Chwaraeon 2024: Chwe Gwlad anodd? Dyrchafiad i Wrecsam?
- Cyhoeddwyd
Roedd 2023 yn flwyddyn llawn cyffro ym myd y campau yng Nghymru, ond beth allwn ddisgwyl i'w weld yn 2024?
Cennydd Davies, prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, a gohebydd pêl-droed BBC Cymru, Owain Llŷr, sy'n edrych ymlaen.
Arweiniad Gatland
A fydd effaith Gatland yn parhau wrth i Gymru baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad? Dyna'r cwestiwn y mae Cennydd Davies yn ei ofyn:
"Roedd nifer o wybodusion ar drothwy'r Cwpan Y Byd yn Ffrainc yn amau oedd gan Gymru'r gallu i ddianc mas o grŵp oedd yn cynnwys Fiji ac Awstralia, ond dyna yn union a wnaed, gan guro'r Wallabies mewn buddugoliaeth ysgubol yn Lyon yn y broses."
"Roedd yr ail hanner yn erbyn yr Archentwyr yn Marseillie yn siom ond yn ei gyfnod prin ers ail-gydio yn yr awenau mae Warren Gatland wedi ail-gyflwyno safonau uchel, mae 'na drefn a ffitrwydd, amddiffyn a chryfder corfforol yn gonglfeini i'w gynllun.
"Mae 'na rhai serch hynny, sy'n parhau i amau doethineb yr undeb i'w wobrwyo â chytundeb pum mlynedd, ac mi fydd y mis mel ar ben yn gyflym os y bydd y sefyllfa yn mynd o chwith yn y Chwe Gwlad."
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
"Mae yna dair gêm gartre' y flwyddyn nesa sy'n fantais a bydd y gobaith blynyddol yn dychwelyd pan ddaw Sadwrn cyntaf fis Chwefror" meddai Cennydd.
"Anodd yw proffwydo'r gystadleuaeth i Gymru eleni a'r gwir yw a oes yna unrhyw gyfiawnhad i unrhyw ymdeimlad positif o ystyried y problemau parhaol sy'n amgylchynu'r ranbarthau a'r gêm ddomestig?"
Mae Cennydd yn rhagweld cyfnod anodd i ranbarthau Cymru, yn bennaf oherwydd yr amodau ariannol.
"Unwaith eto ma tranc y rhanbarthau yn ofid mawr ac anodd yw gweld sut fydd modd dianc o'r dyfnderoedd o ystyried y wasgfa ariannol ar gyllidebau a'r straen ar y carfannau. Mi fydd y swm (gan Undeb Rygbi Cymru) yn disgyn i £4.5 miliwn tymor nesa ac y gwir yw does dim modd cystadlu'n deg a gwledydd eraill pan ma'r arian mor bitw o isel mewn cymhariaeth."
"Mae 'na naratif amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd, sef fod y genhedlaeth nesa'n cael cyfle oherwydd yr hinsawdd sydd ohoni, ac mi fydd hyn yn talu ar ei ganfed yn y blynyddoedd i ddod.
"Mae 'na rhywfaint o wirionedd i hyn wrth gwrs ond dwi'n credu mai annoeth iawn yw mentro dweud y bydd pob dim yn iawn yn y pen-draw. Dyw hyn ddim yn mynd i ddigwydd dros nos a dwi'n ofni y bydd rhai blynyddoedd yn pasio cyn i ni oresgyn y storm bresennol.
"Diddorol oedd clywed Cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, yn dweud yn ddi-ffuant eu bod nhw'n cefnogi Pedwar tîm Proffesiynol. Wel, haws dweud na gwneud oherwydd ar hyn o bryd dyw'r fathemateg yn syml ddim yn cefnogi hynny a dwi'n amau yn gryf a yw'r deisen yn ddigon mawr i rhannu rhwng Pedwar - ma hynny'n drafodaeth am ddiwrnod arall!"
"Ac felly wrth edrych ymlân at 2024 mae'n gyfle i ddechrau â lechen lan, a dweud ffarwel i 2023 - blwyddyn ble fuodd Rygbi Cymru cymaint yn y penawdau am y rhesymau anghywir."
Yr Euros, Wrecsam ac Osian
Mae digon o arlwy bêl-droed i'r gohebydd Owain Llŷr yn 2024, gyda gobeithion Cymru o gyrraedd Ewro 2024 ar frig y rhestr o flaenoriaethau:
"Y peth sy'n sefyll allan fwyaf yn y calendr pêl-droed wrth edrych ymlaen at 2024 ydi gemau ail-gyfle Ewro 2024. Yn anffodus mi fethodd Cymru orffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp rhagbrofol er fod eu tynged nhw yn eu dwylo eu hunain gyda dwy gêm i fynd."
"Y newyddion da ydi eu bod nhw wedi cael gêm hynod o ffafriol yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle. Mi fysa rhywun yn disgwyl i Gymru fod yn rhy gryf i'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac wedyn os ennill honno bydd 'na gêm gartref arall yn y ffeinal yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia.
"Dymuniad Rob Page ym mis Ionawr fydd gweld y chwaraewyr sydd ddim yn chwarae'n rheolaidd yn symud clybiau. Mae Kieffer Moore yn chwaraewr cwbl allweddol i Gymru ac mi roedd hi'n eithaf amlwg yn y gemau'n erbyn Armenia a Thwrci ym mis Hydref ei fod o heb chwarae digon o bêl-droed y tymor yma. Mae Caerdydd yn gobeithio ail-arwyddo'r ymosodwr, a petai hynny'n digwydd mi fydde fo'n hwb enfawr i Gymru cyn mis Mawrth."
"O ran y pedwar clwb o Gymru sy'n chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed Lloegr mae'n ymddangos mai Wrecsam sydd â'r cyfle gorau o ennill dyrchafiad. Maen nhw wedi addasu'n syth i fywyd yn Adran 2 ar ôl ennill dyrchafiad y tymor diwethaf.
"Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn parhau i fod yn hynod gefnogol pan mae'n dod at gryfhau'r garfan, a 'swn i'n synnu dim gweld mwy o chwaraewyr yn cael eu harwyddo ym mis Ionawr gan gofio pa mor agos ydi'r Dreigiau at frig y tabl."
Her newydd Osian
"Un sy'n edrych ymlaen yn fawr at 2024 ydy Osian Roberts, a hynny ar ôl iddo gael ei benodi yn rheolwr dros dro ar glwb Como 1907 sy'n chwarae yn Serie B yn Yr Eidal.
"Mae ganddyn nhw gyfle gwych o ennill dyrchafiad i Serie A, a chael y cyfle i chwarae'n erbyn clybiau fel Juventus, AC Milan, Inter Milan, Lazio a Roma y tymor nesaf."
"Mae Osian wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am gyfle fel hyn, a gyda Cesc Fabregas yn is-reolwr iddo mae'n swnio fel her gyffrous."
Ond nid rygbi a phêl-droed yw'r unig gampau fydd yn ein cyffroi dros y flwyddyn nesaf, fel esboniai Owain Llŷr:
"O ran y campau eraill - fe gawn ni wybod o fewn y misoedd nesaf pa athletwyr o Gymru fydd yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Paris.
"Un sydd yn eithaf saff o'i lle yn y tîm beicio ydi Emma Finucane a hynny ar ôl iddi ennill Pencampwriaeth y Byd yn y ras wib yn 2023. Y gobaith ydi y bydd hi'n gallu ychwanegu medal aur Olympaidd i'w chasgliad yn 2024."
Hefyd o ddiddordeb: