Creu 100 o eglwysi fel Ffynnon 'i helpu'r gymuned'
- Cyhoeddwyd
Mae gweledigaeth criw 100.Cymru, dolen allanol o blannu 100 o eglwysi cenhadol yng Nghymru dros y degawd nesaf yn mynd o nerth i nerth, medd y trefnwyr a fu'n cyfarfod yn Llanelwedd dros y penwythnos.
Eisoes mae nifer o eglwysi newydd wedi'u plannu - yn eu plith eglwysi yng Nghaerdydd, Rhondda, Blaenau Ffestiniog, Llangefni a Llandysul.
"Yr hyn sy'n bwysig," medd Gwenno Morris, un o gyd-arweinyddion Eglwys Ffynnon yn Llandysul, "yw dod â gwaith yr eglwys at y bobl, bod yn ymarferol a gwasanaethu anghenion y gymuned.
"Mae'r eglwys yn gyfrwng i ni daclo y pethau ni'n gweld yn y gymdeithas - pethe fel unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl."
'Lle saff iawn i ddod'
Mae Eglwys Gymraeg Ffynnon wedi'i phlannu yn hen adeilad yr ysgol gynradd yn Llandysul ac mae'n cynnal nifer o weithgareddau yn ddyddiol.
"Mae'n creu awyrgylch lle mae degau o bobl leol yn teimlo ei fod yn le saff iawn i ddod," medd Lleucu Meinir wrth siarad â rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru.
"Dyw e ddim jyst yn gwasanaethu pobl er mwyn cael cyfle i rannu'r efengyl. Ni'n gwasanaethu pobl Llandysul a'r ardal am ein bod yn eu caru nhw.
"Ry'n ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau lleol i daclo problemau iechyd meddwl - ac yn rhan o Plethu sef prosiect cymdeithasol llesol Cymraeg yn Nyffryn Teifi.
"Os yw plant yn cerdded mas o'r ysgol, maen nhw'n gwybod bod lle saff yn y Ffynnon ac mae arweinydd ifanc yma y rhan fwyaf o'r amser.
"Yn yr un modd mae 'na le yma i bobl yr ardal ddod at ei gilydd a chymdeithasu.
"Os yw pobl am wybod pam ry'n ni'n 'neud y pethe yma, mae hynny'n grêt, ond ni yma i helpu'r gymuned a'i phobl," ychwanegodd.
Eisoes mae Ben a Lois Franks, sy'n rhan allweddol o weledigaeth Cant i Gymru, wedi plannu Eglwys Hope mewn siop sydd wedi'i haddasu yn Nhonypandy, ac yn ystod y misoedd nesaf maen nhw'n gobeithio plannu dwy eglwys newydd y y cwm.
Ym Mlaenau Ffestiniog mae Joseff Rhys Edwards a'i wraig Lydia wedi symud o Gaerdydd i blannu Eglwys Craig - eglwys lwyddiannus sy'n cynnal nifer iawn o ddigwyddiadau cymunedol.
"Pan glywais gyntaf am weledigaeth Cant i Gymru rhaid i mi gydnabod fy mod wedi fy syfrdanu gan hyder a sicrwydd y weledigaeth yma," meddai'r Parchedig Meirion Morris, cyn-ysgrifennydd yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru mewn blog.
"Nid dyma'r hyn y byddwn yn ei glywed amlaf, os o gwbl, yn enwedig yn y Gymru Gymraeg.
"Ond yn y Sasiwn yn Nhrefeca yn y 18fed ganrif ry'n yn cael clywed fod yna 140 o seiadau wedi eu sefydlu ar hyd a lled Cymru, a hynny mewn 11 mlynedd, a bod y diwygwyr Methodistaidd yn medru adrodd am 5,000 o gymunwyr," ychwanegodd gan ddweud bod y weledigaeth bresennol yn adlewyrchu'r cyfnod hwnnw.
Mae Rachel Radbourne yn un o arweinwyr Capel Goleudy yn Llangefni - eglwys newydd arall sy'n cyfarfod yng Nghlwb Pêl-droed Llangefni ar y Sul ac yn cynnal nifer o weithgareddau cymunedol eraill.
Dywedodd ei bod hi'n gwybod ers ei dyddiau coleg bod hi a'i gŵr am blannu eglwys, ac yna ar ôl rhai misoedd bod y ddau wedi penderfynu ar Langefni.
"Am hir doeddwn i ddim yn sicr lle, ac fe fuon ni'n byw ar incwm fy nghyfnod mamolaeth ac ychydig arian oedd ganddo ni wedi ei arbed cyn i ni benderfynu," meddai.
"Bu'n gyfnod wedyn o ddod i adnabod y gymuned leol. Mae Capel Goleudy i'r gymuned gyfan ac mae nifer ohonon ni'n arweinwyr - mae hynny mor bwysig.
"Tyfu'n araf mae'r eglwys gyda phobl yn symud i'r ardal, eraill yn cael tröedigaeth ac eraill yn dewis peidio teithio dros y bont i gapel bellach. Mae'n eglwys ddwyieithog gyda ryw 30% yn Gymraeg.
"Mae yna nifer o weithgareddau yn gysylltiedig â'r eglwys - clwb cinio a grwpiau babis a phlant bach.
"Fy nymuniad fyddai creu clwb ar ôl ysgol fel bod cyfle i ni gyd fod yn rhan o gymuned Gristnogol."
Ychwanegodd: "Mae'n braf gwybod ein bod ni'n rhan o grŵp o bobl y mae Duw wedi eu galw ohewydd dwi'n credu fod Duw eisiau gwneud pethau mawr yma yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023