5 artist cerddorol i'w gwylio yn 2024
- Cyhoeddwyd
A dyna ni: blwyddyn arall o gerddoriaeth wedi hedfan heibio!
Rhwng casgliadau hir-ddisgwyliedig ac ambell berl annisgwyl yn ein cyrraedd ni o fis i fis, mae 2023 wedi bod yn un gynhyrchiol i'r sin cerddoriaeth yng Nghymru.
Pleser oedd croesawu ychwanegion newydd sbon i repertoires cerddorol bandiau fel Rogue Jones, Mellt a HMS Morris eleni, heb anghofio traciau cyffrous gan rai o gerddorion mwyaf addawol y sin fel Dom a Lloyd, Chroma, a Kim Hon hefyd.
Ond yn ogystal â hyn, mae 2023 wedi gweld llwyth o enwau newydd yn cyrraedd y sin, yn barod i wneud sŵn a dal ein sylw.
Tegwen Bruce-Deans, un o adolygwyr cylchgrawn cerddorol Y Selar sy'n awgrymu enwau i'w dilyn yn 2024.
Talulah
DJ, canwr a chyfansoddwr ydy Talulah. Tra bod hi hefyd yn rhan fywiog o'r sin DJ ffeministaidd yng Nghaergrawnt, eleni rhyddhaodd Talulah ei senglau cyntaf dan label I KA Ching: Byth yn Blino a Slofi. Mae ei dylanwadau sonig eclectig yn golygu bod sŵn Talulah yn dawnsio ar y ffin rhwng genres; lo-fi niwlog yn cymylu'r gwahaniaeth rhwng alawon jazz ac awgrymiadau offerynnol clasurol.
Mae pobl ifanc yn benderfynol o godi llais yn erbyn gwahanol faterion cyfoes sy'n bresennol yn y byd ar hyn o bryd, ac mae'r themâu pwysig mae Talulah yn awgrymu trwy eiriau ei chaneuon yn arwydd y bydd ganddi gyfraniad pwysig i'r sin yn y blynyddoedd i ddod.
Ffenest
Wynebau cyfarwydd ar eu newydd wedd. Dyma brosiect cerddorol diweddaraf Ben Ellis a George Amor, gyda chymorth cyfeillion o fandiau Cate Le Bon a Malan. Os nad ydy'r cyfuniad hynny'n barod yn ddigon i awgrymu naws sŵn Ffenest, mae craidd y gerddoriaeth wedi'i wreiddio yn yr un byd â Sen Segur ac Omaloma: alawon seicadelig, breuddwydiol gyda throadau annisgwyl wedi'u pupuro trwy'r traciau.
Mae'r pedwarawd wedi cael y cyfle i arbrofi gyda'u cerddoriaeth newydd mewn gwahanol wyliau yn 2023, a mireinio'r manylion bychain cyn rhyddhau unrhyw drac ar alw. Daeth eu sengl gyntaf, Rhywbeth Arall, allan dim ond ychydig o wythnosau yn ôl, ac yn arwydd o aeddfedrwydd artistig fydd yn siŵr o barhau i flaguro yn y flwyddyn newydd.
Buddug
Buddug Jones ydy aelod diweddaraf teulu Recordiau Côsh, ac mae hi wedi bod yn brysur yn ystod y misoedd diwethaf yn paratoi ei thraciau cyntaf erioed i ryddhau i'r byd. Er mai dwy ar bymtheg yn unig ydy hi, mae Buddug yn dangos nad yw oedran yn golygu dim yn y diwydiant hwn os oes gen ti ddawn gyda cherddoriaeth.
Mae Dal Dig, sengl gyntaf Buddug, yn anthem indi sy'n gryf ond yn deimladwy ar yr un pryd, ac mae'r gwrandäwr yn teimlo'n agos ati'n syth wrth iddi ein croesawu ni i'w byd cerddorol hi. Does dim dwywaith amdani fod pawb yn ysu i glywed beth sy'n dod nesaf gan Buddug, gan gynnwys y cyfle i'w gweld hi'n perfformio ei chaneuon hi'n fyw. Mae gen i deimlad y bydd 2024 yn flwyddyn fawr i'r artist ifanc o Frynrefail.
Siula
Er bod Siula yn enw newydd i ni eleni, mae'r deuawd pop electronig hwn yn wynebau cyfarwydd fel artistiaid unigol eu hunain: y cynhyrchydd Llion Roberts o Cotton Wolf, ac Artshawty, sef enw llwyfan y gantores ifanc Iqra Malik. Dau artist sy'n creu cerddoriaeth sy'n herio disgwyliadau'r gynulleidfa Cymraeg, ac o dan enw Siula maen nhw'n cyfuno'u cryfderau fel rhan o brosiect arbennig iawn.
Daeth sengl ddwbl cyntaf Siula, Golau Gwir / Ischia allan yn swyddogol fis Hydref ar label Libertino, ac mae'r ddau drac yn arddangos gwahanol agweddau o'u hunaniaeth artistig ddyfodolaidd, a'u halawon synth atmosfferig sy'n disgyn mewn i guriadau dirdynnol, cryf. Mae Siula yn rhan o fudiad electronig cyffrous yn y sin ar hyn o bryd, a dwi'n edrych ymlaen at weld sut maen nhw'n adeiladu ar lwyddiant eu senglau cyntaf ymhellach yn 2024.
Mynadd
Criw ifanc o Benllyn, Y Bala ydy Mynadd. Efallai y byddwch chi wedi gweld wynebau'r pump ar lwyfannau gwyliau lleol ar draws y wlad eleni, wrth iddyn nhw gefnogi bandiau poblogaidd fel Y Cledrau a Candelas.
Mae'n amlwg bod y band wedi bod yn gweithio ar eu sŵn trwy arbrofi gyda chwarae'n fyw, achos mae eu sengl gyntaf, Llwybrau, ag ôl crefft hyderus a gofalus arni. Mae'r allweddellau arddull jazz yn cymryd beth allai fod yn sain band confensiynol iawn i'r lefel nesaf, ac yn dal yn berffaith hunaniaeth eofn a diniweidrwydd hyfryd y bobl ifainc y tu ôl i'r gerddoriaeth hefyd.
Gobeithio gweld Mynadd yn dringo'r line-yps ymhellach yn y flwyddyn newydd, gyda mwy o gerddoriaeth wedi recordio ar y ffordd, hefyd.
Mae'n bwysig dweud mai dim ond crafu ar wyneb y gwahanol artistiaid sydd â blwyddyn gyffrous o'u blaenau ydw i yn y darn yma. Gan gadw llygaid gofalus ar symudiadau enwau fel Mabli, Minas, Alaw, Tokomololo a SYBS hefyd, mae 2024 yn argoeli'n flwyddyn wych arall o gerddoriaeth dwi'n siŵr. Amdani.
Hefyd o ddiddordeb: