Sefyllfa S4C yn 'tanseilio enw da y gwasanaeth'

  • Cyhoeddwyd
Siân DoyleFfynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Doyle wedi cyhoeddi datganiad sy'n gwneud honiadau difrifol ac sy'n hynod feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo

Mae cyn-aelod o Awdurdod S4C yn dweud fod angen "adfer ymddiriedaeth" o fewn y sianel, a bod y sefyllfa ddiweddaraf "wedi tanseilio enw da y gwasanaeth".

Dydd Gwener dywedodd Awdurdod S4C fod aelodau wedi dod i'r "penderfyniad anodd ond unfrydol" i ddiswyddo Siân Doyle fel prif weithredwr.

Daeth yn sgil tystiolaeth gafodd ei roi i gwmni cyfreithiol Capital Law, sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Ms Doyle gyhoeddi datganiad sy'n gwneud honiadau difrifol ac sy'n hynod feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo.

Nid yw manylion adroddiad Capital Law wedi eu rhyddhau'n llawn hyd yma.

Yn ei datganiad mae Ms Doyle yn honni iddi wynebu "triniaeth annheg a bwlio ehangach" gan y Cadeirydd Rhodri Williams "dros y deufis diwethaf".

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais i Rhodri Williams am sylw i ddatganiad Ms Doyle, ond nid oedd am ychwanegu at y datganiad a roddwyd ddydd Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Eirug fod Awdurdod S4C mewn "sefyllfa anodd iawn"

Fe wnaeth yr awdur a newyddiadurwr Aled Eirug, sydd hefyd bellach yn gadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ei sylw ar raglen Bore Sul Radio Cymru.

"Mae'n ddifrifol iawn ac wedi tanseilio enw da y gwasanaeth," meddai Mr Eirug, a fu'n aelod o Awdurdod S4C rhwng 2012 a 2015.

"Dwi'n credu bod y Cadeirydd yn amlwg yn teimlo bod o wedi gorfod cymryd camau difrifol ar ôl cwynion gan staff, a dwi'n credu ei bod hi'n sefyllfa anodd iawn, nid yn unig i Siân Doyle, ond i'r Awdurdod a'r Cadeirydd.

"Be' sy'n bwysig nawr yw adennill hyder, bod yna adfer ymddiriedaeth, a bo' nhw'n gallu mynd 'mlaen i 'neud be' maen nhw fod i 'neud, sef rhedeg gwasanaeth teilwng ar gyfer y gynulleidfa."

'Chi ddim yn gallu anwybyddu fe'

Ychwanegodd Mr Eirug fod Awdurdod S4C mewn "sefyllfa anodd iawn".

Dywedodd y byddai beirniadaeth os na fyddai wedi gweithredu, ond bod gweithredu yn dod â phroblemau eraill yn ei sgil hefyd.

"Be' sy'n anodd mewn sefyllfa fel hyn yw, os oes 'na unrhyw gamymddwyn neu broblemau ynglŷn â bwlio ac yn y blaen, chi ddim yn gallu anwybyddu fe," meddai.

"Dwi'n credu bod y bobl sy'n gorfod delio gyda'r sefyllfa mewn sefyllfa anodd iawn, iawn.

"Os ydych chi'n gwneud dim byd, byddwch chi'n gadael i bethau sy'n annheg barhau, ond os ydych chi'n gweithredu, yn amlwg mae 'na bethau eraill yn dilyn fel canlyniad, a dyna beth ni'n gweld ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Carol Bell fod llawer o swyddi a chwmnïau eraill yn dibynnu ar S4C

Dywedodd Dr Carol Bell, a fu'n aelod o Awdurdod S4C rhwng 2012 a 2016 ei bod yn gobeithio na fydd yr helynt yn cael effaith ar gomisiynu rhaglenni newydd.

"Ma' S4C wedi bod yn llwyddiannus yn y flwyddyn neu ddwy dd'wetha o ran creu rhaglenni sy' nid yn unig wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru ond wedi llwyddo yn rhyngwladol," meddai.

"Ma' hyn yn beth pwysig o ran rhoi'r iaith Gymraeg ar y map a hefyd o ran cyllid i S4C.

"Felly'r gobaith yw bydd hwnnw ddim yn cael ei niweidio trwy ryw fath o ddileu comisiynu rhaglenni newydd.

"Yn anffodus ma' hwnna wedi digwydd unwaith neu ddwy yn hanes S4C ac mae'r effaith wedi bod yn llydan o ran y cwmni.

"Y gobaith sy' gyda fi yw na fydd hwnna'n digwydd y tro yma a bod yr awdurdod yn gallu gweithredu gyda'r executive i 'neud yn siŵr bod e ddim yn digwydd."

'Cwmnïau cynhyrchu yn dibynnu ar S4C'

Ychwanegodd Dr Bell fod llawer o swyddi a chwmnïau eraill yn dibynnu ar S4C.

"Y peth mwya' pwysig nawr yw sicrhau bod pethe'n rhedeg mor llyfn a gallan nhw o ran gweithredu gwaith S4C.

"Y rheswm am hyn yw bod cymaint o gwmnïau cynhyrchu yn dibynnu ar eu bywoliaeth, a chymaint o bobl tu allan i S4C sy'n dibynnu ar S4C am eu gwaith.

"Beth sy'n bwysig yw bod dim oedi o ran comisiynu rhaglenni newydd a bod safon be' sy' ar y sgrin yn cadw lan gyda'r gwelliant mawr sy' 'di digwydd yn y blynyddoedd diweddar."

Pynciau cysylltiedig