Trefnydd yn ymddiswyddo dros benderfyniadau 'annoeth' Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi ymddiswyddo fel trefnydd lleol y blaid yn yr etholaeth.
Mae Dai Thomas hefyd yn gynghorydd sir ar gyfer ward Penygroes ar Gyngor Sir Caerfyrddin, a'r gred yw ei fod yn parhau yn y rôl honno.
Mewn llythyr at gadeirydd yr etholaeth, mae'n dweud ei fod yn anhapus gyda'r hyn mae'n eu disgrifio fel "penderfyniadau canolog annoeth yn y blynyddoedd diwethaf" sydd "wedi rhannu'r Blaid yn lleol".
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod yr etholaeth wedi "uno tu ôl Ann Davies" mewn cyfarfod diweddar, a bod y blaid yn "hyderus" y byddai'n "llais cryf a phrofiadol" dros yr ardal.
'Degawdau o waith wedi dinistrio'
Dywedodd y Cynghorydd Thomas ei fod wedi'i "dristau bod degawdau o waith gan wirfoddolwyr, aelodau (rhai ddim gyda ni bellach) ac ymgeiswyr wedi eu dinistrio gan benderfyniadau annoeth y Blaid".
Yn ei lythyr, mae'n dweud bod llwyddiant Plaid Cymru yn yr etholaeth yn "adlewyrchiad o safon ein hymgeiswyr a'u parodrwydd i drafod materion sydd o bwys i etholwyr yn hytrach na materion sydd o bwys i gnewyllyn bach o aelodau'r Blaid".
Ychwanegodd: "I ddyfynnu geiriau Geoffrey Howe wrth ymddiswyddo o gabinet Margaret Thatcher; 'Rwy'n teimlo fel batiwr wedi'i anfon allan i'r crîs dim ond i ddarganfod bod ei bat [sic] wedi'i dorri gan aelodau eraill o'r tîm.'"
Dywedodd y bydd yn ymddiswyddo ar ddiwedd y flwyddyn, ac y bu'n "gryn fraint i wasanaethau un o'r etholaethau mwyaf llwyddiannus i Blaid Cymru".
Roedd y Cynghorydd Thomas wedi cynnig cyfaddawd i arweinwyr y blaid, fyddai'n gweld enw Aelod Seneddol presennol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - Jonathan Edwards - yn cael ei roi gerbron aelodau lleol y blaid i'w ystyried fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod hyn wedi cael ei wrthod gan y blaid yn ganolog.
Cafodd Edwards ei wahardd o'r blaid yn 2020 ar ôl derbyn rhybudd heddlu am ymosod ar ei wraig.
Fe wnaeth Edwards ailymuno â Phlaid Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond mae'n eistedd fel AS annibynnol yn dilyn penderfyniad na fyddai'n cael dychwelyd i grŵp y blaid yn San Steffan.
Yn ddiweddarach gadawodd y blaid yn gyfan gwbl, gan barhau fel AS annibynnol, ac mae wedi dweud ei fod yn ystyried sefyll yn erbyn ei gyn-blaid yn yr etholiad nesaf.
Dim penderfyniad eto
Pan ofynnwyd iddo ddydd Gwener a fyddai'n sefyll yn erbyn Plaid Cymru, dywedodd Edwards nad yw wedi gwneud y penderfyniad eto.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo y byddai ganddo gefnogaeth nifer o aelodau blaenllaw Plaid Cymru yn yr ardal os yw'n dewis ymgeisio.
Dywedodd mai cymhelliant personol, nid gwleidyddol, fyddai sail ei benderfyniad, ac nad yw'n gweld unrhyw ffordd o fod yn AS Plaid Cymru unwaith eto am fod pwyllgor gwaith y blaid yn ei wrthwynebu.
Dywedodd Plaid Cymru bod yr etholaeth wedi "uno tu ôl Ann Davies yn y cyfarfod dewis diweddar", a bod y blaid yn "hyderus fod gan sedd newydd Caerfyrddin bencampwraig lleol heb ei hail a fyddai'n llais cryf a phrofiadol" dros yr ardal.
Ychwanegodd y llefarydd ei bod yn "bwysicach nag erioed fod gan Gymru lais cryf Plaid Cymru yn San Steffan i frwydro dros degwch ac uchelgais i'n cenedl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022