun, medd crwner

  • Cyhoeddwyd
Jai PalermoFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jai Palermo ym mis Ionawr 2020

Mae crwner wedi dod i'r casgliad fod bachgen 13 oed a gafwyd hyd iddo'n farw mewn cae ger ei gartref, heb fwriadu lladd ei hun.

Aeth Jai Palermo, o bentref Hook yn Sir Benfro, ar goll ar noson 22 Ionawr 2020 a daeth aelodau Gwylwyr y Glannau o hyd i'w gorff yn yr oriau mân.

Ar ddiwedd cwest yn Hwlffordd, fe gofnododd yr Uwch Grwner Dros Dro, Paul Bennett gasgliad o farwolaeth trwy anffawd.

Roedd y cwest wedi clywed fod Jai yn byw gydag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a dyspracsia, ac wedi cael trafferthion cysgu ers yn chwech oed.

Cynllunio at y dyfodol

Dywedodd Mr Bennett bod Jai wedi gwneud "cynlluniau positif" ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys treulio amser gyda'i dad a mynd ar ddêt gyda'i gariad cyntaf, a'i fod mewn hwyliau "bywiog a chadarnhaol" y bore cyn ei farwolaeth.

Doedd dim arwyddion, meddai, yn ei gofnodion meddygol o ddirywiad iechyd meddwl ers 2012, ond cyfeiriodd at ymddygiad byrbwyll yn gysylltiedig â'i ADHD ar sawl achlysur.

"Ni allaf fod yn fodlon ei fod yn bwriadu dod â'i fywyd i ben," dywedodd, gan ychwanegu bod ffrae gyda'i fam yn gynharach yn y noson wedi ysgogi adwaith emosiynol, ac nad oedd "yn gallu deall y canlyniadau angheuol".

"Fy marn yw bod Jai yn teimlo, mewn rhyw fodd, ei fod yn cael ei orfodi i gymryd y cam a wnaeth ac nad oedd ganddo'r gallu i stopio ac ystyried canlyniadau'r hyn roedd yn ei wneud."

'Ddim yn deall canlyniadau gweithredoedd'

Clywodd y cwest, a gafodd ei gynnal dros dridiau ym mis Hydref, fod Jai wedi ei ddarganfod am 02:45 ar 23 Ionawr mewn cae ger New Road, Hook, yn dilyn chwiliad gan yr heddlu a Gwylwyr y Glannau.

Fe ddiflannodd tua 18:30, ond roedd ei fam a'i nain yn credu ei fod yng nghartref y llall. O ganlyniad, roedd hi'n tua 22:00 erbyn iddo gael ei gofnodi'n ffurfiol fel person coll.

Cafwyd hyd i'w gorff mewn cae tua 80 troedfedd o'i gartref, a dywedodd ei fam, Nia Owen, iddi gael gwybod gan heddwas fod ei mab wedi lladd ei hun.

Roedd Sefton Kwasnik, cyfreithiwr teulu Jai, wedi dweud yn flaenorol fod tystiolaeth feddygol wedi codi cwestiynau ynghylch gallu gwybyddol rhywun â'r un cyflwr â'r bachgen "i werthfawrogi a deall" canlyniadau gweithredoedd.

Dywedodd mai "prif ddymuniad" Nia Owen oedd "na ddylai unrhyw fam, rhiant na pherthynas arall... orfod profi'r un peth â nhw".

'Diffyg cyfathrebu yn destun pryder'

Dywedodd y crwner, Paul Bennet fod teulu Jai yn awyddus "gydol y cwest i ddeall sut na fu modd ei ddarganfod yn gynt".

Roedd yn "annhebygol", meddai, y byddai dadebru wedi ei achub, hyd yn oed pe bai Jai wedi'i ddarganfod yn gynt, ond "ni allaf fod yn gwbl sicr".

Ychwanegodd ei fod yn "bryderus" ynghylch "diffyg cyfathrebu" ymhlith swyddogion heddlu yn ystod y chwilio cychwynnol am Jai.

"Mae'n ymddangos bod yna ambell dybiaethau ynghylch pwy oedd wedi chwilio ym mhle... ac rwy'n bryderus y gallai hyn fod yn arwydd o bolisi neu broses y mae angen mynd i'r afael ag ef," meddai.

Pynciau cysylltiedig