Trais rhywiol: Myfyrwyr yn galw am weithredu gan brifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n ymgyrchu i atal trais rhywiol wedi dweud y byddan nhw'n brwydro i sicrhau bod y brifysgol yn gweithredu yn dilyn cyfarfod gydag uwch aelodau o staff.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn 691 adroddiad o gamymddygiad rhywiol rhwng 2017 a 2021, yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.
Yn ôl un myfyriwr roedd tri aelod o staff gwrywaidd wedi "chwerthin" tra'n trafod trais rhywiol mewn cyfarfod staff.
Mae Prifysgol Caerdydd ac undeb myfyrwyr y brifysgol wedi cael cais am sylw.
'Siomedig iawn'
Cafodd Becca Rumsey, 20 - cyd-sylfaenydd grŵp ymgyrchu Time to Act - ei gwahodd i siarad mewn cyfarfod staff ar 15 Tachwedd.
"'Nes i godi'r pwynt am gamymddygiad rhywiol, a sut maen nhw angen gwneud yn well i gefnogi myfyrwyr," meddai.
"Yn anffodus, roedd tri aelod o staff academaidd gwrywaidd yn chwerthin - sy'n dangos pa mor bwysig yw'r hyn ry'n ni'n ei wneud."
Dywedodd Becca, sy'n astudio gwleidyddiaeth, ei bod hi'n "siomedig iawn" am fod staff academaidd i fod yn "amddiffyn pobl".
Ar 23 Tachwedd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol undeb y myfyrwyr, pleidleisiodd dros 500 o fyfyrwyr yn unfrydol am i'r sefydliad fynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol yn y brifysgol.
Un sydd wedi rhannu ei phrofiad hi o drais rhywiol ydy Emily Carr, 22, sy'n dweud bod y brifysgol wedi ei "methu".
Mae Emily yn dweud iddi rannu ei phrofiad gyda staff, ond bod hynny wedi cael "ei wfftio'n llwyr gan uwch aelod o staff".
Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth nad oes gan y brifysgol unrhyw ddata ar drais rhywiol cyn 2017, nac ar ôl 2021 wedi i'r system gasglu data newid.
Mae llai na phum myfyriwr wedi eu diarddel yn flynyddol, a dywedodd y brifysgol na allai fod yn fwy penodol rhag ofn i hyn adnabod yr unigolion.
Mae Emily yn dweud bod nifer o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cysylltu i rannu eu profiadau nhw o drais rhywiol, gyda rhai yn sôn am bethau oedd wedi digwydd dros 10 mlynedd yn ôl.
"Roedd hi'n torri calon rhywun i dderbyn negeseuon gan bobl oedd wedi rhoi cymaint o ymdrech mewn a siarad yn gyhoeddus a gwneud popeth mae rhywun fod ei wneud - ac eto, newidiodd dim."
Dywedodd Ms Rumsey, a ildiodd ei hawl i fod yn anhysbys: "'Nes i ddod i'r brifysgol ar ôl i rywun ymosod arna i yn rhywiol, fy aflonyddu a fy stelcian ar-lein - a doedd dim cefnogaeth a do'n i ddim yn gwybod ble i ddechrau."
Cyfarfod rheolwyr
I drafod y ffordd mae'r brifysgol yn delio â thrais rhywiol, fe wnaeth saith myfyriwr gwrdd â Wendy Larner, yr is-ganghellor, Clare Morgan, y dirprwy is-ganghellor a Julie Walking, cyfarwyddwr dros dro bywyd myfyrwyr, ar 29 Tachwedd.
Ymhlith y materion a godwyd gan y myfyrwyr oedd bod angen newid y rheol bod rhaid i fyfyrwyr godi pryderon o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd Becca Rumsey: "Dyw nifer o oroeswyr a dioddefwyr ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddyn nhw o fewn 28 diwrnod, neu ddim yn teimlo'n gyfforddus yn rhannu'r profiad."
Fe wnaeth Emily Carr y pwynt bod gan staff "60 diwrnod i ddatgan eu costau petrol", sy'n dangos yr "anghydraddoldeb" sy'n bodoli.
