Pum peth i'w gwylio yn natganiad y Canghellor
- Cyhoeddwyd
Fydd amser cinio dydd Mercher yn foment fawr i'r Canghellor, Jeremy Hunt, wrth iddo amlinellu ei gynlluniau treth a gwariant gerbron Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe fydd hefyd yn brawf allweddol i Rishi Suank a'i lywodraeth wrth drio denu pleidleiswyr ar drothwy'r flwyddyn etholiadol.
Ond â'r Prif Weinidog yn addo cadw'r ddysgl yn wastad rhwng rheoli dyled Prydain ac anelu at dorri trethi, beth fydd yr ateb i'r galwadau o Gymru am gyllid i'n gwasanaethau cyhoeddus, cefnogaeth ar gostau ynni a chynnydd mewn budd-daliadau?
Toriadau treth
Dim ond deufis sydd ers i'r Canghellor rybuddio y byddai toriadau treth yn Natganiad yr Hydref "bron yn amhosib." Ond ddydd Llun, roedd y Prif Weinidog yn glir yn ei nod: "Fi mo'yn torri trethi, fi'n credu mewn torri trethi." Beth fydd ar yr agenda felly?
Mae yna alwadau agored iawn gan Geidwadwyr Cymreig am dorri trethi, gyda'r cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn eu plith, sy'n dweud bod hi'n "angenrheidiol" bod toriadau treth ar yr agenda.
Ond â'r Trysorlys wedi ymbellhau oddi wrth y syniad o dorri'r dreth etifeddiaeth dros y penwythnos, awgrym Jeremy Hunt oedd y bydd yna doriadau treth i "ysgogi" pobl i'r gwaith. A ddaw hynny ar ffurf newidiadau i dreth incwm neu Yswiriant Gwladol?
Mae 1.4m o bobl yng Nghymru yn talu treth incwm ac Yswiriant Gwladol. Yn ôl ffigyrau 2021-22, mae 91.5% o'r rheiny'n ennill rhwng £12,571 a £50,270 y flwyddyn ac yn disgyn i'r raddfa dreth sylfaenol, 8.1% ar y raddfa dreth uwch ac yn ennill hyd at £125,140 y flwyddyn, a 0.4% ar y raddfa dreth ychwanegol, yn ennill dros £125,140.
Help i fusnesau bach a chanolig
Mae Rishi Sunak hefyd wedi addo gweithredu i sicrhau mai Prydain yw'r "lle gorau yn y byd i wneud busnes".
Mae dros 99% o fusnesau yng Nghymru'n rai bach a chanolig, ac yn cyflogi 63% o'r gweithlu, yn ôl Llywodraeth Cymru. Galw ar Lywodraeth y DU i'w cefnogi mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, gan annog y Trysorlys i roi mwy o arian i Lywodraeth Cymru er mwyn iddyn nhw allu ymestyn y cynllun rhyddhad ardreth iddyn nhw, a'u helpu i gymryd camau i daclo taliadau hwyr.
Yn ôl Ben Francis o'r Ffederasiwn Busnesau Bach, fe fydd "busnesau yng Nghymru yn aros am ddatganiad sy'n arwydd o dwf economaidd, mewn gobaith y bydd yn ysgogi hyder busnesau".
Budd-daliadau
Mae mwy na chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru'n derbyn Credyd Cynhwysol, yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau. Y cwestiwn mawr i'r rheiny yw a fydd y Canghellor yn codi budd-daliadau yn unol â chwyddiant yn ôl ffigyrau mis Medi, oedd yn 6.7%, fel sy'n arferol - neu a fyddan nhw'n trio arbed arian trwy ddefnyddio ffigwr is mis Hydref, sef 4.6%?
Yn ôl Hayley MacNamara o Gartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli asiantaethau tai ar draws Cymru, mae'n allweddol bod ffigwr uwch mis Medi yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu pobl gyda phwysau'r argyfwng costau byw.
"Mae'r budd-daliadau presennol eisoes yn annigonol i alluogi cartrefi incwm isel i gadw dau ben llinyn ynghyd," meddai, "felly mae'n bwysig dros ben bod y Canghellor yn sicrhau bod budd-daliadau yn cael eu codi yn unol â chwyddiant."
Mewn llythyr at y Canghellor, dywedodd nifer o gyn-weinidogion Llafur - gan gynnwys cyn-Ysgrifennydd Cyrmu, Peter Hain - y byddai codi budd-daliadau ar y ffigwr is yn "anwybyddu'r toriadau termau real mewn cefnogaeth cymdeithasol i bobl oed gwaith ers 2011".
Tanwydd ac ynni
Mae pris nwy rhyw 60% yn ddrutach nawr na dwy flynedd yn ôl, a phris ynni rhyw 40% yn uwch - a'r rhyfel yn Wcráin yn ganolog i'r cynnydd hwnnw. Llynedd, fe gamodd Llywodraeth y DU i'r adwy gyda chymorth ariannol i helpu pob cartref ddelio â'r gost.
Dyw'r un gefnogaeth ddim ar gynnig eleni, ac mae Plaid Cymru'n galw ar y Canghellor i gyflwyno mesurau i orfodi cwmnïau mawr i ostwng pris ynni, neu i gamu mewn â chymorth ychwanegol eto eleni.
Yn ôl AS Ceredigion, Ben Lake, mae "costau ynni wedi disgyn rhywfaint, ond maen nhw dal yn rhyw ddwbwl beth ro'n nhw cyn rhyfel Wcráin, ac yn y gaeaf sydd i ddod, lle na fydd gymaint o gefnogaeth ag oedd llynedd, fydd teuluoedd nawr yn mynd mewn i aeaf lle fydd costau dal yn uwch, ond gyda llai o gefnogaeth.
"Mae sawl ffordd allai Llywodraeth Prydain helpu fynna. Fe allen nhw gynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd, neu fynd ar ôl rhai o'r cwmnïoedd ynni a rheoli'r prisiau fel mae sawl llywodraeth ar draws Ewrop wedi gwneud."
Gwasanaethau cyhoeddus
Mae Llywodraeth Cymru'n galw ar y Trysorlys i ddarparu arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a "chyllido teg" i Gymru yn Natganiad yr Hydref, yn ogystal â £20m ar gyfer diogelu tomenni glo penodol yng Nghymru.
Yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, mae "pwysau aruthrol ar ein cyllideb oherwydd chwyddiant uchel hirdymor, ynghyd â chyfuniad gwenwynig o ddegawd a mwy o lymdra ac effaith Brexit.
"Mae pob gwasanaeth cyhoeddus yn ymrafael â phenderfyniadau anodd iawn a'r Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol yn cyfeirio at heriau eithriadol gyda'u cyllidebau, gyda phwysau sylweddol ar wasanethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd."
Tra'n dweud y byddai'n rhaid aros am ddatganiad y Canghellor i glywed manylion y Datganiad i Gymru, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, fod record Llywodraeth y DU ar gefnogi Cymru yn arwydd da o'r hyn sydd i'w ddisgwyl.
Dywedodd: "Edrychwch ar beth ydyn ni eisoes wedi gwneud i Gymru. Edrychwch ar faint o arian a buddsoddiad rydyn ni eisoes wedi ei roi i Gymru, ac yn gywir felly - ac edrychwch ar sut ydyn ni wedi blaenoriaethu'r rheiny sydd â'r lleiaf mewn cymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023