Mark Drakeford yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd yn y flwyddyn newydd.
Bydd yn parhau yn y rôl tan y bydd ei olynydd yn cael ei benodi - fwy na thebyg ym mis Mawrth 2024.
Fe gyhoeddodd Mr Drakeford, 69, y byddai'n camu o'r neilltu mewn cynhadledd i'r wasg yn y Senedd fore Mercher.
Dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru yn gorffen cyn y Pasg.
Yn siarad yn ddiweddarach, cadarnhaodd Mr Drakeford y byddai'n parhau fel Aelod o'r Senedd hyd at etholiad 2026.
Ers ei benodi yn 2018, cafodd ei ganmol gan nifer am y modd yr ymdriniodd â'r pandemig Covid.
Fe arweiniodd Lafur hefyd i lwyddiant yn etholiadau'r Senedd yn 2021.
Ond roedd polisïau eraill fel terfyn cyflymder o 20mya a chanslo cynlluniau adeiladu ffyrdd newydd yn fwy dadleuol.
Bu farw ei wraig Clare yn gynharach eleni, gan arwain at fwy o ddyfalu y gallai benderfynu ymddeol yn gynt na'r disgwyl.
Roedd eisoes wedi datgan nad oedd am fod yn Aelod o'r Senedd ar ôl 2026, ond mae amseriad ei gyhoeddiad ddydd Mercher yn syndod.
Mewn datganiad dwyieithog a barodd ryw bum munud, dywedodd Mr Drakeford: "Pan ddechreuais fel arweinydd, dywedais baswn i'n gwasanaethu am bum mlynedd, pe bawn i'n cael fy ethol.
"Mae pum mlynedd yn union wedi pasio ers i mi dderbyn y swydd yn 2018."
Dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai'r broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru "wedi dod i ben erbyn diwedd tymor y gwanwyn" ym mis Mawrth.
Bydd y Senedd yn codi ar gyfer toriad y Pasg ar 25 Mawrth ac yn dychwelyd ar 14 Ebrill.
Roedd disgwyl i Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru gyfarfod nos Fercher i drafod amserlen yr ornest i olynu Mr Drakeford fel arweinydd.
Ychwanegodd Mr Drakeford, AS dros Orllewin Caerdydd, ei bod yn "fraint mawr" i arwain Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru, ac i "chwarae rhan yng ngwleidyddiaeth Cymru yn ystod chwarter canrif gyntaf datganoli".
"Nawr yw'r amser i edrych ymlaen at y bum mlynedd nesaf dros y Deyrnas Unedig a'r 25 o flynyddoedd nesaf o ddatganoli yng Nghymru.
"Mae'r daith yn dechrau heddiw. Diolch o galon i chi gyd."
'Gwell' ymddeol cyn yr etholiad
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru brynhawn Mercher dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi gwneud y penderfyniad i ymddiswyddo er mwyn sicrhau bod arweinydd newydd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd fod etholiad cyffredinol - y mae disgwyl iddi gael ei chynnal yn 2024 - wedi bod "ar fy meddwl".
"Rwy'n meddwl ei bod hi'n well, yng Nghymru, fod pobl yn 'nabod y person fydd yn edrych i gydweithio â Keir Starmer," meddai.
"Oherwydd wrth gwrs, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd buddugoliaeth i Lafur yn yr etholiad cyffredinol hwnnw."
Ond gwrthododd awgrym bod yr ymateb negyddol i bolisi 20mya Llywodraeth Cymru yn ffactor o gwbl yn ei benderfyniad.
"Y polisi 20mya yw'r polisi cywir - fe fydd e'n achub bywydau," meddai.
"Pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar hyn, dwi'n meddwl y byddan nhw'n gweld fod hwn yn esiampl arall o Gymru gyda llywodraeth flaenllaw.
"Rwy'n meddwl y bydd pobl yn edrych 'nôl a dweud 'pam yr holl ffỳs?'"
Ychwanegodd ei fod yn falch o gael ei gysylltu â llywodraethau "sydd wedi bod yn barod i wneud pethau arloesol - arwain y ffordd ble doedd eraill ddim yn barod i fynd, boed hynny'n rhoi organau, gwahardd cosbi plant yn gorfforol, 20mya neu brydau am ddim yn ein hysgolion cynradd".
Wrth edrych ymlaen at y gyllideb a fydd yn cael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf, dywedodd y bydd yn "gyllideb anodd iawn i'w gosod".
Awgrymodd yn gryf na fyddai'n cynyddu treth incwm, ond nid oedd yn fodlon cadarnhau na fyddai'n gwneud hynny.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gorfod gofyn i'w hun, a'i dyma'r amser cywir i dynnu mwy o arian o bocedi pobl, hyd yn oed er mwyn llenwi'r bylchau yn ein gwasanaethau cyhoeddus?"
Pwy allai ei olynu?
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Cemlyn Davies
Yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford, mae'r sylw'n troi'n syth at y ras i'w olynu.
Y ddau geffyl blaen yw gweinidog yr economi, Vaughan Gething a'r gweinidog addysg, Jeremy Miles.
Mae gan y ddau ymgyrch arweinyddiaeth ar y gweill yn barod.
Mae Mr Gething wedi cynrhychioli De Caerdydd a Phenarth ers 2011 ac mae e wedi bod yn rhan o'r llywodraeth ers 2013.
Fe oedd y gweinidog iechyd yn ystod y pandemig ac fe ddaeth e'n ail yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018.
Cafodd Mr Miles ei ethol yn 2016. Yn y gorffennol mae e wedi gwasanaethu fel y cwnsler cyffredinol a'r gweinidog Brexit.
Mae enw Eluned Morgan bob tro'n codi mewn unrhyw drafodaeth am olynydd posib Mark Drakeford.
Hi yw'r gweinidog iechyd presennol ac fe safodd yn y ras ddiwethaf yn 2018.
Mae ymgeiswyr posib eraill yn cynnwys y gweinidog newid hinsawdd Julie James a'r dirprwy weinidog dros bartneriaeth gymdeithasol Hannah Blythyn.
Mwy o ymateb ein gohebwyr:
Beth oedd yr ymateb?
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd y Blaid Lafur dros Gymru, Jo Stephens AS fod cyfraniad Mr Drakeford i Gymru wedi bod yn "anhygoel".
Dywedodd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn y DU, fod Mark Drakeford yn "gawr gwirioneddol" o wleidyddiaeth Cymru a Llafur.
"Yn fwy na dim, mae Mark yn ddyn caredig a gweddus, sy'n byw ei werthoedd Llafur," meddai Syr Keir.
"Yn Gymro balch, gall Cymru hefyd fod yn falch o Mark, am ei frwydr dros bobl gweithiol.
"Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr ag ef ac rydym i gyd yn dymuno'r gorau iddo ar ei ymddeoliad."
Dywedodd rhagflaenydd Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Rwy'n credu bod Mark wedi 'neud ei feddwl lan ymhell o flaen llaw - o'dd e moyn 'neud pum mlynedd - ac wrth gwrs mae 'na ffactor arall fan hyn - mae pawb yn disgwyl etholiad cyffredinol rhywbryd y flwyddyn nesaf.
"'Sa fe'n mynd yn rhy bell mewn i'r flwyddyn mae 'na risg wedyn bydd cystadleuaeth ar gyfer arweinydd y Blaid Lafur yn rhedeg yr un pryd ag ymgyrch etholiadol, a bydde neb moyn gweld 'na," meddai wrth Dros Ginio.
Ar y Post Prynhawn, dywedodd y cyn-ddirprwy brif weinidog, Ieuan Wyn Jones, bod y pwysau ar arweinwyr yn "drwm iawn", ac yna "gorfod wynebu cyfnod o alar - fel llawer o bobl eraill gan gynnwys fi fy hun - mae o'n newid eich perspectif chi ar fywyd does dim amheuaeth am hynny".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru bod cyhoeddiad Mark Drakeford yn nodi "diwedd cyfnod gwleidyddol yng Nghymru".
"Dwi ddim yn meddwl bod neb yn disgwyl hynny," meddai.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai hyn yn effeithio ar y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Mae'n gytundeb tair blynedd sy'n seiliedig ar set o feysydd polisi y cytunwyd arnynt.
"Boed hynny gyda Mark Drakeford neu pwy fydd yn olynydd, rydyn ni fel Plaid yn cael ein harwain gan yr hyn sydd orau i Gymru ac ni fydd hynny'n newid."
Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn "dymuno'n dda" i Mark Drakeford wrth iddo gamu o'i rôl fel Prif Weinidog Cymru.
"Er ein bod gyda gweledigaeth wahanol iawn am Gymru, rwy'n gwybod fod fy nghydweithwyr yn cytuno gyda mi ac yn parchu'r ymroddiad i'w waith fel Prif Weinidog," meddai.
Yn siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds: "Roedd yn sioc mawr clywed y newyddion ac mae'n ddiddorol iawn bod hyn wedi digwydd cyn y Nadolig, ond mae'r syniad wedi bod o gwmpas.
"Dwi'n drist iawn i weld bod Mark yn mynd, mae o wedi bod yn garedig iawn i mi, yn gefnogol ac yn sicrhau fy mod i'n gyfforddus yma yn y Senedd."
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023