'Dwi'n methu cerdded ar ben fy hun' ar ôl ymosodiad rhyw

  • Cyhoeddwyd
Katy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katy'n rhy nerfus i gerdded i unman ar ei phen ei hun wedi i ddyn ymosod arni yn rhywiol

"Dechreuodd e gydio fi a chyffwrdd rhannau preifat fy nghorff a dweud y bydde'n rhoi £50 pe bawn i'n cysgu gyda fe. Ni fyddai'n gadael llonydd i mi. Roedd yn erchyll."

Mae dioddefwr ymosodiad rhyw wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod bellach yn rhy nerfus i gerdded unrhyw le ar ei phen ei hun, ddydd na nos.

Yn yr haf, roedd Katy - sy'n dymuno peidio defnyddio ei henw iawn - yn cerdded i dŷ ffrind yng Nghaerdydd pan ddaeth dyn ati ar gefn beic.

Stopiodd wrth ei hochr ac ymosod arni yn rhywiol.

Mae aflonyddu rhywiol yn fwy cyffredin nac y mae rhai yn ei gredu, meddai cynghorydd cenedlaethol ar drais rhywiol, gan ychwanegu fod angen agwedd dim goddefgarwch yn ei gylch.

Dywed Llywodraeth Cymru bod angen i bob cymuned herio ymddygiad anaddas, a chefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio.

'Roedd e'n ofnadwy'

"Cydiodd yn fy ngarddwrn a gafael yn fy mhen-ôl ac roedd yn ceisio fy nghusanu. Llwyddais i gyrraedd tŷ fy ffrind a dechrau crio," meddai Katy.

Penderfynodd beidio cysylltu â'r heddlu yn wreiddiol am mai "digwyddiad 15 eiliad oedd e".

Ond pan ddigwyddodd am yr eildro, aeth at yr heddlu.

"Fe weles i fe eto ar ei feic ac fe ddechreuodd e gyffwrdd fy rhannau preifat eto a dweud y byddai'n rhoi £50 i fi pe bawn i'n cysgu gydag e," meddai.

"Roedd e'n gwrthod gadael llonydd i mi a dal i ddod ar ei feic. Roedd e'n ofnadwy."

Dywedodd Katy fod y digwyddiad wedi gwneud hi'n fwy pryderus ynghylch mynd allan a bod mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ar ei phen ei hun.

"Rwy'n berson eithaf nerfus beth bynnag ond mae hyn wedi fy nhaflu. Dwi ddim yn hoffi mynd allan mwyach a mynd i lefydd sy'n orlawn.

"Rwy'n teimlo fod y profiad wedi fy nghyfyngu oherwydd mae'n rhaid i fy mhartner yrru fi i bobman nawr.

"Roeddwn i'n berson hyderus yn cerdded ar fy mhen fy hun gyda'r nos ond nawr rwy'n teimlo dwi ddim yn gallu cerdded ar fy mhen fy hun yng ngolau dydd weithiau... mae wedi cael effaith fawr arnaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae profiadau o'r fath yn drawmatig i ddioddefwyr, medd Yasmin Khan

Trwy siarad am ei phrofiad, mae Katy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth a rhoi hyder i eraill adrodd unrhyw brofiadau tebyg.

Mae nifer o fenywod eraill sy'n byw yng Nghaerdydd wedi rhannu profiadau tebyg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yasmin Khan yw Cynghorydd Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol.

Dywedodd: "Mae'r profiad o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn beth trawmatig iawn.

"Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn fwy aml nag y mae rhai yn ei gredu. Mae sicrhau ein bod ni'n gwrando ar fenywod sydd wedi cael profiadau tebyg mor bwysig.

"Mae angen i ni wneud pethau'n iawn y tro cyntaf.

"Mae'n broblem sylweddol ym mhob rhan o gymdeithas ac mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn ni i sicrhau nad yw unrhyw un yn goddef unrhyw fath o aflonyddu rhywiol. Mae angen i ni barhau â'r sgwrs genedlaethol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sabrina Cass wedi rhannu profiad diweddar o gael ei haflonyddu yn ei chartref ei hun

Dywed Sabrina Cass, myfyrwraig yn y brifddinas, ei bod wedi ei haflonyddu yn ei chartref ei hun yn ddiweddar gan ddyn oedd yn honni bod yn yrrwr cludo bwyd.

