'Cymuned Pen-rhys wedi newid fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
"Mae dod i Ben-rhys wedi newid fy mywyd i - y peth pwysicaf dwi wedi 'neud erioed yw symud yma," meddai Sharon Rees sydd wedi bod yn gweithio yn yr ardal ddifreintiedig yn Y Rhondda ers 1991.
Mae hi newydd dderbyn Medal Gee am ei chyfraniad arbennig i ganolfan gymunedol Eglwys Llanfair - medal sy'n cael ei rhoi yn draddodiadol i bobl sydd wedi treulio oes ym mwrlwm a gweithgaredd yr Ysgol Sul.
"Ry'n am ddiolch iddi am ei chyfraniad nodedig yn y fro arbennig hon," meddai Aled Davies, Cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul Cymru.
O'r Allt-wen y daw Ms Rees yn wreiddiol ac wedi cyfnod yn gweithio ym myd addysg gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin ac yna yn wirfoddolwraig gyda phobl ag anghenion arbennig daeth yn weithiwr addysg i Ben-rhys.
'Cwympo mewn cariad â'r bobl'
"Fi'n cofio'r ymweliad cyntaf yn iawn," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
"O'n i wedi cwrdd â John a Norah Morgans mewn cynhadledd genhadol yn Aberystwyth ac ro'n nhw'n sôn am yr eglwys newydd ro'n nhw'n ei chodi yno a bod angen gwirfoddolwyr.
"Es i yno am gyfnod i ddechrau a chwympo mewn cariad â phobl Pen-rhys ac yna symud i wethio yn yr eglwys newydd - Eglwys Llanfair - ddiwedd y flwyddyn honno.
"Fi wedi dysgu cymaint wrth fod yma ac wedi derbyn cymaint gan y bobl sy'n byw yma."
Mae Stad Pen-rhys, a gafodd ei datblygu yn y 1960au hwyr yn un o gymunedau tlotaf a mwyaf ynysig Cymru.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, dim ond tair cymuned arall sy'n fwy anghenus.
Yn y gorffennol mae rhai trigolion wedi teimlo eu bod wedi'u gwthio o'r neilltu, mae rhai o bobl y stad wedi cael enw drwg am droseddu, mae diweithdra yn uchel a chyfartaledd cyflogau gyda'r isaf yng Nghymru ond mae yma "gymuned arbennig", medd Sharon Rees.
"Mae bywyd yn anodd iawn i lot o bobl 'ma ac wedi mynd yn fwy anodd yn ddiweddar yn sgil costau byw uchel ond maen nhw'n dal ati ac yn dangos cariad Duw - falle bo nhw ddim yn syweddoli hynny ond 'na beth fi'n teimlo maen nhw'n g'neud."
Yng Nghyfrifiad 2021 fe ddywedodd 80.7% o bobl mewn un ardal ym Mhenrhys "nad oedden nhw'n arddel unrhyw grefydd".
Yr unig ardaloedd eraill drwy Brydain oedd yn uwch oedd Dwyrain Tonyrefail, chwe milltir i ffwrdd, a dau le bychan yn Lloegr.
Caerffili, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf yw'r tair sir leiaf crefyddol yng Nghymru a Lloegr gyfan.
"Ond mae'r blynyddoedd diwethaf o weithio yma wedi cryfhau fy ffydd i'n bendant," ychwanegodd Sharon Rees.
"Mae gweld yr ysbryd cymunedol sydd yma a'r gwirfoddolwyr wrth eu gwaith yn anhygoel - rwy' wedi cael profiadau arbennig iawn yn gweithio yma."
Cyfle i rannu gofid
Mae Eglwys Llanfair yn galon i'r gymuned ym Mhen-rhys ac yn cael ei hariannu gan wyth enwad crefyddol. Mae Ms Rees yn byw mewn fflat yn y ganolfan gymunedol.
"Nid eglwys ar y Sul yn unig yw hon - mae ei hangen ar bobl bob dydd o'r wythnos.
"Mae yma gaffi sydd ar agor dri diwrnod a dwy noson bob wythnos - mae 'na baned am ddim, brecwast a byrbrydau rhad ac yn fwy 'na dim cyfle i bobl rannu problemau a gofidiau.
"Mae yna glwb gwaith cartref i blant iau a hŷn, gweithgareddau i bobl ifanc gyda'r nos, banc bwyd, banc dillad a banc dodrefn a theganau.
"Dyw hi ddim wastad yn hawdd - mae nifer o blant ag anghenion arbennig ond mae'r gwirfoddolwyr sydd yma i'w helpu yn wych.
"Mae rhai plant yn dod gyda'u rhieni, eraill gyda'u mam-gu - be sy'n rhaid cofio yw does gan lawer o'r plant ddim mynediad i'r we adref ac felly mae darparu lle fel hyn yn gwbl hanfodol gan bod angen gwneud cymaint o waith ysgol ar y we erbyn hyn."
Ymysg gweithgareddau eraill mae cyfarfodydd gydag ymgynghorwyr ariannol a sesiynau gyda'r gymdeithas dai leol Trivallis.
Un o dasgau presennol Sharon Rees yw gwneud cais am grant i do'r capel. Mae e bellach yn gollwng.
"Dwi siwr o gael grant o rywle," meddai, " ond mae'n lot o waith gan bod angen cael amcangyfrif o bris gan dri chwmni. Mae'n rhaid bod yn bositif.
"Y capel yw canolbwynt yr holl adeilad. Bob bore Llun mae plant yr ysgol yn dod yma ac mae'r plant yn cael cyfle i actio straeon o'r Beibl ac hefyd yn dewis be ddylid gweddïo amdano.
"Mae 'na oedfa gymun yma ddydd Mercher. Mae'r Ysgol Sul yn boblogaidd a'r oedfa deuluol ac mae'r cylch Beiblaidd ar fore Llun yn llawn bwrlwm."
'Yn ddarnau' wedi colli fy mab
Un o'r gwirfoddolwyr yn y ganolfan yw Neil Thomas a dywed ei fod wedi bod yn hynod o brysur yn ddiweddar wrth i'r galw ar y banc bwyd gynyddu.
"Weithiau mae 'na alw ynghanol nos a bydd angen mynd â phecyn bwyd i deulu," meddai.
"Mae fy merched wedi bod yn ffodus iawn o'r caffi a'r ganolfan gwneud gwaith cartref ond dwi'n meddwl fy mod i wedi gweld gwerth canolfan Llanfair wedi i fi golli fy mab.
"Roeddwn i'n ddarnau ond fe ddaeth y gymuned at ei gilydd i'n helpu fel teulu - gan wneud job arbennig o dda yn trefnu'r angladd a bod yna i ni.
"Heb ganolfan gymunedol Llanfair, dwi ddim yn credu y buasai Pen-rhys wedi goresgyn Covid na'r costau byw presennol.
"Mae pob dim mae'r bobl leol ei angen yma - a'r hyn sy'n bwysig bo ni'n addasu wrth i ofynion pobl newid."
Ymhen blwyddyn neu ddwy fe fydd Sharon Rees yn ymddeol.
"Ni'n gobeithio y bydd Llanfair yma am flynyddoedd i ddod achos ma'r ganolfan mor hanfodol i'r gymuned," meddai.
"Mae Cymdeithas Dai Trivallis yn cytuno ei bod yn ganolfan hollbwysig ac yn galon y gymuned.
"Ni'n gobeithio bydd gweithwyr eraill yn dod a bydd yr ymroddiad presennol yn para am flynyddoedd achos ma' wir angen Llanfair ar Ben-rhys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022