Gofynnodd y grŵp hefyd i'r brifysgol am dryloywder yn eu polisïau a'u prosesau, gan ddiweddaru a darparu diffiniadau allweddol o aflonyddu rhywiol a chamymddwyn.
Dywedodd Becca fod angen i'r brifysgol gyflwyno "adroddiadau blynyddol", yn ogystal ag ymgynghori â myfyrwyr wrth i dermau esblygu.
"Dyma bethau ddylai gael eu gosod allan yn glir yn yr wythnos gyntaf ym mhrifysgol. Mi ddylai fod posteri ymhobman," meddai.
"Yn anffodus mae posteri yn hysbysebu pedwar diod am £10 yn Undeb y Myfyrwyr, yn hytrach na phosteri am ganiatâd sylfaenol."
Mae'r grŵp hefyd wedi gofyn i'r brifysgol roi hyfforddiant caniatâd i'r holl staff.
"Mae'n achub bywydau," meddai Emily.
Galw am ymddiheuriad
Dywedodd sawl myfyriwr yn y grŵp eu bod yn siomedig gydag ymateb rheolwyr y brifysgol yn y cyfarfod.
Yn ôl Emily Carr roedd y grŵp wedi'u "syfrdanu" nad oedd y rheolwyr yn ymwybodol o'r ystadegau, gan eu bod yn cael eu darparu gan y brifysgol ei hun ac wedi bod yn y wasg genedlaethol.
Dywedodd Emily Hasling, 20, o'r Gymdeithas Ffeministaidd: "Doedden nhw [y staff] ddim wedi paratoi'n iawn i'r cyfarfod o'i gymharu â sut wnaethon ni, a dwi'n teimlo bod hynny wir wedi adlewyrchu i mi pa mor ddifrifol oedden ni o'i gymharu efallai â pha mor ddifrifol ydyn nhw."
Dywedodd Emily Carr fod y grŵp wedi gofyn am fwy o dryloywder ac adolygiad o'r broses ymchwilio.
"Rydyn ni wedi cael achosion lle mae myfyrwyr wedi derbyn llythyr gan eu treisiwr yn ymddiheuro," meddai.
"Mae hyn yn rhan o'r achos weithiau, ond oherwydd bod cymaint o wahanol lwybrau, dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r sefyllfa."
Mae'r grŵp eisiau ymddiheuriad gan y brifysgol.
Dywedodd Emily Carr: "Nid golchi eich dwylo o'r mater yw hyn. Mae'n cydnabod y mater a'r methiannau.
"I'r bobl sydd wedi byw trwy'r digwyddiadau erchyll hyn - a oedd naill ai'n cael eu wfftio, eu hanwybyddu, neu wedi gorfod gadael - [mae ymddiheuriad] yn dweud 'mae'n ddrwg gennym am eich methu' oherwydd dyna beth wnaethon nhw - methu."
Dywedodd un arall o sefydlwyr Time to Act, Bethia Tucker, 19, ei bod yn "optimistaidd" y bydd y brifysgol yn gweithredu oherwydd bod cyfarfod arall ym mis Mawrth, a "byddwn yn parhau i ymladd a herio".
Amau a fydd newid
Ond mae Becca Rumsey yn "amheus" oherwydd nad yw'n "ymddiried" yn y sefydliad.
Dywedodd ei bod hi'n "ddig" bod myfyrwyr wedi gorfod "codi'r broblem enfawr hon" y mae myfyrwyr eraill "wedi bod yn tynnu sylw ati ers blynyddoedd".
Ychwanegodd Emily Hasling: "Rwy'n credu bod gwahaniaeth enfawr rhwng gwrando a rhoi'r newidiadau yna ar waith."
Dywedodd Emily Carr: "Ein dymuniad yw ein bod ni'n gallu cyrraedd pwynt lle mae'r nifer [o adroddiadau trais rhywiol] yn sero."
"Rydym wedi cael gwybod yn y gorffennol y byddai hyn yn anhygoel o naïf i fod eisiau ac ymgyrchu drosto.
"I hynny, rydym yn gofyn pam? Nid ydym yn credu bod trais rhywiol yn rhan o'r cyflwr dynol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020