Gwrthdrawiad Coedelái: Digwyddiad er cof am dri dyn ifanc
- Cyhoeddwyd

Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn y digwyddiad nos Iau
Mae teulu a ffrindiau tri dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf wedi rhyddhau balwnau er cof amdanynt.
Daeth cannoedd o bobl ifanc ynghyd yng Nghanolfan Gymunedol Gilfach nos Iau i gofio Callum Griffiths, 19, Morgan Smith, 18, a Jesse Owen, 18.
Roedden nhw ymhlith chwech o bobl oedd yn teithio mewn car a fu mewn gwrthdrawiad â bws yng Nghoedelái ar 11 Rhagfyr.

Roedd Leah Matthews yn un o'r rhai fu'n rhoi teyrnged yn ystod y digwyddiad
Siaradodd Leah Matthews, cyfnither Morgan Smith yn ystod y digwyddiad a dywedodd fod marwolaethau'r bechgyn wedi cael effaith ar lawer o bobl.
"Mae pob un ohonyn nhw wedi cyffwrdd â bywydau cymaint, yn eu ffyrdd eu hunain," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod pa mor falch y byddai'r bechgyn yn gweld pob un ohonom ni yma yn mynd trwy'r amser mwyaf erchyll rydyn ni erioed wedi'i brofi yn ein bywydau."

Bu farw Morgan Smith, Jesse Owen, a Callum Griffiths yn y digwyddiad ar 11 Rhagfyr
Cafodd dau berson arall, Lucas Vaughan, 18, a Sam Griffiths, 19 oed, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd wedi'r digwyddiad.
Dymunodd Ms Matthews wellhad buan i'r ddau.
Diolchodd hefyd i ffrind arall i'r bechgyn, Tyler James, am drefnu'r digwyddiad.
Mae nifer o dudalennau codi arian ar-lein wedi eu sefydlu er cof am y rhai fu farw.
Hyd yma mae mwy na £5,000 wedi'i godi ar gyfer teulu Morgan Smith a £5,400 ar gyfer teulu Callum Griffiths.
Mae tudalennau wedi'u sefydlu hefyd ar gyfer y ddau ddyn ifanc sy'n parhau i fod yn yr ysbyty.
Mae'r dudalen ar gyfer Sam Griffiths wedi codi £2,644 ac mae bron i £13,000 wedi'i godi ar gyfer Lucas Vaughan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023