Angen eglurder ar ddyfodol cadeirydd S4C - cyn-gyfarwyddwr

  • Cyhoeddwyd
Rhodri WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae tymor Rhodri Williams fel cadeirydd S4C yn dod i ben ym mis Mawrth 2024

Mae angen eglurder ar ddyfodol cadeirydd S4C tu hwnt i fis Mawrth nesaf mor fuan â phosib, yn ôl cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu'r sianel.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Awdurdod S4C - sy'n gweithredu fel y bwrdd - eu bod wedi diswyddo Siân Doyle fel prif weithredwr.

Daeth yn sgil tystiolaeth gafodd ei roi i gwmni cyfreithiol Capital Law, sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C ers mis Mai eleni.

Ond dywedodd Gwyn Williams - a fu'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol y sianel tan 2022 - ei fod wedi rhybuddio Awdurdod S4C am "ymddygiad amhriodol" o fewn y sefydliad ym mis Ebrill y llynedd.

Yn ôl Gwyn Williams, mae angen i'r Awdurdod edrych ar eu hunain a bod hynny yn dechrau gyda dyfodol y cadeirydd, Rhodri Williams.

Dywed S4C na fyddan nhw'n ymateb i sylwadau Gwyn Williams.

'Angen cyhoeddi'r adroddiad'

Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Llun, dywedodd Gwyn Williams bod yr awdurdod wedi cael sawl rhybudd am y sefyllfa.

"Fe wnes i fy hun eu rhybuddio fis Ebrill 2022 bod 'na weithredu ac ymddygiad amhriodol," meddai.

"Mi gawson nhw rybudd fis Rhagfyr y llynedd gan staff ac mi gymrodd tan fis Mai eleni i weithredu."

Ychwanegodd ar raglen Radio Wales Breakfast: "Mae'n rhaid i'r bwrdd, y cadeirydd, ystyried eu safleoedd, ystyried eu gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu dros y 18 mis diwethaf.

"Rhaid i ni beidio ag anghofio dewrder y staff oedd yn fodlon rhoi tystiolaeth heb wybod beth fyddai eu dyfodol nhw.

"Ond yn sicr y cam nesaf yma rŵan ydy gweld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib."

Ffynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo fel Prif Weithredwr S4C ddydd Gwener gan yr Awdurdod

Ddydd Gwener diwethaf, fe gafodd Siân Doyle ei diswyddo ar ôl i'r Awdurdod weithredu yn sgil y dystiolaeth sydd wedi ei roi gan 96 o bobl i ymchwiliad Capital Law.

Nid yw manylion yr adroddiad wedi eu rhyddhau'n llawn hyd yma.

Dywedodd datganiad gan yr Awdurdod fod "natur a difrifoldeb" y dystiolaeth sydd wedi ei roi yn "peri gofid mawr".

Ond ychydig oriau wedyn, cyhoeddodd Ms Doyle ddatganiad ei hun a oedd yn feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo ac a oedd yn gwneud honiadau difrifol - rhai yn erbyn y cadeirydd, Rhodri Williams yn benodol.

Mae Ms Doyle yn honni iddi wynebu "triniaeth annheg a bwlio ehangach" gan y cadeirydd "dros y deufis diwethaf".

Fe wnaeth BBC Cymru gais i Rhodri Williams am sylw ond nid oedd am ychwanegu at y datganiad a roddwyd gan S4C ddydd Gwener.

Roedd Rhodri Williams hefyd wedi cael ei feirniadu gan Llinos Griffin-Williams, a gafodd ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C fis diwethaf.

Yn ôl S4C, fe gafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo "wedi iddyn nhw dderbyn honiadau am ei hymddygiad" ac ar sail "cyngor cyfreithiol manwl".

Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Gwyn Williams saith mlynedd yn S4C - fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac yna Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol - rhwng 2015 a 2022

Mae tymor y cadeirydd presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2024.

Yn ôl Gwyn Williams, mae angen i Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, y DCMS, wneud cyhoeddiad a fydd y cadeirydd yn parhau yn ei rôl o fis Ebrill ymlaen.

Hyd yma, mae'r DCMS wedi mynnu mai mater i S4C, fel corff annibynnol o'r llywodraeth, ydy'r diswyddiadau a chanfyddiadau'r ymchwiliad diweddar.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran y DCMS: "Rydym yn cydnabod y rhan hanfodol y mae S4C yn ei chwarae yng Nghymru, ac i siaradwyr y Gymraeg.

"Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei ariannu gan ffi'r drwydded, mae'n bwysig ei fod yn cynnal y safonau uchaf."

'Rhaid ei ddatrys rŵan - o'r brig i lawr'

"[Y] gwir ydy, y DCMS sy'n penodi aelodau'r bwrdd, felly'r peth cynta' fyddan ni ei angen ydy cyhoeddiad ganddyn nhw ynglŷn â dyfodol y cadeirydd," meddai Gwyn Williams.

"Mae'n rhaid i'r cadeirydd fod yna i benodi prif weithredwr. Mae angen prif weithredwr fod yna i benodi'r pennaeth cynnwys ac felly mae llinyn o beth sy'n gorfod digwydd fan hyn gan ddechrau efo dyfodol y cadeirydd.

"Mae'n rhaid i'r DCMS wneud cyhoeddiad a ydy'r cadeirydd yn parhau o fis Ebrill ymlaen yntau ydan nhw am benodi cadeirydd newydd.

"Oherwydd mae'n rhaid i'r cadeirydd newydd fod yna i benodi'r prif weithredwr, mae'n rhaid i'r prif weithredwr fod yna i benodi'r pennaeth cynnwys, pennaeth rhaglenni.

"Felly mae 'na linyn o bethau sy'n gorfod digwydd yn fan hyn gan ddechrau efo dyfodol y cadeirydd."

Ychwanegodd: "Peidiwch ag anghofio nad y bwrdd sydd wedi dechrau hyn, nag y DCMS sydd wedi dechrau hyn ond y bwlio a'r amgylchedd toxic.

"Ond mae'n rhaid ei glirio fo fyny ac yn y tymor byr rŵan ma' hyn am fod yn boenus, mae'n mynd i fod yn embarrassing... ond [mae'n] rhaid datrys o rŵan o'r brig i lawr."

Pynciau cysylltiedig