Alwyn Humphreys: 'Brenin y rhai sy'n casáu Nadolig'
- Cyhoeddwyd
"Beth sy'n fy mlino i ynglŷn â'r Dolig ydy twrci. Dwi'n casáu twrci - dyna'r aderyn hyllaf sydd yn bod. Mae o'n hyll pan mae o'n fyw ac mae o'n hyll pan mae o'n farw, yn gorwedd yno â'i ben-ôl yn yr awyr..."
Mewn aelwydydd ar draws Cymru mae'r paratoadau ar gyfer pryd o fwyd pwysica'r flwyddyn wedi cychwyn - ond nid yng nghartref y cerddor a'r arweinydd Alwyn Humphreys.
Mae'n deg i ddweud nad yw'n hoff o'r ŵyl - a'r prif reswm am hynny yw'r aderyn ar y bwrdd: "Mae'r arogl yn llenwi yr ystafell a'r tŷ i gyd - mae'n amhosib ei osgoi ac mae'r blas yn ofnadwy.
"Dwi ddim yn gweld yr apêl o gwbl. Un peth dwi ddim yn deall ydy pan dwi'n siarad â phobl ynglŷn â hyn a dwi'n dweud, 'dwi wirioneddol yn casáu twrci' ac mae pobl yn dweud, 'dwi ddim yn rhy hoff o dwrci chwaith ond wrth gwrs Nadolig mae'n draddodiadol.'
"Dwi'n meddwl, 'yn draddodiadol?!' Wel, dyma'r un diwrnod o'r flwyddyn pan fyddet ti'n hoffi cael y bwyd rwyt ti'n wirioneddol mwynhau, ti'n cael bwyd ti ddim yn hoffi mewn gwirionedd. Mae hwnna'n stiwpid.
"Dwi jest ddim yn gweld yr apêl. Dwi'n gwybod bod o'n draddodiadol ond ar un adeg o'n i'n arfer mynd dramor dros Nadolig a mynd i wledydd lle doedd pobl ddim yn arddel twrci - o'n i'n mynd i Prâg a llefydd felly ac o'n i'n gallu osgoi twrci yn y gwledydd hynny. Am ryw reswm mae'r wlad yma yn dwlu am dwrci a dwi methu deall y peth o gwbl!"
Felly beth fydd dewis Alwyn ar y diwrnod mawr, pan fydd teuluoedd ar draws Cymru yn cerfio'r twrci?
Meddai: "Dwi ddim yn cael twrci yn bendant. Beth dwi wedi bod yn 'neud - ac mae hyn wedi bod yn wrthun i deuluoedd dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw ar hyd y blynyddoedd - yw cael Indian takeaway y noson gynt ac wedyn ei gynhesu o amser cinio Nadolig."
Pawb yn hapus felly? Bosib ddim...
"Ac wedyn o'n i'n cael pobl yn cwyno, 'ti'n difetha'n Nadolig ni achos mae oglau cyri dros y tŷ i gyd'. O'n i'n meddwl dweud, 'o leia dwi ddim yn gorfod dioddef oglau twrci...'"
Ond mae 'na un elfen o'r pryd mae Alwyn yn ei hoffi, yn lwcus iawn: "Dwi wrth fy modd efo pwdin Nadolig ond mae'n rhaid cael cwstard melyn efo fo, nid y sothach white sauce 'ma gyda rum."
Twrci, twrci, twrci...
Mae Alwyn yn disgrifio ei hun fel 'brenin y rhai sy'n casáu Nadolig' ac yn hapus i gynnig golwg ychydig yn wahanol ar hwyl yr ŵyl.
Ond mae'n rhaid ei fod wedi mwynhau'r Nadolig fel plentyn o leiaf? Pryd cychwynnodd yr atgasedd yma at yr ŵyl?
Meddai: "Mae hyn yn mynd nôl blynyddoedd reit i'r dechrau cyntaf i ddweud y gwir.
"Pan o'n i'n blentyn ac yn mynd o dŷ i dŷ ar ôl Nadolig i weld teulu ac yn y blaen roedd y brechdanau twrci 'ma'n ddiddiwedd. Ac yn blasu'n ofnadwy. Felly twrci yw'r prif rheswm dwi ddim yn hoff o Nadolig.
