Ffrae undebau yn peryglu swyddi ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae anghytuno rhwng undebau yn golygu y gall 3,000 o weithwyr golli eu swyddi ym Mhort Talbot o dan gynlluniau sy'n cael eu hystyried gan y perchnogion, Tata.
Mae undebau Community a GMB ar y naill ochr tra bod Unite ar y llall wedi iddynt dynnu eu cefnogaeth ar gyfer cyd-weithio traws undebol yn ôl.
Mae Community, sef undeb mwyaf y diwydiant dur - sy'n cynrychioli dwy ran o dair o'r gweithlu - wedi gwahodd arweinwyr Unite i gwrdd yr wythnos nesaf er mwyn datrys yr anghytuno rhyngddynt.
Fis diwethaf, fe ddywedodd Tata wrth yr holl undebau fod y cwmni yn bwriadu cau'r ddwy ffwrnais chwyth ar y safle yn Ne Cymru, ac adeiladu Ffwrnais Arch Drydan, a fydd yn allyrru llai o ynni, dros y tair blynedd nesa.
Er iddynt gyhoeddi cynlluniau i gynhyrchu dur mewn dull a fydd yn fwy ystyriol o'r amgylchedd, fe wnaeth y cwmni gyfaddef y bydd y penderfyniad hwn yn arwain at golli rhwng 2,500 a 3,000 o swyddi.
Dywedodd Tata bod eu gweithrediadau yn y DU yn gwneud colled o dros £1m y dydd.
Agwedd undeb Unite yn un "byrbwyll"
Er i'r undebau ymddangos fel eu bod yn gytûn i atal colli swyddi yn dilyn cyhoeddiad Tata, mae rhwyg wedi datblygu rhyngddynt bellach, gydag uwch swyddogion Community a GMB - a hyd yn oed rhai aelodau o Unite - yn cyfeirio at agwedd Unite fel un "byrbwyll".
Fe gafodd Sharon Graham, Ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, ei chyhuddo o fod ag agwedd "afrealistig" tuag at y trafodaethau, ond fe ddywedodd llefarydd ar ran yr undeb fod record yr Ysgrifennydd yn "dweud y cyfan".
"Rydym yn undeb llafur felly ni fyddwn yn ymddiheuro am ymddwyn fel un".
Fe ddaeth yr anghytuno rhwng yr undebau i'r amlwg pan wnaeth GMB, Community ac Unite ymateb i gynlluniau Tata gyda chytundeb ar y cyd, a gafodd ei baratoi gan yr ymgynghorwyr, Syndex.
Yn wreiddiol, fe wnaeth y tri undeb awgrymu y gallai cau'r ffwrnais hynaf, a chadw yr un fwyaf diweddar yn weithredol nes diwedd 2023 gan adeiladu EAF bychan, gadw 2,300 o swyddi gan waredu ychydig o swyddi yn unig.
Ond fe wnaeth Unite atal eu cefnogaeth ar gyfer y cynllun gan fynnu na ddylid gwaredu unrhyw swyddi, gan ddadlau y dylai'r ddwy ffwrnais chwyth ar y safle gael eu cadw ar agor tra bod EAF mwy yn cael ei adeiladu.
Nid yw cynlluniau Unite wedi eu cyflwyno'n ffurfiol i'r aelodau eto ac mae cynrychiolwyr o Community a GMB wedi cyfeirio at y ffordd yr aeth Unite ati i gadw eu cynllun yn gyfrinachol.
Mewn cyfarfod a drefnwyd gan Unite fis Tachwedd, roedd yn rhaid i'r rheiny a fynychodd ddiffodd eu ffonau fel nad oedd modd iddynt ddangos copi o'r cynllun o dan sylw y tu allan i'r cyfarfod.
"Afrealistig"
Mae arweinwyr Community a GMB yn disgrifio safbwynt Unite fel un 'afrealistig'.
Dywedodd aelodau mewnol o undeb Community wrth y BBC eu bod wedi "ymbil" ar arweinyddiaeth Unite i gefnogi'r cynllun a ddatblygwyd gan ymgynghorwyr y diwydiant, Syndex.
Nid yw'r rheini sy'n gyfarwydd â sefyllfa Tata yn barod i ystyried cynnig Unite gan nad yw wedi ei gyflwyno trwy'r Pwyllgor Dur Cenedlaethol - sef y fforwm arferol lle mae cynlluniau yn cael eu rhannu.
Mae disgwyl i gyfarfod gael ei gynnal yn fuan lle bydd Unite yn cyflwyno eu cynnig yn ffurfiol. Ond mae cynrychiolwyr yr undebau eraill wedi dweud wrth y BBC nad oes gobaith i gynnig Unite gael ei dderbyn yn y pen draw.
Dywedodd Ms Graham o Unite y byddai eu cynllun ar gyfer Port Talbot yn "sicrhau bod swyddi yn cael eu creu ac nid yn cael eu colli, gan greu dyfodol llewyrchus i'r diwydiant yn Ne Cymru, a sicrhau bod y DU yn arwain ym maes cynhyrchu dur gwyrdd".
Er hyn, mae'r undebau yn gytûn y byddai cynlluniau Tata nid yn unig yn gweld colli hyd at 3,000 o swyddi, ond y byddai hefyd yn ofynnol i'r DU fewnforio "dur crai" - sydd yn cael ei gynhyrchu dramor, nes bod yr EAF ar waith.
Byddai hynny'n golygu mewnforio dur sydd wedi'i gynhyrchu mewn ffordd fwy carbon-ddwys - gyda mwy o allyriadau carbon drwy gostau cludo - yn hytrach na defnyddio dur sydd wedi ei wneud yn y DU.
Mae arweinyddiaeth Community wedi dweud wrth reolwyr Tata y byddai bwrw ati gyda'u cynllun presennol yn arwain at wrthwynebiad chwyrn "gan gynnwys gweithredu diwydiannol".
Er hyn, mae opsiwn a fyddai'n gallu arbed mwy na 2,000 o swyddi yn y tymor byr.
Mae'r rhai sy'n agos at gwmni Tata wedi nodi eu bod o bosib yn fodlon gohirio cau o leiaf un ffwrnais chwyth am bedair i bum mlynedd.
Mae'r undebau wedi nodi y byddai hynny'n dderbyniol o bosib os yw Tata yn barod i ystyried adeiladu cyfleuster gwneud dur modern ar un o'i safleoedd eraill yn y DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023