Vaughan Gething yn sefyll i fod yn Brif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog yr economi wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu sefyll i fod yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog.
Mae Vaughan Gething yn un o ddau geffyl blaen yn y ras i arwain y blaid ar ôl i Mark Drakeford gyhoeddi ddydd Mercher y bydd yn ildio'r awenau ym mis Mawrth.
Mewn datganiad dywedodd Mr Gething, 49, ei fod yn gwneud hyn gan "gydnabod yn llawn y dasg enfawr sydd o'n blaenau, fel plaid a fel llywodraeth".
Ychwanegodd "ei fod yn anrhydedd mawr i gael cefnogaeth mor gryf ar draws y blaid, a'r wlad, i adeiladu ar gyfraniad rhyfeddol Mark".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ddydd Iau dywedodd Julie James AS, y Gweinidog ar Newid Hinsawdd a Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig eu bod nhw'n cefnogi y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS i fod yn arweinydd y Blaid Lafur.
Mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi dweud y bydd e'n cefnogi Jeremy Miles yn y ras i olynu Mr Drakeford.
Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, bod angen i'r arweinydd nesaf fod yn unigolyn "pwyllog, galluog a meddylgar".
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn a'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi eu crybwyll fel ymgeiswyr posib eraill - gyda'r ddau yn cael eu gweld fel unigolion a fyddai'n apelio at adain chwith y blaid.
Byddai ethol Mr Gething neu Mr Miles yn garreg filltir i wleidyddiaeth yng Nghymru.
Mr Gething fyddai'r gwleidydd du cyntaf i arwain y wlad, a Mr Miles fyddai'r arweinydd hoyw cyntaf.
Pe bai menyw yn llwyddo yn y ras, dyma fyddai'r tro cyntaf i Gymru gael Prif Weinidog benywaidd hefyd.
Cyhoeddodd Mark Drakeford, 69, y byddai'n camu o'r neilltu mewn cynhadledd i'r wasg yn y Senedd fore Mercher.
Er nad oes dyddiad pendant o ran pryd y bydd aelodau yn cael pleidleisio, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ffyddiog y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru yn gorffen cyn y Pasg.
Byddai angen i unrhyw olynydd posib gael ei gymeradwyo gan y Senedd cyn diwedd tymor y Pasg, ond mater o ffurfioldeb fyddai hynny.
Mae modd i ymgeiswyr ymuno â'r ras os oes ganddyn nhw gefnogaeth o leiaf bump aelod Llafur arall o'r Senedd, neu ddau aelod arall yn ogystal â chefnogaeth partïon lleol neu grwpiau perthnasol fel undebau llafur.
Cafodd Mr Gething ei eni yn Zambia a'i fagu yn Dorset cyn mynd i astudio ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.
Mae'r cyn-gyfreithiwr wedi cynrychioli De Caerdydd a Phenarth ers 2011 ac mae e wedi bod yn rhan o'r llywodraeth ers 2013.
Fe oedd y Gweinidog Iechyd yn ystod y pandemig a daeth yn ail yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018.
Wedi etholiadau'r Senedd yn 2021 cafodd ei benodi yn Weinidog yr Economi.
'Pwysig cael menyw yn y ras'
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Phrif Ymgynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, ei bod hi'n bwysig bod menyw yn y ras.
Ategu'r alwad honno wnaeth aelod dwyrain Abertawe, Mike Hedges: "Dwi'n meddwl bod angen y dewis mwyaf eang posib wrth fynd ati i benodi'r arweinydd nesaf, ac rydyn ni'n bendant angen menyw yn y ras."
Mae yna 17 o fenywod yng ngrŵp Llafur yn y Senedd ac 13 o ddynion.
A hithau'n ddyddiau cynnar yn y ras, dydi hi ddim yn glir pa ymgeiswyr fydd yn cael eu ffafrio gan aelodau mwy adain chwith y blaid.
Mae unigolion o fewn Llafur Cymru wedi dweud wrth y BBC y gallen nhw fod o blaid gweld Ms Blythyn neu Ms Morgan yn sefyll.
Yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018, cafodd Mark Drakeford fwyafrif clir ymhlith aelodau'r senedd, ond roedd ganddo gefnogaeth hefyd gan aelodau llawr gwlad.
Andrew Morgan ydy'r arweinydd cyngor cyntaf i ochri gydag un ymgeisydd, gan gyhoeddi ei fod yn cefnogi Jeremy Miles.
"Oherwydd methiannau'r blaid Geidwadol yn San Steffan, mae pethau yn mynd i fod yn anodd iawn.
"Dyna pam fod Cymru angen Prif Weinidog fydd yn bwyllog, yn alluog, yn feddylgar a fydd yn gallu arwain Cymru i'r dyfodol gan ddod a phobl ynghyd tra'n cryfhau gwasanaethau cyhoeddus," meddai.
Ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd Alun Davies AS Blaenau Gwent: "Dwi'n credu mai Jeremy [Miles] a Vaughan [Gething] fydd y ddau ymgeisydd sydd am ddiffinio'r ras.
"I fi, dwi isio gweld rhywun yn uno'r wlad. Rhy aml mae Cymru wedi bod yn rhanedig.
"Mae gwell gennym ni ambell waith i feirniadu'n gilydd yn lle sefyll gyda'n gilydd. Dwi isio arweinydd sy'n arweinydd cenedlaethol hefyd.
"O'n i'n falch iawn o weld fy hun yn midfield yn y betting stakes ddoe ac oes ydach chi eisiau rhoi £10 arna i… wel gawn ni weld."
Mae Mr Miles, 52, wedi bod yn Weinidog Addysg ers Mai 2021.
Wedi ei fagu ym Mhontarddulais, fe astudiodd y gyfraith yn Rhydychen cyn treulio cyfnodau mewn swyddi cyfreithiol a masnachol gyda chwmnïau fel ITV a NBC Universal.
Cafodd Mr Miles ei ethol yn 2016.
Yn y gorffennol mae e wedi gwasanaethu fel y cwnsler cyffredinol a gweinidog Brexit.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023