Cyn-brif weithredwr S4C wedi ymddwyn fel 'unben' - adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd cyn-swyddog y wasg i S4C, Elin Lenny, fod "amodau anodd iawn" i weithio ynddynt yn y sianel

Mae adroddiad hir ddisgwyliedig i honiadau o fwlio o fewn S4C wedi'i gyhoeddi.

Cafodd cwmni cyfreithwyr Capital Law eu comisiynu i gynnal adroddiad ar yr amgylchedd waith a'r amgylchedd o fewn y sianel.

Mae'r dystiolaeth dderbyniodd yr adroddiad yn cynnwys honiadau bod cyn-brif weithredwr y sianel yn ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo gan Awdurdod S4C fis Tachwedd. Mae hi wedi beirniadu'r penderfyniad.

Dywedodd Ms Doyle bod yr adroddiad yn ei "thristáu" a'i bod "ddim yn adnabod na derbyn yr honiadau a wnaed".

Bu'r adroddiad yn clywed tystiolaeth gan 92 o unigolion - nifer yn staff presennol S4C, ac eraill yn gyn-aelodau o staff.

Mae'r adroddiad yn disgrifio'r effaith gafodd yr amgylchedd waith ar rai o'r unigolion fu'n rhoi tystiolaeth, gan ddweud bod 10 wedi dechrau crio, gydag 11 yn honni bod gweithio yn S4C wedi cael "effaith andwyol" ar eu hiechyd.

Mae'n cynnwys honiadau bod Ms Doyle wedi ymddwyn yn sarhaus, gan ddefnyddio iaith anweddus - gan gynnwys sylwadau dilornus ynglŷn â chydweithwyr a chyflwynwyr S4C.

Ffynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo fel prif weithredwr S4C fis Tachwedd

Mae'r adroddiad yn cynnwys dyfyniadau gan rai o'r unigolion roddodd dystiolaeth - maen nhw'n sôn bod y cyn-brif weithredwr wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd.

Meddai un: "Roedd y prif weithredwr wedi fy rhoi mewn sefyllfa gas iawn, llawer o staff eraill hefyd, roeddwn yn ymwybodol o hynny.

"Ond roedd fy ffrindiau a fy nheulu yn poeni llawer am fy iechyd meddwl ar y pryd.

"Roeddwn i wedi dod yn ddagreuol iawn. Allwn i ddim cysgu.

"Ac roedd yr awyrgylch yn y gwaith yn ystod y misoedd olaf o gyflogaeth yn S4C yn anodd iawn a doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i ddewis ond gadael."

Staff yn 'bryderus' ac 'ansicr'

Mae rhywun arall oedd yn cael ei gyflogi gan y sianel yn dweud ei fod wedi dioddef "digwyddiad iechyd sylweddol" yn dilyn cyfarfod pan gafodd "sgwrs fywiog" oedd yn cynnwys y prif weithredwr.

Honnodd bod Siân Doyle yn trafod cael gwared ag o leiaf 50 o staff nad oedd "werth poeni amdanynt".

Mae 'na honiadau hefyd ei bod hi wedi defnyddio'r dywediad "Shoot one and a thousand tremble" yn gyson, a bod hynny yn enghraifft o'i harddull arweinyddol, a'i bod hi eisiau i staff deimlo'n "bryderus" neu'n "ansicr" yn y gweithle.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r adroddiad yn clywed tystiolaeth gan 92 o unigolion - nifer yn staff presennol S4C, ac eraill yn gyn-aelodau o staff

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn dilyn llythyr gan undeb BECTU, oedd yn honni bod "diwylliant o ofn" ymhlith staff y sianel.

Mae'r adroddiad yn dweud bod cwmni Capital Law yn annibynnol o S4C a ddim wedi gweithio gyda'r sianel ers o leiaf pum mlynedd.

Dyw'r adroddiad ddim yn cynnwys unrhyw argymhellion.

Dywedodd un gweithiwr ei fod wedi gweithio o dan bump o brif weithredwyr a nifer o gadeiryddion ac "erioed wedi teimlo mor ddi-werth ag o'n i yn gweithio i Siân".

Mae cyfanswm o 29 o bobl wedi cyflwyno tystiolaeth honedig o ymddygiad gwael gan Ms Doyle, gyda 12 yn sôn am ymddygiad da.

'Ddim yn derbyn yr honiadau'

Dywedodd Ms Doyle bod yr adroddiad yn ei "thristáu" a'i bod "ddim yn adnabod na derbyn yr honiadau a wnaed, ac nid ydynt yn adlewyrchu fy ngyrfa 30 mlynedd ym myd busnes".

"Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu a'i ryddhau gan y cadeirydd, felly dyw hi ddim yn syndod, o'r 92 o bobl a gymrodd ran yn yr ymchwiliad, bod yr adroddiad wedi canolbwyntio ar farn lleiafrif bychan," meddai.

Ychwanegodd ei bod heb gael gwybod y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, a'i bod "ddim wedi cael cynnig yr hawl i ymateb gan S4C, ac wedi darllen yr adroddiad am y tro cyntaf yn y wasg".

Dywedodd hefyd ei bod yn ailadrodd ei galwad ar Adran Ddiwylliant Llywodraeth y DU i ymchwilio ar frys i arweinyddiaeth a llywodraethiant y sianel.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C fis diwethaf

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ymddygiad y cyn-brif swyddog cynnwys, Llinos Griffin-Williams.

Cafodd hi ei diswyddo yn dilyn honiadau ei bod wedi beirniadu safon iaith cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips.

Fe gollodd ei swydd yn dilyn digwyddiad honedig yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Nantes, ble mae honiadau ei bod wedi bygwth tynnu gwaith oddi ar gwmni cynhyrchu.

Dyw adroddiad Capital Law ddim yn cyfeirio at y digwyddiadau hynny.

Mae hi wedi bygwth dwyn achos yn erbyn S4C yn dilyn ei diswyddiad, gan wadu'r honiadau yn ei herbyn.

Mae adroddiad Capital Law yn cynnwys honiadau ynglŷn ag ymddygiad Llinos Griffin-Williams.

Mae 'na honiadau ei bod wedi "cymryd gwaith oddi ar" bump o gomisiynwyr S4C, a'i bod yn methu â gwneud penderfyniadau yn gyflym.

Mae 'na honiadau ei bod yn canslo cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn methu â chyfathrebu yn fewnol, gan arwain at "effaith barlysol".

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y ffaith fod gan rai o'r staff bryderon ynglŷn â chodi materion gydag adran adnoddau dynol y sianel.

Galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd

Yn ymateb dywedodd Ms Griffin-Williams fod "dim tystiolaeth o fwlio gen i yn yr adroddiad".

Fel Ms Doyle, ychwanegodd nad oedd hi wedi cael gwybod gan S4C y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi, na wedi cael cyfle i ymateb chwaith.

Mae hi hefyd yn galw ar Adran Ddiwylliant Llywodraeth y DU i "ymyrryd er mwyn diogelu dyfodol S4C".

"Mae'r syniad bod yr adroddiad yma yn annibynnol, teg a manwl gywir yn gamsyniad," meddai.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams wedi cwyno'n gyhoeddus am ymddygiad y cadeirydd Rhodri Williams

Mae 'na bennod yn yr adroddiad hefyd ynglŷn â chadeirydd S4C, Rhodri Williams.

Mae Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams wedi cwyno'n gyhoeddus am ei ymddygiad.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at "broses ac ymchwiliad ar wahân" ynglŷn â chwyn a gododd Ms Griffin-Williams am Mr Williams yn dilyn cyfarfod o'r bwrdd a'r tîm rheoli ym mis Mehefin.

Mae pump o dystion yn dweud y dylai'r cadeirydd fod wedi ymdrin â'r llythyr gan undeb BECTU yn fwy gofalus, gyda phedwar yn dweud bod pryderon ynglŷn â'r modd y bu'n trafod yr ymchwiliad yn gyhoeddus.

Dywedodd dau o bobl eu bod yn teimlo na roddwyd digon o sylw i effaith yr ymchwiliad ar eu hiechyd.

'Ymddiheuro yn ddiffuant'

Dywedodd Awdurdod S4C mewn datganiad eu bod yn "ymddiheuro yn ddiffuant i'r rhai sydd wedi gorfod goddef ymddygiad annerbyniol yn y gweithle ac am y gofid y mae hyn wedi ei achosi".

"Hoffem ddiolch i chi am fod yn agored ac yn onest wrth rannu eich profiadau, gan ein galluogi i adnabod y methiannau a amlygwyd yn adroddiad heddiw."

Ychwanegodd: "Mae llawer o waith i'w wneud i fynd i'r afael yn llawn â'r holl faterion a godwyd gan y dystiolaeth a dderbyniwyd.

"Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr, gan gynnwys y Timau Rheoli a Thrawsnewid a'r Fforwm Staff a sefydlwyd yn ddiweddar, i annog trafodaeth agored a rhannu syniadau ar ffyrdd gwell o weithio."

Pynciau cysylltiedig