Canlyniadau Caerdydd ac Abertawe yn y Bencampwriaeth

  • Cyhoeddwyd
Joe Aribo yn dathlu ei golFfynhonnell y llun, Getty Images

Colli oedd hanes Abertawe, gyda Chaerdydd yn cael gêm gyfartal yn y Bencampwriaeth ar Ŵyl San Steffan.

Caerdydd 2 Plymouth Argyle 2

Mae tymor anghyson Caerdydd yn parhau yn dilyn gêm gyfartal gartref yn erbyn Plymouth.

Wedi'r fuddugoliaeth dda oddi cartref yn erbyn Sheffield Wednesday'n ddiweddar, roedd y dorf fawr a ddaeth i Stadiwm Dinas Caerdydd yn gobeithio gweld yr Adar Gleision yn codi i'r chwe safle uchaf.

Plymouth aeth ar y blaen wedi gôl gan Whittaker ar ôl 18 munud ond tarodd y tîm cartref yn ôl wedi i un o chwaraewyr Plymouth sgorio i'w rwyd ei hun wedi hanner awr o chwarae.

Aeth Caerdydd ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda gôl gan Grant cyn i Whittaker sgorio ei ail i Plymouth i unioni'r sgôr wedi 66 munud.

Mae Caerdydd wedi llithro i'r 11eg yn dilyn y gêm gyfartal.

Southampton 5 Abertawe 0

Colli'n drwm fu hanes yr Elyrch yn erbyn un o geffylau blaen y Bencampwriaeth yn Southampton.

Er mai un gôl yn unig oedd ynddi ar yr egwyl - gydag Aribo yn sgorio i'r tîm cartref ar ôl 17 munud - ildiodd Abertawe bedair gôl arall yn yr ail hanner.

Fe ddaeth dwy o'r rheini yn ystod y pum munud olaf - gan adael y tîm o dde Cymru yn rhan isa'r gynghrair gyda 28 o bwyntiau ar ôl chwarae 24 o gemau.