Cyn-AS Plaid Cymru Jonathan Edwards yn ystyried sefyll yn eu herbyn

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Edwards wedi bod yn AS annibynnol ers cael ei wahardd o'r blaid

Mae cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru a gafodd rybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig yn dweud ei fod yn ystyried sefyll yn erbyn ei gyn-blaid yn yr etholiad nesaf.

Gadawodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards y blaid y llynedd yn dilyn ffrae am ei statws ynddi.

Dywedodd Mr Edwards fod ganddo gefnogaeth yn lleol i sefyll eto.

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn "canolbwyntio'n llwyr ar barhau i gyflwyno polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl".

Beth yw'r cefndir?

Ym mis Mai 2020 cafodd Mr Edwards ei arestio pan gafodd yr heddlu eu galw i'w gartref yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd rhybudd gan yr heddlu am ymosod - mae'r pâr wedi ysgaru ers hynny.

Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo", a'i fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd Mr Edwards ganiatâd i ddychwelyd i'r blaid ar ôl i bwyllgor disgyblu'r blaid dderbyn ei fod wedi "cymryd amser i adlewyrchu ac i ddysgu i ddelio â'i weithredoedd".

Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i fod yn AS Plaid Cymru ond sbardunwyd dadl a ddylai gynrychioli'r blaid yn Nhŷ'r Cyffredin.

Roedd mwyafrif o bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid yn argymell na ddylai ailafael yn ei waith fel AS Plaid Cymru yn San Steffan - gan olygu y byddai'n rhaid iddo eistedd fel AS annibynnol.

Dywedodd ei wraig ar y pryd, Emma Edwards ei bod hi wedi'i "siomi" ei fod wedi ei adfer gan y blaid, a galwodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price arno i ymddiswyddo fel AS.

Yn ddiweddarach gadawodd y blaid yn gyfan gwbl, gan barhau fel AS annibynnol.

Dim ymosod ar y blaid

"Rhan o'r broses o benderfynu beth i'w wneud yw'r gefnogaeth dwi'n ei derbyn yn lleol, ac mae llawer o gefnogaeth gan unigolion yn lleol," meddai wrth BBC Cymru.

Dywedodd Mr Edwards ei fod wedi derbyn digon o arian i sefyll ac ymladd etholiad "o roddion bychain gan nifer o unigolion".

Pe bai'n sefyll, meddai, ni fyddai'n gwneud hynny ar lwyfan o ymosod ar y blaid, ond ar ei "record fel aelod etholedig yn Sir Gaerfyrddin ers dros ddegawd a hanner".

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn berson addas a phriodol i fod yn AS, dywedodd bod "hynny'n fater i'r bobl ei benderfynu".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi galw arno i ymddiswyddo fel AS

"Doedd dim gweithdrefnau yn fy erbyn gan Dŷ'r Cyffredin o gwbl, a doedd dim erlyniad gan yr heddlu," meddai.

Roedd wedi cwblhau cwrs arbenigol y gofynnwyd amdano gan banel disgyblu Plaid Cymru, meddai.

Dywedodd Mr Edwards ei fod wedi ei syfrdanu gan ddatganiad gan Adam Price, oedd yn dweud nad oedd gweithredoedd yr AS yn "cydymffufio â gwerthoedd y blaid" ac yn "rhoi'r neges anghywir i oroeswyr trais domestig yng Nghymru".

Honnodd Mr Edwards fod y datganiad wedi gwneud pobl yn y blaid a'r gymuned leol yn anhapus iawn.

"Penderfynodd y pwyllgor disgyblu fy mod yn cwrdd â'u holl ddisgwyliadau ac yn hapus i mi ail-ymuno," meddai.

"Yn anffodus fe alluogodd arweinyddiaeth Plaid Cymru i'r broses honno ddod yn wleidyddol."

'Haeddu ail gyfle'

Cyhuddodd ef arweinyddiaeth Plaid Cymru o gymryd "safbwynt absoliwt" y dylai unigolyn "gael ei ganslo a'i ddinistrio ac nad oes ffordd yn ôl i'r unigolyn hwnnw bellach".

"Mae yna grŵp arall o bobl sy'n credu os yw unigolyn yn onest am y camgymeriadau y mae wedi'u gwneud, ac yn cydnabod eu bod wedi ymddwyn yn amhriodol a'u bod wedi cymryd eu cosb, yna mae'r unigolyn hwnnw'n haeddu ail gyfle.

"Os ydw i'n rhoi fy enw ymlaen ar gyfer etholiad, dyna'r ystyriaeth y bydd yn rhaid i bobl Sir Gaerfyrddin ei gwneud."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r broses ddisgyblu dan sylw wedi dod i ben ers tro.

"Mae Plaid Cymru bellach yn canolbwyntio'n llwyr ar barhau i gyflwyno polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl trwy ei Chytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru, gan ddwyn y Torïaid yn San Steffan i gyfrif am eu hesgeulustod cronig o Gymru, a chefnogi gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn eu hanghydfodau gyda'r llywodraeth Lafur."