Fflat socian a llawn llwydni yn 'addas i fyw ynddo'
- Cyhoeddwyd
Mae asiantaeth gosod tai wedi dweud wrth fenyw fod ei fflat, a gafodd ei ddifrodi gan ddŵr, yn addas i fyw ynddo er gwaethaf y ffaith bod y carpedi yn socian a larymau tân wedi torri.
Dywedodd Emma Helliar, 40 oed, fod ei fflat wedi cael difrod ddŵr o ganlyniad i ollyngiad o'r fflat uwchben.
Roedd ei fflat yng Nghaerdydd mewn llanast llwyr ac yn llawn llwydni ac arogl drwg.
Fe wnaeth ei hasiant osod dadleithydd (dehumidifier) yn ei lolfa a dweud ei fod yn iawn i ddychwelyd i'r fflat wedi dim ond pum diwrnod.
Dywedodd yr asiantaeth - Kingstons Residential - eu bod yn "deall yr anghyfleustra", a'u bod yn ceisio datrys y sefyllfa "cyn gynted â phosib".
'Anghrediniol'
Dywedodd Emma fod swm enfawr o ddŵr wedi llifo i'w chartref hi a'i mab naw oed o'r fflat uwchben ar 3 Tachwedd.
Esboniodd fod y carpedi yn socian o dan draed a bod bron i holl eiddo ei mab yn llawn dŵr.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r safle yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Fe symudodd Emma a'i mab William i dŷ eu ffrindiau dros dro.
Tair wythnos yn ddiweddarach, dywedodd fod y straen o "ymladd" gyda'r asiantaeth a'r cwmnïau yswiriant dros eu fflat wedi ei gorfodi i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
Dywedodd: "Mae fy mab wirioneddol yn dioddef wrth beidio cael lle i'w hun a bod i ffwrdd o'i eiddo. Mae wedi bod yn anodd iawn arno."
Dywedodd Emma, ar 8 Tachwedd, ei bod wedi derbyn e-bost gan Kingston Residential, sydd wedi ei weld gan y BBC, yn dweud bod y "fflat wedi ei archwilio a'i fod yn addas i fyw ynddo".
"Mae'r ffaith fod yr asiant wedi dweud ei fod yn addas i fyw ynddo yn anghrediniol," meddai.
Pan aeth i weld y fflat, dywedodd Emma fod y carped yn dal yn wlyb dan draed a bod yna arogl o lwydni.
Nid oedd yn gallu gweld bod unrhyw beth wedi ei wneud i drwsio unrhyw beth. Ond roedd y trydan ymlaen ac roedd dadleithydd wedi ei osod yn y lolfa.
Roedd hi hefyd wedi darganfod bod y ddau larwm tân yn y fflat wedi torri, ac roedd hi'n poeni a oedd y trydan yn ddiogel i'w ddefnyddio.
"Dyw e ddim yn rhesymol i ddychwelyd" dywedodd Emma, gan esbonio mai ei gofid mwyaf yw y byddai'r llwydni yn cael effaith ar iechyd ei mab.
Dywedodd bod y cwmni yswiriant wedi dweud bod angen taflu celfi, dillad a theganau William o ganlyniad i effaith y llwydni.
"Mae wir yn anodd esbonio i rywun sydd bron yn 10 oed bod yn rhaid i'w holl eiddo fynd i'r sgip," meddai Emma.
"Dyw e ddim yn amgylchedd saff i fod ynddo, gyda'r holl lwydni a'r diffyg larymau tân, a dy'n nhw methu sicrhau na fyddwn yn cael sioc drydanol."
Mae ebyst rhwng Emma a Kingstons Residential yn ystod y pythefnos canlynol yn awgrymu na chafodd y problemau yma eu datrys.
Fe holodd mewn am adroddiad archwilio diogelwch trydanol, ond fe anfonodd y cwmni gopi o adroddiad a wnaed ar 7 Gorffennaf 2023 ati - fisoedd cyn y difrod dŵr.
"Dydw i ddim yn gwybod os ydyn nhw hyd yn oed wedi bod i'r eiddo," meddai Emma.
'Delio gyda'r mater cyn gynted â phosib'
Dywedodd Kingstons fod "dadleithydd diwydiannol" wedi ei osod yn y fflat i helpu i atal llwydni a bod y larymau tân yn gweithio bryd hynny.
Ond gan fod y gollyngiad dŵr wedi dod o eiddo arall, dywedodd eu bod yn "aros am gyfarwyddyd pellach gan y cwmni yswiriant ynghylch pa gamau eraill y mae modd eu cymryd i adfer yr eiddo i'n safonau arferol".
Ychwanegodd fod y landlord wedi cael ei gynghori i gynnal archwiliad tân newydd, sydd "yn cael ei wneud".
"Er ein bod yn deall yr anghyfleustra, rydym yn delio gyda'r mater cyn gynted â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022