Cyllideb: Mwy o arian i'r GIG ond cynnydd mewn treth busnes
- Cyhoeddwyd
Bydd siopau, tafarndai a bwytai yn talu trethi busnes uwch yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys toriadau i wariant cyhoeddus a buddsoddiadau yng nghefn gwlad.
Fe fydd gwariant ym maes iechyd yn cynyddu ond mi fydd y cynnydd hwnnw yn is na lefel chwyddiant.
Yn ôl swyddogion, mae gweinidogion wedi blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd a chynghorau.
Cafodd manylion y gyllideb, sydd werth dros £22bn, eu cyhoeddi yn y Senedd brynhawn Mawrth.
Roedd nifer o doriadau eisoes wedi eu cyhoeddi ym mis Hydref er mwyn cefnogi'r gwasanaeth iechyd a Thrafnidiaeth Cymru.
Roedd y llywodraeth hefyd wedi rhybuddio y bydd pob adran yn wynebu toriadau yn 2024/25.
Ble yn union mae'r toriadau?
Dadansoddiad gan ein gohebydd gwleidyddol, Daniel Davies
Mae dogfennau swyddogol yn dangos fod pob gweinidog wedi gorfod torri'n ôl ar wariant.
Wrth ystyried mesur y llywodraeth o wario termau real, mae gan bob adran, ac eithrio iechyd, llai o arian i'w wario.
Mae'n debygol mai gwariant ar faterion gwledig sydd wedi ei daro waethaf gan y toriadau diweddaraf, gan gadarnhau pryderon undebau amaeth.
Ar ôl ystyried lefel chwyddiant, bydd cyllideb yr adran yn gostwng dros 10%.
Y flwyddyn nesaf bydd £11bn ar gael i'w wario ym maes iechyd - dros hanner y gyllideb gyfan.
Ond rhaid gofyn a fydd e'n ddigon?
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn delio â rhestrau aros a chostau cynyddol ar hyn o bryd, tra bod disgwyl i feddygon iau streicio fis nesaf.
Mae'r adran sy'n delio â materion yn ymwneud â thrafnidiaeth, tai a newid hinsawdd hefyd wedi gweld toriadau sylweddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydi'r arian y maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU yn ddigon er mwyn gallu delio â chostau cynyddol - yn enwedig ym meysydd iechyd ac addysg.
Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ffioedd dysgu a deintyddol gynyddu oherwydd y "pwysau aruthrol" ar y gyllideb.
Fe fydd sefydliadau chwaraeon a chelfyddydol hefyd yn gweld toriad o 10%.
Mae cyrff fel Cyngor y Celfyddydau, Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol, Chwaraeon Cymru a'r Ardd Fotaneg yn colli tua 10% o'u cyllidebau.
Fe fydd Cadw, sy'n diogelu mannau hanesyddol Cymru, yn colli £2m o'i chyllideb - dros 20%
Codi ffioedd am wasanaethau cyhoeddus?
Dywedodd y llywodraeth y byddai'n "ystyried yn ofalus" a all ofyn i bobl dalu mwy am wasanaethau.
Does dim penderfyniadau wedi eu gwneud eto, ac mae gweinidogion yn dweud y bydd proses ymgynghori ar unrhyw gynigion cyn cyflwyno newidiadau.
Mae dogfennau'r gyllideb yn dweud: "Gan fod ein cyllideb o dan bwysau mor eithafol, bydd angen i ni ystyried yn ofalus a allai, ac a ddylai cyllid ychwanegol gael ei godi drwy gynyddu taliadau am ystod o wasanaethau wrth i ni barhau i sicrhau ein bod yn diogelu'r rhai sydd leiaf abl i fforddio taliadau uwch.
"Mae refeniw o godi tâl yn cael ei gadw gan wasanaethau cyhoeddus.
"Mae pobl yng Nghymru eisoes yn talu ffioedd am ystod o wasanaethau, gan gynnwys gofal deintyddol y GIG, gofal cartref a ffioedd dysgu.
"Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r rhain wedi'u pennu ar lefel is nag yn Lloegr ac mae modd eithrio pobl ar incwm isel ac i'r rhai sydd ar fudd-daliadau."
Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod y toriadau yma'n cael eu gwneud oherwydd y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU.
"Mae mwyafrif ein cyllid yn dal i ddod ar ffurf grant gan Lywodraeth y DU, sy'n adlewyrchu cynlluniau gwario mewn ardaloedd datganoledig yn Lloegr," meddai.
"Mae hynny'n golygu ein bod ni'n cael ein heffeithio yn fawr gan benderfyniadau gwleidyddol sy'n cael eu gwneud yn San Steffan."
'Cyllideb anodd mewn cyfnod eithriadol'
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud "newidiadau radical" i'r gyllideb er mwyn canolbwyntio ar y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl ar lawr gwlad.
"Er mwyn buddsoddi mwy yn y GIG ac amddiffyn y setliad llywodraeth leol craidd - sydd yn ei dro yn ariannu ysgolion, gwasanaethau cyhoeddus, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill hanfodol.
"Mae hon yn gyllideb anodd, mewn cyfnod eithriadol. Ond yn y pendraw, mae'n gyllideb sy'n rhoi pwyslais ar fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus."
Beth ydy'r ymateb?
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod diffyg sylwedd yn y cynlluniau, a bod 24 mlynedd o reolaeth Llafur wedi golygu "methiant i ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau canlyniadau i bobl Cymru".
"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwario pob ceiniog mae Llywodraeth Cymru yn ei derbyn am iechyd ar iechyd, a chynnig cynllun gweithlu sylweddol i daclo rhestrau aros hir Llafur", meddai Andrew RT Davies.
Ychwanegodd bod torri cyllideb prentisiaethau a chodi trethi busnes yn dangos bod "twf economaidd, cyfleoedd a dyfodol ein pobl ifanc yng nghefn eu meddyliau".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod y gyllideb hon yn "anghynaladwy" ac y bydd yn cael "effaith hirdymor difrifol ar bobl gyffredin ledled Cymru".
"Does dim dwywaith bod y cyd-destun yn un anodd iawn, ond mae Cymru'n wynebu ergyd ddwbl", meddai Rhun ap Iorwerth.
"Ar y naill law, mae'r fargen ariannu a gawn gan Lywodraeth y DU yn annheg ac yn annigonol... Ar y llaw arall, rhaid gofyn cwestiynau difrifol hefyd am y ffordd y mae Llafur yn gwario arian cyhoeddus."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod awdurdodau lleol "yn wynebu bwlch gwerth £432m yn eu cyllidebau y flwyddyn nesaf".
"Mae hyn yn golygu y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd ym mhob maes er mwyn cynnal cyllidebau cynghorau.
"Mae effaith hyn ar ein cymunedau, a'n gwasanaethau hanfodol yn debygol o fod yn sylweddol."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC bod Cymru'n haeddu "cytundeb deg ar gyllid".
"Mae'r toriadau hyn yn digwydd yn sgil camreoli economaidd gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan... Maen nhw wedi gadael Cymru i lawr dro ar ôl tro, wedi gwanhau ein gwasanaethau cyhoeddus ac wedi gwneud ein gweithwyr ni'n dlotach," meddai Shavanah Taj.
"Bydd gweithwyr yn amlwg yn pryderu ynglŷn â sut y bydd y toriadau hyn yn effeithio arnyn nhw, eu gwasanaethau a'r economi yn ehangach.
"Bydd undebau llafur ar hyd Cymru yn gweithio yn ddiflino dros y dyddiau a'r wythnosau nesa i gynnig sicrwydd a chefnogaeth i'w haelodau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023