Diagnosis dementia i gyn-glo Cymru Andrew Coombs
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-flaenwr Cymru Andrew Coombs wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis o ddementia a chlwyf tebygol i'r ymennydd.
Mae'r aelod o'r tîm a enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013 ymhlith 295 o gyn-chwaraewyr sy'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyrff llywodraethu rygbi yn sgil anafiadau i'r ymennydd.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe rannodd Coombs, 39, "newyddion personol sydd wedi effeithio'n ddwfn ar fy mywyd a bywydau fy anwyliaid".
Dywedodd ei fod wedi cael y diagnosis wyth mis yn ôl ar ôl dioddef symptomau am oddeutu pedair blynedd.
Tra'n cymryd rhan mewn rhaglen BBC Cymru Scrum V Sunday, fe drodd y drafodaeth at symptomau enseffalopathi trawmatig cronig, a dywedodd fod hynny wedi taro tant.
Roedd y penderfyniad i fynd am gyngor meddygol "yn heriol", dywedodd, ond roedd "rhaid deall y newidiadau oedd yn digwydd tu mewn i mi".
Ychwanegodd: "Roedd y diagnosis yn dorcalonnus ond fe atebodd llawer o'r cwestiynau oedd wedi bod ar fy meddwl ac yn fy mhoeni ers mor hir.
"Mae'r newidiadau wedi rhoi straen ar fy mhriodas a fy hapusrwydd.
"Rhannu'r newyddion yma gyda fy mhlant oedd un o'r pethau anoddaf rwy' erioed wedi gorfod ei wneud."
Ymddeolodd Coombs, oedd yn gapten ar y Dreigiau, o'r gêm yn 31 oed wedi anaf difrifol i'w ben-glin.
Dywedodd yn ei ddatganiad bod ei ddiagnosis diweddaraf "yn anodd i'w dderbyn" a'i fod yn gobeithio cael cyffuriau arbrofol at ei gyflwr cyn gynted â bod modd sicrhau lle yn y treialon.
Clywodd yr Uchel Lys ddydd Gwener y bydd yna gais i glywed achos 295 o chwaraewyr ar y cyd yn 2024, o bosib yn y gwanwyn.
Byddai hynny'n caniatáu rheoli'r holl achosion cyfreithiol yn erbyn World Rugby, yr RFU ac Undeb Rygbi Cymru gyda'i gilydd.
Mae dros 70 o chwaraewyr o Gymru yn rhan o'r achos, gan gynnwys dros 30 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol - yn eu plith, Ryan Jones, Colin Charvis a Gavin Henson.
Dywedodd y tri chorff rygbi yr wythnos ddiwethaf nad oedden nhw am roi sylw nac am gysylltu gyda chwaraewyr oherwydd eu bod heb dderbyn manylion llawn eto.
Ychwanegodd eu datganiad eu bod eisiau i'r chwaraewyr wybod "ein bod yn gofidio'n ddwfn ynghylch eu trafferthion, ein bod yn gwrando a'u bod yn aelodau o'r teulu rygbi".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023