5 artist cerddorol i'w gwylio yn 2023
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n un sydd a'ch bys ar bỳls y sîn gerddorol Gymraeg? Peidiwch â phoeni os ddim - mae Owain Williams o Klust yn sicr yn un o'r rheiny, ac mae'n ein tywys ni drwy rai o'r enwau y mae'n disgwyl pethau mawr ganddyn nhw dros y flwyddyn sydd i ddod.
Roedd 2022 yn flwyddyn fawr i artistiaid Cymraeg, gyda'r gerddoriaeth yn treiddio'n ddyfnach ac yn bellach nag erioed. Tra oedd chwe mis cynta'r flwyddyn dan gysgod yr ewfforia o allu ail-ymweld â lleoliadau gigs, cafodd ail hanner y llynedd ei farcio gan albyms arbennig Adwaith, Gwenno a Sŵnami. Roedd hefyd yn flwyddyn arbrofol iawn, gyda sawl artist yn dangos eu bod yn barod i ffoi o'u cynefin cerddorol i gofleidio cysyniadau gwahanol, ffres. Pwy a ŵyr beth fydd gan 2023 i'w gynnig ond dyma ambell artist i wneud nodyn ohonynt i fod o flaen y gêm!
Static Inc
Yn disgrifio eu hunain fel 'band indie sy'n cyfleu tirlun prysur Caerdydd drwy synau amrwd', mae Static Inc yn aml yn llithro rhwng yr anrhefn a'r breuddwydiol. Ers imi ddod ar draws Brithgofion, EP diweddaraf y triawd o'r ddinas, mae wastad rhywbeth yn fy nhynnu i'n ôl. Falle mai'r riffs pigog yw hynny, falle mai'r mix niwlog sy'n gyfrifol, ond un peth sy'n saff yw bod Static Inc ar ddechrau cyfnod cyffrous. Dydyn nhw dal heb berfformio yn yr Eisteddfod neu Tafwyl, ond dwi'n edrych ymlaen at weld lle awn nhw nesaf!
Gillie
Yn dychwelyd i Gymru wedi iddi fyw yn Llundain am ddeng mlynedd, mae Gillie yn dechrau pennod newydd yng Nghaerdydd ac yn gwneud hynny 'dan ofal label Libertino. I Ti yw'r gân Gymraeg gyntaf iddi ryddhau, ac mae'n awgrymu ei bod yn byrlymu gyda syniadau cerddorol, creadigol. Dwi'n ffan mawr o artistiaid fel Ben Marc a Kokoroko ac felly roedd dod ar draws artist o Gaerfyrddin, sydd hefyd yn creu curiadau cyflym, cysurus, yn rhywbeth go arbennig. Mae eisoes wedi'i chynnwys ar restrau chwarae Spotify ac NME, ac mae Gillie yn bendant yn un i'w gwylio yn 2023.
Parisa Fouladi
Un arall sy'n plethu curiadau minimalistig gydag arddull neo-soul arbrofol yw Parisa Fouladi. Er na fyddai'n deg gosod ei cherddoriaeth mewn i genre arbennig, mae ei senglau cynnar yn awgrymu ei bod yn torri tir newydd - ac mae'r 'lle' arbennig hwnnw yn cyfuno pop, electronig a jazz. Nes i syrthio mewn cariad gyda llais unigryw Parisa ar ôl clywed sengl ddiweddara' ei phrosiect arall, Derw, ac yn ôl pob tebyg mae ganddi EP newydd sbon ar y ffordd. Yn berffaith ar gyfer eich nosweithiau hir fis Ionawr, gwnewch yn siŵr bod Parisa Fouladi ar eich radar!
Osian Land
Er mai Spotify yw'r prif wasanaeth ffrydio bellach, mae dal werth tyrchu drwy'r llwyfannau eraill i ddarganfod ambell berl sy'n cuddio'n y cysgodion. Un artist dwi wedi bod yn dilyn o bell ydi Osian Land, wedi iddo ryddhau llond llaw o demos ar Soundcloud y llynedd yn dilyn ei ailgymysgiad o Deryn Du gan Yws Gwynedd. Cynnil, cynnes a chraff — mae'r cwbl yn fy nghlymu i'n gaeth ac alla'i ddim disgwyl i weld y prosiect yn blaguro eleni.
Wrkhouse
Blwyddyn newydd, enw newydd, cerddoriaeth newydd. Er nad ydi hi'n llawer o gyfrinach bellach, Wrkhouse yw prosiect newydd y band Lewys. Mae'r albym Rhywbeth yn Rhywle gan Lewys yn teimlo fel y cafodd hi ei rhyddhau ganrif ddiwethaf, heb sôn am dair blynedd yn ôl, ac ers hynny mae aelodau'r band wedi dilyn trywydd gwahanol. Wedi iddynt berfformio'n fyw am y tro cyntaf yn Leeds 'chydig cyn y Nadolig, dwi'n aros yn amyneddgar i weld beth ddaw allan o'r warws a chlywed ffrwyth llafur eu gwaith!
Gan edrych ymlaen hefyd at weld be' fydd camau nesaf Malan, Emyr Sion, Elkka, Rhys Dafis a Mali Haf — Mae 2023 yn argoeli'n flwyddyn gynhyrchiol arall i gerddoriaeth o Gymru!
Mae Owain wedi bod yn brysur dros y flwyddyn ddiwethaf yn sefydlu'r safle we klustmusic.com, yn creu crysau t arbennig, ac yn printio ei gylchgrawn cyntaf. Mae'n ymrwymo i barhau i ddilyn a chefnogi cerddoriaeth Gymraeg yn ystod 2023, ac mae'n awgrymu efallai y bydd ambell gig ar ei ffordd…
Ymunodd â Buddug Roberts ar raglen Mirain Iwerydd i ddarogan beth fydd yn digwydd dros y flwyddyn sydd i ddod.
Hefyd o ddiddordeb: