'Blwyddyn enfawr' wrth i'r mawrion ymweld â Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer haf enfawr o gerddoriaeth fyw, gyda Taylor Swift, Billy Joel a Syr Tom Jones ymhlith yr enwau fydd yn perfformio yng Nghymru yn ystod 2024.
Efallai y bydd rhai o'r selogion hŷn yn cofio teimlo nad oedd y sêr mawr byth yn dod i Gymru pan roedden nhw'n tyfu i fyny, ond mae hynny'n bendant yn newid.
Ac mae'n fusnes mawr hefyd gyda ffigyrau diweddaraf y diwydiant yn awgrymu fod £218m wedi ei wario gan bobl yn mynychu gigs yng Nghymru yn 2022.
"Mae yna hanes o bobl sydd, ar ôl iddynt wneud taith o amgylch y DU neu Ewrop, wedi hepgor Cymru," meddai cyflwynydd Radio 1 Sam MacGregor.
"Ond mae'n gyffrous gweld artistiaid yn dechrau newid y canfyddiad hwnnw.
"Ac os gall pobl fel Taylor Swift, yr artist mwyaf yn y byd ar hyn o bryd, ddod i Gaerdydd, pam na all rhai o'r artistiaid llai ddod?"
Mae Sam yn cyflwyno rhaglen frecwast penwythnos Radio 1 gyda Danni Diston, sy'n wreiddiol o Gernyw ac a aeth i'r brifysgol yng Nghaerdydd ar ôl teithio i'r ddinas sawl tro i wylio ei hoff fandiau.
"Os nad yw rhywbeth yn agos atoch chi, mae cerddoriaeth fyw mor bwysig fel y byddwch chi'n gwneud y daith. Ac i artistiaid - pam na fyddech chi'n [perfformio yn] y DU gyfan?"
Bydd Bruce Springsteen yn Stadiwm y Principality ym mis Mai a bydd Pink, y Foo Fighters, Billy Joel a Taylor Swift yn chwarae yno yr haf.
Bydd Manic Street Preachers, Crowded House, Girls Aloud a New Order hefyd yn chwarae mewn gwahanol leoliadau yn y ddinas.
Tu hwnt i Gaerdydd mae yna gyfres o gyngherddau ym mhafiliwn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni gan gynnwys y Manic Street Preachers a Suede, Jess Glynne a Bryan Adams.
Mae Syr Tom Jones hefyd yn perfformio yno ac yng Nghae Ras Cas-gwent, gyda Take That hefyd yn Abertawe ym mis Mehefin.
'Hynod ddiddorol i artistiaid'
Felly os yw artistiaid yn dymuno perfformio mewn lleoliadau gwahanol, beth all eu denu i Gymru?
Nick Saunders yw Cyfarwyddwr Digwyddiadau DEPOT Live, y tîm tu ôl i ddigwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, ble fydd yna 18 noson o berfformiadau yn 2024.
Mae'n credu bod Caerdydd angen gwneud y gorau o'r hyn sydd ganddi.
"Y peth cyntaf y mae llawer o'r artistiaid yn gofyn amdano yw i gael edrych o gwmpas," dywedodd.
"Mae rhai o'r pethau canoloesol sydd yn y castell yn hynod ddiddorol i'r artistiaid.
"Ond hefyd mae gennym ni boced fach o ble rydych chi'n mynd â'ch hun yn ôl mewn amser, a dwi'n meddwl bod artistiaid yn gweld hynny'n arbennig iawn pan maen nhw'n perfformio yma."
Ond mae Nick yn ansicr a all Caerdydd ddenu mwy o'r gigs mwyaf heb fwy o fuddsoddiad yn y seilwaith o amgylch y ddinas.
Mae ffigyrau diweddaraf UK Music, sy'n cynrychioli'r diwydiant, yn amcangyfrif fod 510,000 o dwristiaid cerddoriaeth wedi mynychu ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn 2022, gan wario £218m.
Mae Emily Cotterill o FOR Cardiff, grŵp sy'n cynrychioli busnesau yng nghanol y ddinas, yn credu bod pob digwyddiad yn gyfle mawr.
"Mae i gyd am gael pobl i brofi Caerdydd," meddai.
"Yn aml, yn enwedig gyda'r enwau mawr, maen nhw'n rheswm i ddod yma am y tro cyntaf ac yna mae hi i fyny i ni i helpu'r bobl yna i ddod yn ôl am yr ail, trydydd neu bedwerydd tro."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019