Gwaith diogelwch tân adeiladau uchel 'i gymryd tair blynedd'
- Cyhoeddwyd
Mae un o weinidogion Cymru wedi addo y bydd adeiladau uchel sydd â phroblemau diogelwch tân yn cael eu trwsio, ond fe all y gwaith gymryd hyd at dair blynedd i'w gwblhau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gael cynllun i fynd i'r afael â holl broblemau diogelwch tân mewn unrhyw adeilad sy'n uwch na 11m o daldra - nid dim ond cladin.
Bydd rheolau llymach hefyd yn cael eu gosod ar arolygwyr adeiladau.
Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn croesawu'r diweddariad, ond yn poeni am ddiffyg amserlen.
Mae pobl sy'n byw mewn adeiladau uchel ledled Cymru wedi bod yn brwydro i drwsio problemau diogelwch tân ers trychineb Grenfell yn Llundain ym 2017, lle bu farw 72 o bobl.
Mae nifer o berchnogion wedi methu â gwerthu eu fflatiau, ac yn gorfod talu mwy am yswiriant a gwasanaethau.
Pan ofynnwyd iddi a fyddai Llywodraeth Cymru yn addo newid cladin diffygiol, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James y bydd hyn sicr o ddigwydd.
"Yng Nghymru rydym yn gwneud mwy na chladin. Rwy'n meddwl ein bod ar ein pen ein hunain yn y DU yn dweud y byddwn yn adfer yr holl faterion tân."
Dywedodd ei bod yn anodd bod yn fanwl gywir wrth drafod amserlen y gwaith oherwydd natur cadwyni cyflenwi.
'Mwy o oedi a llai o gynnydd'
Dywedodd y grŵp ymgyrchu Welsh Cladiators, sy'n cynrychioli trigolion sy'n byw mewn adeiladau sydd wedi'u heffeithio: "Rydym yn gweld diffyg dyddiadau clir ac amserlenni yn natganiad y gweinidog, sy'n awgrymu mwy o oedi a llai o gynnydd".
Er eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad, dywedon nhw fod "miloedd o lesddeiliaid preifat yn parhau i wynebu heriau difrifol".
"Mae nifer yn rhwystredig iawn o ran arafwch y cynnydd," meddai'r grŵp.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022