Gostyngiad o 40% yn oriau agor llyfrgelloedd Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
llyfrgellFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y cyngor 4,600 o ymatebion i'r ymgynghoriad, bron i 5% o boblogaeth Sir Ddinbych.

Fe fydd oriau agor holl lyfrgelloedd a gwasanaethau siop un alwad Sir Ddinbych yn gostwng 40%.

Wrth geisio mynd i'r afael â bwlch o £20m yn eu cyllideb, fore Mawrth mi bleidleisiodd cynghorwyr y cabinet o blaid y penderfyniad dadleuol.

Mi fydd y toriadau hyn i'r gwasanaethau llyfrgell yn arwain at arbedion o tua £360,000 i'r awdurdod.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, fod y cynnig wedi'i gyflwyno gyda "chalon drom," ond fod hyn yn ddull "tecach na chau llyfrgelloedd yn gyfan gwbl".

Cafodd manylion cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd werth dros £22bn, eu cyhoeddi yn y Senedd brynhawn Mawrth.

A bydd cyhoeddiad ddydd Mercher am setliad ariannol awdurdodau lleol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne mai dyma'r "adroddiad anoddaf i mi ei gyflwyno erioed"

Yn dilyn ymateb digynsail gan bobl y sir mewn ymgynghoriad cyhoeddus, fe wnaeth y cabinet benderfynu newid y gostyngiad i 40% yn hytrach na'r 50% oedd wedi ei argymell yn wreiddiol.

Cafodd 4,600 o ymatebion eu cyflwyno - bron i 5% o boblogaeth Sir Ddinbych.

Roedd 96% o'r ymatebion yn erbyn y cynigion.

Dyma'r nifer mwyaf erioed o atebion i ymgynghoriad o'r fath o fewn y sir.

'Realiti llym yr hinsawdd economaidd bresennol'

Daeth cadarnhau y bydd pob un o'r wyth llyfrgell yn parhau ar agor, ac y byddai'r model arfaethedig yn sicrhau 30 o oriau agor ychwanegol yr wythnos rhwng bob lleoliad, ond fod hynny'n golygu £900,000 yn llai o arbedion.

"Rydyn ni fel cabinet yn drist bod yn rhaid i ni ystyried lleihau gwasanaethau rheng flaen, ond dyma realiti llym yr hinsawdd economaidd bresennol," meddai'r Cynghorydd Emrys Wynne.

"Dyma'r adroddiad anoddaf i mi ei gyflwyno erioed."

Beth fydd hyn yn ei olygu?

Dyma enghraifft.

Ar hyn o bryd mae llyfrgell Rhuthun ar agor am bedwar diwrnod a hanner, sy'n cynnwys fore Sadwrn.

Pan ddaw'r toriadau - gostwng oriau agor 40% - mi fydd ar agor am dri diwrnod, a hynny fwy na thebyg, wedi ei rannu yn ddau ddiwrnod llawn a dau hanner diwrnod.

Yn ôl Beca Parry o Ruthun, sy'n fam i ddau blentyn ifanc, "mae'n andros o siom, andros o golled i ni fel teulu".

"Dwi'n dod yma efo'r plant. Mae'r plant yn mynd i'r ysgol leol ac i'r feithrinfa leol a 'dan ni'n dod yma ar ôl yr ysgol yn aml. Mae o'n dipyn o treat i'r plant, i ddeud y gwir," meddai.

"Dwi'n siŵr nad oedd o'n benderfyniad hawdd i'r cyngor ond be 'dan ni'n ofni ydi os ydyn nhw'n dechrau drwy gwtogi'r oriau, ydyn nhw yn mynd i'w cau nhw fel cam nesa?

"Gobeithio neith hyn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r llyfrgelloedd."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai cwtogi oriau llyfrgelloedd yn "andros o golled" i deulu Beca Parry

Mae Morfudd Jones, sy'n byw ger y llyfrgell yn Rhuthun, yn cydnabod fod yna "doriadau i'w gwneud".

Ond yn ôl y cyn-gynghorydd sir, "mae hi'n bechod cychwyn efo'r llyfrgelloedd".

"Dwi'n meddwl fod rhaid addysgu pobl faint o ddefnydd sydd o'r llyfrgelloedd a'r holl bethau sy'n cael eu cynnal yma"

"Dim darllen yn unig ydi o, naci."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Morfudd Jones, mae angen addysgu pobl am werth y llyfrgelloedd

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, ei bod hi hefyd yn cefnogi'r penderfyniad gyda "chalon drom" ond ei bod yn gobeithio y bydd y cyngor yn gallu cynnig gwasanaethau llawn unwaith eto yn y dyfodol.

"Gobeithio mai dyma ddechrau'r daith," meddai.

"Pan fydd y gostyngiadau wedi'u cyflwyno mi fydd angen i ni fel cyngor edrych ar sut y gallwn dyfu'r gwasanaethau wrth symud ymlaen."

Does dim manylion pendant eto ynglŷn â pha ddyddiau fydd y gwahanol lyfrgelloedd ar gau neu ar agor

Y cam nesa fydd ymgynghoriad llawn efo'r staff a'r undebau.

Pynciau cysylltiedig