Cyn-swyddog carchar yn gwadu perthynas amhriodol
- Cyhoeddwyd
Roedd cyn-swyddog carchar yn ei dagrau yn y llys wrth ddisgrifio'r foment roedd hi'n meddwl ei bod hi'n "mynd i farw" yn dilyn bygythiadau gan garcharor.
Wrth siarad â'r rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd Ruth Shmylo ei bod hi'n meddwl fod y carcharor Harri Pullen wedi anfon rhywun o grŵp troseddol i'w chyfarfod hi.
Yn y diwedd, cyfarfod gyda mam Pullen wnaeth hi, ond doedd hi "ddim yn gwybod" ai dyna fyddai'n digwydd ar y pryd.
Mae Miss Shmylo, 26, wedi ei chyhuddo o berthynas amhriodol gyda Pullen rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2021, pan oedd hi'n gweithio yng Ngharchar Parc, Pen-y-bont.
Mae hi'n gwadu un cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Roedd Miss Shmylo hefyd yn ei dagrau wrth ddisgrifio'r tro cyntaf i Pullen ei ffonio hi ar ei ffôn symudol, gan ddweud ei bod hi'n teimlo fod "dim dewis ganddi" wedyn ond parhau i fod mewn cyswllt ag ef.
Ei thad 'yn dreisgar'
Yn gynharach yn y dydd roedd y llys wedi clywed tystiolaeth gan seiciatrydd, Dr Owain Davies, oedd wedi asesu Miss Shmylo cyn yr achos.
Dywedodd Dr Davies fod Miss Shmylo wedi sôn wrtho am ei phlentyndod, pan oedd ei thad wedi bod yn dreisgar tuag ati hi ac aelodau eraill y teulu.
Wrth gael ei holi am hynny gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad, Clare Wilks, dywedodd Miss Shmylo bod hynny'n wir ond nad oedd hi wedi gweld ei thad ers ei bod hi'n 11 oed.
Roedd hi'n "agos iawn" gyda gweddill ei theulu, meddai, a dal yn byw gyda'i mam a'i brawd.
Wrth siarad am ddechrau ei chyfnod yn gweithio yng Ngharchar Parc, dywedodd nad oedd hi'n teimlo'n "barod" gan fod llai o hyfforddiant wedi bod oherwydd Covid.
Gofynnwyd i Miss Shmylo am ei hargraffiadau cyntaf o Harri Pullen wedi iddo symud i'w rhan hi o'r carchar.
"Swnllyd yw'r gair bydden i'n ei ddefnyddio," meddai. "Roedd e'n fygythiol."
Ar un achlysur roedd Pullen wedi ceisio rhoi darn o bapur iddi gyda'i rif arno, a phan wrthododd hi ei dderbyn, mae'n dweud iddo ddweud: "Wyt ti'n gwybod beth ti newydd wneud?"
Pan ofynnwyd iddi pam na wnaeth hi adrodd y digwyddiad hwnnw, dywedodd Miss Shmylo: "Byddai e wedi gwybod mai fi oedd e, a does gen i ddim ffydd yn system adrodd HMP Parc.
"Byddai goblygiadau wedi bod oherwydd pwy oedd e."
Disgrifiodd Miss Shmylo sut oedd ganddi berthynas wael gyda staff eraill yn y carchar, yn enwedig ar ôl iddi adrodd am un achos o staff yn difetha bwyd carcharorion.
Ar ôl dweud wrth ei rheolwr llinell am y peth meddai, cafodd dau aelod o staff eu symud i ran arall y carchar.
Mewn achos arall, meddai, fe geisiodd dau swyddog ei chyhuddo hi o "gamymddwyn difrifol" mewn ymchwiliad i broses lle roedden nhw i fod i gadw llygad ar garcharorion.
Ar un achlysur, pan wnaeth carcharor ddangos ei hun iddi'n noethlymun, fe wnaeth un swyddog ofyn iddi "pa mor fawr oedd e?", a dechrau chwerthin.
Ar achlysur arall, meddai, fe wnaeth swyddog ei tharo hi ar ei phen-ôl o flaen staff a charcharorion eraill.
"Pan nes i ofyn iddo beidio, fe wnaeth e eto," meddai Miss Shmylo.
Wnaeth hi ddim adrodd y peth, meddai, gan y byddai hynny wedi gwneud ei pherthynas gyda chydweithwyr yn waeth.
'Dim modd ei gyffwrdd'
Gofynnodd Ms Wilks iddi pam ei bod hi wedi gwneud adroddiadau am Pullen ei hun, a dywedodd Miss Shmylo ei bod hi'n gobeithio y byddai wedyn yn cael ei symud.
Ond fe gafodd "fwy o freintiau", meddai, gan gynnwys swydd fel prif weinydd yng nghantîn y carchar.
"Doedd dim modd ei gyffwrdd, jyst fel roedd e wedi dweud wrtha i," meddai.
Pan wnaeth Pullen ffonio Miss Shmylo ar ei ffôn symudol personol am y tro cyntaf, meddai, roedd hi'n "gwybod yn syth" mai ef oedd yno.
Dywedodd ei fod wedi dweud wrthi: "Mae gen i dy rif di nawr... ti'n swyddog carchar, beth wyt ti am wneud?"
Gofynnodd Ms Wilks: "Sut oeddech chi'n teimlo am hynny?"
Atebodd Miss Shmylo yn ei dagrau: "Fel bod gen i ddim dewis. Dyna ni wedyn."
Gofynnodd Ms Wilks pam nad oedd hi wedi adrodd hynny i staff y carchar.
Atebodd Miss Shmylo: "Doedd dim opsiwn saff i mi adrodd."
Ychwanegodd y byddai Pullen yn ei ffonio "bron bob dydd", ac yn ei bygwth os nad oedd hi'n ateb.
"Oeddech chi'n credu'n bygythiadau?" gofynnodd Ms Wilks.
"Yn bendant," meddai Miss Shmylo.
Yn ddiweddarach fe ddywedodd Pullen y gallai anfon cerdyn sim at Miss Shmylo, gan ddechrau "dyfynnu fy nghyfeiriad cartref".
"Ro'n i'n meddwl ei fod e am anfon rhywun i'r tŷ, felly nes i brynu cerdyn sim," meddai.
Gwadu pasio gwybodaeth
Wrth gael ei holi ymhellach, fe wnaeth Miss Shmylo wadu pasio unrhyw wybodaeth am y carchar, staff na charcharorion eraill i Pullen yn ystod eu sgyrsiau.
Fe wnaeth hi hefyd wadu bod unrhyw beth rhywiol neu gorfforol wedi digwydd rhwng y ddau tra'i bod hi'n gweithio yn Parc.
Gofynnwyd iddi wedyn am ddigwyddiad ble roedd Pullen wedi trefnu iddi gyfarfod ei fam.
Dywedodd Miss Shmylo ei bod hi wedi gyrru yno heb wybod pwy oedd hi'n ei gyfarfod mewn gwirionedd.
"Ro'n i'n meddwl mod i'n mynd i gwrdd ag OCG [aelod o gang troseddol]... oedd yn mynd i ddysgu gwers i mi," meddai.
"Ro'n i'n meddwl mod i'n mynd i farw."
Gyda Miss Shmylo yn ei dagrau, fe benderfynodd y barnwr Simon Mills ddod â'r achos i ben am y dydd.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023