Llofruddiaeth Trefforest: Pedwar yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Daniel RaeFfynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Daniel Rae ei ganfod mewn eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest, nos Sul, 17 Rhagfyr.

Mae pedwar person wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 30 oed.

Cafodd corff Daniel Rae ei ganfod mewn eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest ar 17 Rhagfyr.

Mae Kieran Carter, 22, o Birmingham a dau berson 17 oed o Bontypridd wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Grace Dresser, 21, o Drefforest hefyd wedi ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mawrth mae'r pedwar wedi eu cadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau

Pynciau cysylltiedig