"Roedd yn wirioneddol frawychus," meddai. "Roedd rhywun tu allan i'n tŷ, roedd ganddyn nhw fy rhif ffôn ac roedden nhw'n gwybod pwy oeddwn i.

"Fe wnaethon ni redeg o amgylch y tŷ yn cloi'r drysau a'r ffenestri ac roedd e'n ysgwyd dolen y drws ac yn ceisio dod mewn i'r tŷ.

"Roeddwn i am ffonio'r heddlu a dyna pryd ges i alwad arall gan y dyn yma.

"Dywedodd bod e'n gwybod pwy oeddwn i, ac yn gwybod byddwn i'n ei 'nabod e. Dywedodd bod ganddo fy lluniau anweddus... roedd e mor frawychus."

Disgrifiad o’r llun,

Zach Beresford, sy'n helpu sicrhau bod menywod yn cyrraedd adref yn ddiogel wedi noson allan

Mae rhai o dimau chwaraeon Prifysgol Caerdydd wedi trefnu menter Cerdded Gyda'n Gilydd, gan ddilyn esiampl criw o bêl-droedwyr wnaeth ddechrau hebrwng menywod adref i sicrhau eu diogelwch.

Dywedodd un o sylfaenwyr Cerdded Gyda'n Gilydd, y myfyriwr Zach Beresford: "Eleni gyda'r clybiau'n ail-agor a digwyddiadau eraill gyda'r nos, fe benderfynon ni gymryd ysbrydoliaeth o fenter y tîm pêl-droed y llynedd ond ei wneud yn fwy amlwg ac yn well.

"Bob nos Sadwrn rydyn ni'n cynnig cwrdd â myfyrwyr eraill mewn lleoliadau penodol yng nghanol y dref wedi noson mas yn clybio. Rydyn ni'n gwisgo crysau coch a bob amser yn cerdded fesul pâr.

"Wedi dau benwythnos, rydyn ni wedi llwyddo i helpu 40 i 50 o fenywod ifanc gyrraedd gartref yn ddiogel. Os gallwn wneud gwahaniaeth bach i helpu pobl i deimlo'n ddiogel yna dyna beth rydyn ni am wneud."

'Digwyddiadau diweddar wedi achosi pryder'

Dywed Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu bod yn trefnu cynllun Tacsi Diogel gyda chwmni penodol, gan roi'r opsiwn i fyfyrwyr dalu am daith adref, trwy'r undeb, maes o law.

Mae hefyd yn trefnu Bws Diogelwch sy'n patrolio canol y ddinas dair noson yr wythnos i "helpu pwy bynnag sydd ei angen".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn dweud bod mesurau ar waith i ddiogelu pobl sy'n mynd allan gyda'r nos yn y ddinas

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu'r De, Wendy Gunney, ei bod "yn deall bod digwyddiadau diweddar wedi achosi pryder".

"Mae gennym batrolau amlwg iawn trwy ganol y ddinas a'r ardaloedd cyfagos i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Yn ogystal, mae dau Fws Diogelwch sy'n rhedeg bob nos yn ystod Wythnos y Glas i sicrhau bod unrhyw bobl bregus yn cael eu cludo adref yn ddiogel o ganol y ddinas.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i gynyddu nifer eu camerâu cylch cyfyng ym Mharc Bute ac ar hyd llwybrau eraill y ddinas."

'Rhaid herio ymddygiad amhriodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni eisiau rhoi diwedd ar yr holl drais yn erbyn menywod.

"Rydym yn cryfhau ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i gynnwys ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod yn y stryd a'r gweithle yn ogystal â'r cartref fel rhan o'n gwaith parhaus i wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenywod yn Ewrop.

"Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o'r materion anghydraddoldeb a diogelwch sy'n wynebu menywod a merched a gyda heddluoedd Cymru, comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron fel bod gan bobl yr hyder i adrodd troseddau fel aflonyddu rhywiol.

"Rydyn ni am i'n cymunedau herio unrhyw ymddygiad amhriodol a chynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio."

Pynciau cysylltiedig