Siân Doyle yn yr ysbyty 'ar ôl cymryd gorddos'

  • Cyhoeddwyd
Siân Doyle

Mae cyn-brif weithredwr S4C, a gafodd ei diswyddo dros honiadau o fwlio, wedi cael triniaeth ysbyty ar ôl cymryd gorddos, meddai ei gŵr.

Cafodd canfyddiadau ymchwiliad cwmni cyfreithiol Capital Law eu cyhoeddi ddydd Mercher - oedd yn cynnwys beirniadaeth o gyfnod Siân Doyle fel prif weithredwr y sianel.

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, ac mae wedi galw sawl tro ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Mewn datganiad drwy gwmni cyfathrebu yn Llundain, dywedodd gŵr Ms Doyle ei fod wedi canfod ei wraig yn anymwybodol fore Iau, gan ddweud ei bod wedi cymryd gorddos.

Mae Rob Doyle yn honni bod adroddiad Capital Law yn "unochrog", a'r "ergyd olaf" i'w wraig.

Dywedodd S4C bod y newyddion yn "bryderus iawn", gan ddweud eu bod "yn meddwl amdani hi a'r teulu".

Ychwanegodd llefarydd ar Adran Cyfryngau Llywodraeth y DU eu bod yn "dymuno gwellhad buan" i Ms Doyle a'u bod yn "disgwyl i fwrdd S4C fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr ymchwiliad annibynnol gan Capital Law fel mater o fyrder".

'Mae'n rhaid i mi siarad'

"Fel ei gŵr, mae'n rhaid i mi siarad nawr ar ei rhan," meddai Mr Doyle.

"Yn y 24 awr ddiwethaf mae fy ngwraig wedi ei beirniadu'n hallt yn y wasg yn dilyn gyrfa ryngwladol 30 mlynedd oherwydd adroddiad unochrog, a gomisiynwyd a gyfarwyddwyd gan Gadeirydd S4C.

"Roedd Siân mor falch o fod wedi cael cais i ddod allan o'i hymddeoliad i arwain sefydliad yr oedd hi, fel merch ifanc, wedi ymgyrchu dros ei sefydlu.

"Ond newidiodd y balchder yna'n rhwystredigaeth, ac yna siom, ofn ac yn olaf anobaith.

"Mae Siân wedi siarad am rôl y Cadeirydd yn hyn, ond mae bwrdd S4C hefyd yn gyfrifol; mae eu diffyg gofal dros Siân, a diffyg trosolwg a herio o'r Cadeirydd, yn haeddu atebion."

"Mae'r person a'i hadlewyrchwyd ddoe yn yr adroddiad 'annibynnol' yn ôl pob sôn, yn hollol wahanol i'r fenyw dwi wedi ei charu ers 37 o flynyddoedd, na'r fenyw mae ei ffrindiau a chyn-weithwyr yn ei hadnabod.

"Rydw i wedi gwylio gydag arswyd ac anghrediniaeth wrth i fy ngwraig gael ei herlid dros y saith mis diwethaf.

"Mae'r driniaeth ohoni wedi bod yn ofnadwy, gyda manylion personol, meddygol wedi eu rhannu gyda'r wasg ac ymosodiadau cyson ar ei chymeriad a'i henw da.

"Mae'n rhaid i hyn stopio.

"Ni ddylai unrhyw fudiad gael ei reoli fel hyn, heb sôn am un sy'n derbyn arian cyhoeddus.

"Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Siân alw ar Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Gwladol dros DCMS [Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon] sy'n gyfrifol am S4C, i ddechrau ymchwiliad i reolaeth y mudiad.

"Mae Siân wedi ceisio ar sawl achos i godi pryderon gyda'r llywodraeth yn San Steffan, ond dyw'r ysgrifennydd wedi gwneud dim.

"Rydw i bellach yn mynnu bod preifatrwydd fy ngwraig a fy nheulu'n cael ei barchu, fel ei bod hi'n gallu, gyda gobaith, gwella ac fe allwn symud ymlaen gyda'n bywydau."

'Pryderus iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae'r newydd am Siân Doyle yn bryderus iawn ac rydym ni yn meddwl amdani hi a'r teulu.

"Rydym yn cynnig cefnogaeth i'r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma.

"Ein gobaith y bydd hi yn gwella yn fuan ac rydym ni yn dymuno'r gorau iddi."

Ychwanegodd llefarydd ar ran DCMS: "Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda Ms Doyle a'i theulu yn y cyfnod eithriadol o anodd hwn, ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddi.

"Rydyn ni'n disgwyl i fwrdd S4C fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr ymchwiliad annibynnol gan Capital Law fel mater o fyrder.

"Rydyn ni wedi bod mewn cyswllt cyson gyda S4C trwy'r ymchwiliad, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny.

"Mae gan ddarlledwyr cyhoeddus, fel pob sefydliad, ddyletswydd gofal i'w holl weithwyr."

Os ydy cynnwys yr erthygl hon wedi eich effeithio, mae cyngor ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig