Galw am fwy o wirfoddolwyr i gynllun Gig Buddies

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Taclo unigrwydd yw nod y cynllun, ond mae angen mwy o wirfoddolwyr i gynnig eu hamser, meddai Rachel Somerville

Mae 'na bryder fod oedolion ag anableddau dysgu yn colli allan ar fywyd cymdeithasol oherwydd prinder gwirfoddolwyr â chynllun Gig Buddies.

Cafodd Ffrindiau Gigiau Cymru, neu Gig Buddies, ei sefydlu gan elusen Anabledd Dysgu Cymru yng Nghaerdydd yn 2018 er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ymhlith y rhai sy'n wynebu heriau wrth fynd allan.

Mae'r cynllun yn paru gwirfoddolwyr â phobl er mwyn mynd i ddigwyddiadau fel cyngherddau, dramâu a gemau pêl-droed.

Mae wedi dyblu mewn maint yng Nghymru ers 2019, ond o ganlyniad maen nhw angen mwy o wirfoddolwyr i ateb y galw.

Ar hyn o bryd dim ond 50% o'r 129 aelod sydd â gwirfoddolwr, ac mae 39 unigolyn arall ar restr aros.

'Rhwystredig'

"Mae 'na alw mawr am ragor o wirfoddolwyr," meddai llysgennad Gig Buddies Cymru, Heather Graham.

"Mae'n rhwystredig na allwn ni ddarparu ein gwasanaeth i bawb sy'n awyddus bod yn rhan ohono."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhwystredig na allwn ni ddarparu ein gwasanaeth i bawb sy'n awyddus bod yn rhan ohono," meddai Heather Graham

Bwriad y cynllun, meddai, yw datblygu "perthynas" a galluogi rhai sydd ag anableddau dysgu i fynd allan a chael amser da.

"Mae'n arferol i bobl aros fyny ar ôl 21:00 ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hi'n normal i bobl ag anableddau dysgu i wneud yr un fath.

"Yn aml does dim cyfle i wneud hyn gan bo'n rhaid i staff cefnogi adael."

Yn ôl gwaith ymchwil gan elusen Stay Up Late roedd 69% o bobl ag anableddau dysgu un ai yn y gwely neu'n paratoi i fynd i'r gwely am 20:30 ar nos Wener arferol. Dim ond 7% oedd allan.

Mae cynlluniau fel Gig Buddies yn "allweddol" felly, yn ôl cyfarwyddwr Mencap Cymru - elusen sy'n darparu cefnogaeth bersonol i bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd.

Yn ôl Wayne Crocker mae cyfleon i gymdeithasu wedi lleihau ers y pandemig.

"Wrth i ni ddod allan o Covid mae naw o bob 10 rhiant yn dweud wrthym ni bod eu plant yn llai cymdeithasol," meddai.

'Mae'n neis iddi fod yn annibynnol'

Mae gan Sian Fouladi o Gaerdydd Syndrom Down. Does gyda hi ddim ffrind gig ac mae hi'n hoff iawn o gymdeithasu.

Dywed ei chwaer Elin, sy'n perfformio dan yr enw Parisa Fouladi, ei bod hi'n gallu bod yn anodd i Sian fynd i'w gweld.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gallu bod yn anodd i Sian Fouladi weld hyd yn oed ei chwaer ei hun, y gantores Elin Parisa Fouladi, yn perfformio

"Dyw Sian ddim wastad eisiau mynd i gigs 'efo Mam o hyd a weithiau dyw hi ddim isho mynd hefo fi chwaith felly mae'n neis iddi fod yn annibynnol a mynd 'efo grŵp o ffrindiau.

"Mae'n gallu bod yn rhwystredig os ydy hi really ishe mynd i rhywbeth a bod ni ddim ar gael - dyw hi ddim yn gallu mynd wedyn."

Mae Elin yn cytuno bod cynllun yn bwysicach nag erioed yn dilyn dwy flynedd anodd i bawb yn sgil Covid, ac "yn enwedig os ydy pobl yn teimlo'n unig i ddechrau".

"Mae Gig Buddies yna i helpu, sy'n beth gwych. Tasen nhw just yn gallu cael mwy o wirfoddolwyr byddan nhw'n gallu helpu mwy o bobl - cael nhw allan o'r tŷ i fwynhau be' maen nhw'n mwynhau 'neud."

'Fel cael ffrind gorau newydd'

Mae Gareth Pahl o Bowys a Sophie Scheeres o Gaerdydd, sydd â Syndrom Down, yn rhan o'r cynllun ers tair blynedd.

Maen nhw'n dweud ei fod yn wych ac yn annog unrhyw un i ymuno. Maen nhw'n mwynhau mynd i'r dafarn ac i sioeau reslo a drag.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Pahl a Sophie Scheeres wedi bod yn rhan o gynllun Gig Buddies ers tair blynedd

"Dwi'n cwrdd â mwy o bobl ac yn datblygu'n berson fwy hyderus," meddai Sophie.

Ychwanegodd Gareth: "Dyw e ddim fel cael dy fatcho gyda pherson - mae fel cael ffrind gorau newydd.

"Fy mhrif ofn oedd ynglŷn ag amser, ond un noson y mis ydy o, ac wrth i'n perthynas ni dyfu ry'n ni'n dueddol o 'neud popeth gyda'n gilydd rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Jones yn mynd gyda Nick i ddigwyddiadau fel gemau rygbi

Mae Gareth Jones o Gaerdydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda Nick ers tua pedair blynedd.

Maen nhw'n mynd i wylio gemau rygbi, mynd i gyngherddau neu i'r dafarn am beint.

"Dwi wrth fy modd yn mynd i gigs a dwi'n meddwl bod rhywbeth sy'n rhwystro pobl rhag bod yn gaeth yn tŷ yn hytrach nag allan gyda ffrindiau yn wych i bawb," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod ni'n gallu helpu a di o ddim yn costio dim byd i ni, just bach o amser ar gyfer rhywbeth 'dan ni'n mwynhau 'neud beth bynnag."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gamau i sicrhau bod gwirfoddolwyr "yn gallu ymdopi â'r sefyllfa", medd Gareth Jones

Yn ôl Gareth Jones does dim angen i bobl boeni am wirfoddoli. Bydd y trefnwyr yn sicrhau bod unigolion yn cael eu paru gyda pherson addas.

"Dydy Nick ddim yn siarad rhyw lawer, 'di o ddim yn 'neud penderfyniadau. Mae o'n hapus i fynd lle bynnag dwi'n mynd.

"Mae 'na bobl 'efo anableddau gwahanol ond mae Gig Buddies yn gwneud yn siŵr bod y gwirfoddolwr yn gallu ymdopi 'efo'r sefyllfa."

Mae angen geirda ar y rhai sydd am ymuno a bydd angen i'r gwirfoddolwr gael archwiliadau gan yr heddlu a hyfforddiant.

Pynciau cysylltiedig