Coedelái: Teuluoedd tri dyn ifanc fu farw yn rhoi teyrnged
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd tri dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws yn Rhondda Cynon Taf wedi talu teyrnged iddyn nhw.
Bu farw Callum Griffiths, 19, Jesse Owen, 18, a Morgan Smith, 18, yn y digwyddiad yng Nghoedelái nos Lun.
Cafodd dau ddyn arall, 18 ac 19 oed, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, tra bod dau berson wedi'u trin am fân anafiadau.
Mae'r BBC yn deall fod y rhai a oedd yn y car ar eu ffordd yn ôl o angladd pan darodd y car a'r bws yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd teulu Mr Owen, 18, o Ben-y-graig, y byddai ei bresenoldeb "yn goleuo unrhyw ystafell".
"Roedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau ac yn driw iawn.
"Roedd Jesse yn caru bocsio, watshis a chymdeithasu gyda ffrindiau."
'Fy ffrind gorau'
Dywedodd teulu Mr Griffiths, 19, o Borth, fod eu calonnau "wedi torri tu hwnt i'w trwsio", ac fe ychwanegodd ei chwaer, Erin, mai "Callum oedd fy ffrind gorau a'r person mwyaf anhunanol yn y byd".
"Byddaf bob amser yn ei garu ac rwyf mor falch ohono," meddai.
Dywedodd y teulu fod Callum yn "bencampwr byd mewn cic focsio ac roedd wedi ennill nifer o fedalau aur ac wedi cynrychioli Cymru mewn gwahanol wledydd led led y byd".
Dywedodd ei ffrind Finley Jones: "Roedd e just yn ffrind ardderchog i fi a Dan, a phawb."
Roedd Finley yn dweud bod ef a Callum wedi "mynd ar wyliau gyda'n gilydd hefyd".
"Llawer o memories gyda Callum, a dwi just mynd i golli fe yn fawr iawn."
Ychwanegodd bod y digwyddiad am "newid pawb".
Roedd Daniel Reeves hefyd yn ffrindiau agos gyda Callum a'i deulu.
Dywedodd: "Mae'n emotional, gweld ei fam a'i dad. Mae just yn anodd.
"Dwi fod i fynd i Tenerife gyda Callum a'i fam a'i dad yn y flwyddyn newydd, ond mae just yn… heartbreaking."
"Rydw i'n mynd i gofio Callum am byth."
Ymwelodd dwsinau o'i berthnasau a'i ffrindiau agos â safle'r gwrthdrawiad ddydd Mercher i osod blodau a theyrngedau.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod byr gan yr heddlu oherwydd y niferoedd oedd yno.
'Wedi torri'
Dywedodd teulu Mr Smith, 18, o Gwmclydach, eu bod wedi cael eu "gadael â gwagle na ellir byth ei lenwi".
"Roedd Morgan yn fwyaf adnabyddus fel bocsiwr dawnus ac roedd yn bencampwr bocsio Cymru yn y gorffennol. Roedd ganddo yrfa focsio addawol iawn o'i flaen."
Dywedodd Bocsio Cymru eu bod yn "drist o glywed am y ddamwain drasig sydd wedi digwydd yng Nghoedelái a marwolaeth Morgan Smith a'i ffrindiau".
Ysgrifennodd tad Morgan Smith, Daniel Chalfont ar Facebook: "Fy machgen bach... Y mab mwyaf perffaith allai rhywun freuddwydio amdano.
"Methu ti gymaint yn barod. Dwi ddim yn gwybod sut y bydda i'n byw hebdda ti. Wedi torri."
Ymwelodd teulu Mr Smith â safle'r gwrthdrawiad ddydd Mercher i osod blodau ac i ddangos parch i'r tri dyn ifanc.
Dywedodd ei fodryb, Amy Smith, ei fod yn "fachgen hyfryd", a bod yr holl luniau a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwyddo o'i boblogrwydd.
Mae'r teulu, meddai, hefyd "yn meddwl am y ddau fachgen arall sy'n ymladd am eu bywydau yn yr ysbyty".
"Mae'n bwysig ein bod i gyd yn glynu wrth ein gilydd ac yn parhau i lynu wrth ein gilydd.
"Byddai'n dorcalonnus unrhyw adeg o'r flwyddyn - fwy am ei bod yn Nadolig
"Ni allwn ni ddathlu'r Nadolig eleni ond fyddan ni gyd gyda'n gilydd fel teulu ac fe wnawn ein gorau."
'Anhygoel o drist'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd penaethiaid Ysgol Gymunedol Porth, Ysgol Gymunedol Tonyrefail ac Ysgol Nantgwyn eu bod "wedi ein llorio gan y newyddion" am eu cyn-ddisgyblion.
"Mae ein disgyblion - o'r presennol a'r gorffennol - wrth galon ein cymunedau ac mae'n anhygoel o drist fod bywydau llawn potensial wedi cael eu cymryd yn rhy fuan," meddai'r datganiad.
Roedd yna wylnos nos Fawrth yn Eglwys San Alban, Tonyrefail dan ofal y Tad Vincent Gardner, ac fe ddenodd tua 150 o bobl.
Y nod, dywedodd wrth Radio Wales Breakfast, oedd "cynnig lle cynnes er mwyn i'r bobl ifanc ddod at ei gilydd i oleuo cannwyll ac efallai roi gweddi a byddan ni'n gwneud yr un peth dros yr ychydig nosweithiau nesaf a trwy'r dydd ddydd Sadwrn".
Ychwanegodd: "Mae emosiynau'n ffresh iawn ar hyn o bryd ac, yn achos llawer o'r bobl ifanc yma na fyddai erioed wedi bod trwy unrhyw beth fel hyn, yn llethol."
Mae trigolion a ffrindiau eraill wedi bod yn gadael blodau, balŵns a negeseuon ger safle'r digwyddiad.
Ymysg yr eitemau gafodd ei gadael oedd menyg bocsio i Morgan Smith, crys Aston Villa i Callum Griffiths, a chrys RFC Penygraig wedi ei arwyddo.
Yn ogystal â theyrngedau i Callum Griffiths, Jesse Owen and Morgan Smith, roedd hefyd negeseuon o gefnogaeth i'r ddau unigolyn sy'n parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau all peryglu eu bywyd.
Proffil 'maleisus'
Dywedodd Heddlu'r De ddydd Mercher eu bod yn ymchwilio i broffil Facebook "maleisus" sydd, mae'n ymddangos, yn targedu un o ddioddefwyr y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd llefarydd bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio adnabod y sawl sy'n gyfrifol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng bws a char Audi A1, ar Stryd Elwyn am tua 19:00 nos Lun.
Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, cafodd saith ambiwlans a thri meddyg eu hanfon i'r digwyddiad ger Tonyrefail.
Cadarnhaodd cwmni Stagecoach yn ne Cymru bod un o'u bysiau nhw wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "rhoi cefnogaeth i'r gyrrwr ar yr adeg anodd hon a'u bod yn meddwl am y bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023