"O'n i'n byw ar fferm ac yn casáu byw ar fferm - oni bai mod i wedi cael fy ngeni adref buaswn i'n llwyr gredu fod y babi anghywir wedi cael ei roi yn yr ysbyty.
"O'n i'n casáu arogl y fferm, yr anifeiliaid, y menyn o'n ni'n ei gynhyrchu, y llefrith o'n ni'n ei gynhyrchu... fferm fechan oedd hi, tyddyn mewn gwirionedd ond o'n i'n teimlo fel pysgodyn allan o ddŵr felly doedd Nadolig ddim wirioneddol yn ychwanegu fawr ddim.
Pleser
"Ond beth o'n i yn ei fwynhau am Nadolig oedd canu achos oedd gen i lais boy soprano - o'n i wrth fy modd yn canu mewn cyngherddau Nadolig yn y capel a dwi yn hoff iawn o fiwsig y Nadolig."
Ac wrth gwrs mae Alwyn wrth ei fodd yn arwain cyngherddau Nadolig: "Dyna'r ochr orau i mi o Nadolig - dyna ydy neges y Nadolig mewn gwirionedd.
"Dwi wrth fy modd yn cael eglwys yn llawn o bobl ac yn gwrando ar fiwsig. Dwi wrth fy modd yn darganfod miwsig wahanol bob blwyddyn i chwarae efo'r gerddorfa.
"Dwi'n arwain tri chyngerdd Nadolig eleni a dwi wrth fy modd yn dewis darnau sy'n adlewyrchu heddwch y Nadolig yn hytrach na'r heip gwirion o orwario. Dwi yn mwynhau hynny yn ofnadwy.
"Dwi ddim yn berson ofnadwy o grefyddol ond mae'n well gen i feddwl am yr ochr grefyddol ohoni a'r neges o heddwch ac ewyllys da er mor anodd yw meddwl am bethau felly heddiw yn yr oes sydd ohoni.
"Mae miwsig nefolaidd heddychlon yn wirioneddol apelio ata'i ac mae 'na un recordiad fuaswn i'n awgrymu i bawb wrando arno dros Nadolig - enw'r darn ydy Candlelight Carol gan John Rutter, dolen allanol yn cael ei berfformio gan gôr Mormon Tabernacle. Dwi'n gwrando ar hwnna bob Dolig ac mae'n codi fy ysbryd i i'r entrychion."
Heip
Ac mae hynny yn help mawr i ddelio gyda'r dathlu, mae'n siŵr: "Y peth arall dwi ddim yn licio am Nadolig ydy'r heip ofnadwy yma a'r hysbysebion sy'n gorfodi pobl i edrych fel bod nhw'n mwynhau eu hunain a bod nhw wrth eu bodd.
"Mewn gwirionedd hasl ydy Nadolig. Mae ffeindio anrhegion i unrhyw un dyddiau yma yn amhosib - mae gan bawb bob dim ac mae pobl yn gwastraffu arian ar bob math o bethau dydy pobl ddim eu hangen.
Cyfnod drud
"'Swn i'n awgrymu er mwyn stopio'r gwastraffu ofnadwy 'ma bod ni gyd yn prynu ein anrhegion i ni'n hunain adeg y Nadolig - pawb yn hapus a phawb yn gwario cymaint neu cyn lleied â maen nhw isho - mae hynny yn syniad ardderchog achos mae rhoi stwff dydy pobl ddim isho, stwff drud, yn wastraff stiwpid."
Felly pa Nadolig yw'r un sy'n sefyll allan fel yr un gwaethaf i Alwyn?
"Maen nhw gyd yn sefyll mas fel bod yn uffernol.
"Ond y Nadoligau dwi wedi fwynhau mwyaf yw pan dwi wedi mynd i lefydd fel Prâg - mae pobl yn y wlad yma yn stwffio eu hunain drwy'r dydd a ddim yn symud o'r lle - ond dramor mae pobl yn mynd allan a cherdded o gwmpas y ffeiriau Nadolig ac yn mwynhau bod allan yn yr awyr iach. Dyna'r math o Ddolig fuaswn i'n hoffi 'neud pob blwyddyn.
"Dwi'n browd o fod yn y swydd arbennig o fod yn frenin o'r bobl sy' ddim yn hoffi'r Nadolig."