Bwdhaeth a fi: 'Perthynas mwy gonest efo fi fy hun'

  • Cyhoeddwyd
Miriam LynnFfynhonnell y llun, Miriam Lynn

"Mae'n ffordd o fyw yn foesol, ffordd o fihafio, ffordd o fod mewn perthynas efo fi fy hun ac eraill sy'n wir ac yn onest."

Yn dilyn tor-perthynas, roedd Miriam Lynn yn teimlo fod yna rywbeth ar goll yn ei bywyd. Daeth o hyd i'r rhywbeth coll hynny ar encil myfyrio yn Yr Alban, a throi at ffydd Bwdhaeth.

Wedi ei magu ym mhentref Llanfynydd, Sir y Fflint, mae Miriam Lynn bellach yn byw yng Nghaergrawnt, ac yn cynnal sesiynau myfyrio yn Gymraeg dros y we.

Dyma'i stori ynglŷn â sut y newidiodd ei ffordd o feddwl a'i ffordd o fyw:

Y Crynwr yn troi'n Fwdhydd

"Ges i ngeni i fewn i deulu o Grynwyr, a magwraeth o fewn y ffydd Gristnogol ond efo pwyslais mawr ar dawelwch ac egwyddorion o gyfartaledd.

"Mae'n debyg bod addoli efo'r Crynwyr mor agos at Fwdhaeth â sy'n bosib. Stopiais i fynd i gyfarfodydd y Crynwyr yn fy arddegau, a ffeindiais i Fwdhaeth yn fy nhridegau hwyr.

"Ar ôl i bartneriaeth ddod i ben, doeddwn i methu 'neud synnwyr o fy mywyd, ac oedd o fel petai fy mywyd jest wedi stopio gweithio fel o'n i wedi arfer. Roedd rhaid i rywbeth newid a fe ges i deimlad cryf bod angen tawelwch arnaf.

"Erbyn hyn, roedd fy mam yn dilyn ffydd Bwdhaeth ac wedi mynd ar nifer o encilion. Fe benderfynais ffeindio encil i fy hun, ac fe ges i gyfle i fynd i'r Alban i ganolfan encil Dhanakosa, canolfan yng nghanol y mynyddoedd ar ochrau Loch Voil.

Ffynhonnell y llun, Antonel
Disgrifiad o’r llun,

Ar gyrion Loch Voil y daeth Miriam o hyd o lonyddwch meddwl

Myfyrio a byw bywyd moesol

"Dyma lle ddysgais i gyntaf sut i fyfyrio, ac roedd yn deimlad pwerus iawn. Cael byw bywyd syml yn y ganolfan a chael cyfle i ddysgu sut i ddilyn yr anadl a myfyrio efo athrawon a phobl eraill ar yr encil, ac yn sicr reit, fe 'nath fy mhoendod meddyliol i lacio ac efo'r llacio hynny, ges i deimlad cryf iawn bod y byd llawer mwy eang na fy mhoendod personol i.

"Roedd yr amodau yn y ganolfan, y tirwedd anhygoel a'r pwyslais ar drugaredd i fi fy hun ac eraill, a moesau o fyw bywyd syml wedi cael effaith fawr arnaf.

"Ar ôl yr encil 10 diwrnod hynny, ddois i nôl i fyw fy mywyd gan geisio cadw rhannau o'r encil yn fyw bob dydd. Fe gychwynais i fynd i'r ganolfan Fwdhaeth leol, ymuno â chyrsiau myfyrdod a Bwdhaeth, a chychwyn bod yn actif o fewn y gymuned o Fwdhyddion lleol.

Ffynhonnell y llun, Miriam Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Miriam yn aelod o Gôr Triratna - côr o Fwdhyddion yng Nghaergrawnt

"Mae myfyrdod, astudio Bwdhaeth a cheisio byw bywyd moesol yn bwysig iawn imi. Dwi'n rhan o dîm sy'n arwain Bwdhaeth yn y Gymraeg ar lein, ac yn rhan o grŵp o Fwdhyddion sy'n cyfarfod bob wythnos i ddyfnhau ein hymarfer.

"Mi ydw i'n ceisio mynd ar encil mor aml â sy'n bosib er mwyn rhoi cyfle imi ddod i berthynas mwy gonest efo fi fy hun.

"Tydi Bwdhaeth ddim yn rhywbeth dwi'n ceisio 'neud pan ma'n fy siwtio; mae'n ffordd o fyw yn foesol, ffordd o fihafio, ffordd o fod mewn perthynas efo fi fy hun ac eraill sy'n wir ac yn onest.

Dathlu a chofio

"Mae'r mudiad o Fwdhyddion dwi'n ymarfer efo nhw (Triratna) yn dathlu tri diwrnod mawr yn y calendr; Dathlu y Sangha - y gymuned, y Dharma - y gwirionedd, a'r Buddha - dyddiad i gofio goleudigaeth y Bwdha dros 2,500 mlynedd yn ôl. Mae'r calendr yr ydym yn ei ddathlu yn marcio diwrnod y Bwdha, neu Wesak, ddiwedd mis Mai.

"Mae pob diwrnod pwysig o fewn y calendar yn cael ei gofio a'i ddathlu efo'r gymuned yn dod at ei gilydd; i fyfyrio, i wrando ar ddysgeidiaethau, i rannu bwyd, sgwrsio a dathlu efo cacen a phaned!

Ffynhonnell y llun, Miriam Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod o ddathlu yng nghanolfan Fwdhaeth leol Miriam yn Nghaergrawnt, gyda sgwrs gan y llywydd, Jnanavaca

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig